Effaith Brexit ar Argaeledd Cymorth Cyfreithiol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:54, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae Brexit yn tueddu i gynhyrchu llawer mwy o wres na golau y dyddiau hyn, gyda sïon a honiadau a gwrth-honiadau'n chwyrlïo o'n hamgylch, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i geisio dysgu'r gwirioneddau sydd yno ar lawr gwlad. Ein cyd-Aelodau Seneddol yn San Steffan—ceir grŵp o'r enw Cyfreithwyr Cymorth Cyfreithiol Ifanc sydd wedi mynd â thua 45 o aelodau gyda hwy, i'w cysgodi, allan ar lawr gwlad i wneud cymorth cyfreithiol, a deall yn iawn beth yw'r problemau sy'n eu hwynebu, a'r heriau o'u blaenau gyda Brexit ac i deuluoedd, ni waeth beth fydd y canlyniad. Mae aelodau'r grŵp hwnnw'n cynnwys, er enghraifft, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol sy'n gyfrifol am gymorth cyfreithiol ac Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Gymru. A fyddech yn ystyried cefnogi'r grŵp hwn a cheisio cyflwyno menter o'r fath yma yng Nghymru o bosibl, er mwyn i ninnau hefyd allu mynd allan a dysgu'r realiti hwnnw?