3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr adolygiad o ddatganoli a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Brif Weinidog y DU? 335
Gellir croesawu rhai agweddau ar adolygiad Dunlop. Mae ganddo'r potensial i gefnogi'r cydadolygiad cysylltiadau rhynglywodraethol, ond ceir cwestiynau sylfaenol ynglŷn â'r setliad datganoli a rôl swyddfeydd tiriogaethol, sydd y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad, ond serch hynny, mae angen rhoi sylw iddynt.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn hollol warthus fod Prif Weinidog y DU wedi gwneud datganiad o'r fath heb hyd yn oed ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig. Dywedodd Prif Weinidog Cymru'n glir iawn wrth ateb cwestiwn yn y pwyllgor ddydd Llun mai'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru glywed am hyn oedd pan oedd araith Prif Weinidog y DU yn cael sylw yn y cyfryngau, pan oedd ar ei thraed yn siarad. Un o agweddau sylfaenol datganoli yw y dylai fod yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Llywodraethau yng ngweddill y Deyrnas Unedig, ac os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn teimlo y gallant gyhoeddi adolygiad heb hyd yn oed ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig, y Llywodraethau yng Nghymru a'r Alban, mae hynny'n dweud wrthych beth yn union yw eu barn am ddatganoli.
Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod hon yn ffordd sarhaus iawn o weithredu, ei fod yn safbwynt ofnadwy i'w arddel a'i fod yn crynhoi agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gyfleu'r teimladau hyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, teimladau a rennir, rwy'n siŵr, gan bob rhan o'r Siambr? Ac a wnewch chi sicrhau hefyd fod Llywodraeth y DU yn deall bod y broblem gyda datganoli yn dechrau ac yn gorffen gyda hwy?
Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Credaf y bydd yn cofio'r araith a wnaeth Prif Weinidog Cymru i'r Institute for Government ychydig wythnosau yn ôl, lle dywedodd nad mater o beth sy'n digwydd yng Nghymru yn unig yw datganoli, ond ei fod hefyd yn gwestiwn ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan, ac mae'n ddyletswydd ar San Steffan i edrych ar sut y gall San Steffan a Whitehall weithredu mewn ffordd wahanol er mwyn rhoi cefnogaeth lawn i'r setliad datganoli. Credaf y gallwn groesawu rhai rhannau o'r araith honno. Dywed Prif Weinidog y DU fod y DU yn dibynnu ar, ac yn cael ei diffinio gan gefnogaeth ei phobl, yn yr ystyr o fod yn gymdeithas wirfoddol o wledydd, ac rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth fod datganoli bellach yn rhan sefydlog a pharhaol o gyfansoddiad y DU, fel y nododd yr araith. Os yw San Steffan a Whitehall o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â sut y maent yn ailwerthuso'r ffordd y maent yn gweithio i gefnogi datganoli, credaf y bydd hynny'n beth da, ond os ydych am roi araith am ddyfodol yr undeb a dyfodol datganoli fel rhan o hynny, rwy'n ategu ymateb yr Aelod mai'r peth lleiaf y gallwch ei wneud yw cael sgwrs gyda'r gweinyddiaethau datganoledig cyn hynny er mwyn cadw a gwarchod, fel y dywed, yr ymdeimlad hwnnw o gyd-fenter y setliad cyfansoddiadol.
Ond a dweud y gwir, mae pwynt ymarferol iawn i hyn: rydym wedi bod yn galw yma am gynnydd ar yr adolygiad rhynglywodraethol dros y 15 mis diwethaf, ac ychydig iawn sydd gennym i'w ddangos mewn perthynas â hynny hyd yn hyn. Bydd wedi gweld y cyhoeddiad a wnaed gan David Lidington yr wythnos diwethaf ac ymateb Llywodraethau Cymru a'r Alban i hynny. Mewn gwirionedd, byddai bwrw ymlaen â'r cynnydd hwnnw wedi bod yn ffordd dda iawn o ddangos ymrwymiad i'r setliad datganoli yma yn y DU, ac roedd lansio adolygiad arall heb gydnabod hynny yn anffodus yn fy marn i. A phe bai'r Prif Weinidog wedi ceisio cyngor y gweinyddiaethau datganoledig, credaf y gallem fod wedi cael trafodaeth adeiladol ynglŷn â'r cylch gorchwyl ac ynglŷn â sut y gellid ei lunio'n well i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sylweddol sy'n ein hwynebu wrth ymdrin â Llywodraeth y DU. Nodwn yn arbennig y pwyslais ar bwysigrwydd y swyddfeydd tiriogaethol yn yr adolygiad, a chredaf fod Prif Weinidog Cymru wedi dweud yn glir yn ei araith yn ôl ym mis Mai fod cyfle ac angen bellach, mewn gwirionedd, i ailystyried rôl swyddfeydd Cymru a'r Alban yn radical yn y byd ôl-Brexit hwn.
Rwy'n gwerthfawrogi ymateb y Gweinidog a dweud y gwir, oherwydd wrth gwrs, dim ond ceisio ymateb oedd Llywodraeth y DU i geisiadau gan y Llywodraeth hon, a Llywodraeth yr Alban hefyd, ynghylch y ffordd y mae adrannau Whitehall a'r DU yn gweithredu. Ac rydym yn croesawu'r ffaith bod Prif Weinidog y DU wedi ymateb mewn ffordd mor gadarnhaol drwy gyhoeddi'r adolygiad hwn. Mae Rhif 10 wedi datgan yn gwbl glir na fydd yr adolygiad yn ymwneud â meysydd sydd wedi'u datganoli. Mae hyn yn ymwneud â chryfhau datganoli, cydnabod ble mae'r ffiniau a sicrhau bod peiriant y Llywodraeth yn Llundain yn gallu ymateb yn gywir ac yn briodol i faterion a ddaw iddynt, lle gall fod cymhwysedd datganoledig neu berthynas ddatganoledig y mae angen ei chydnabod. Felly, croesawaf y ffaith eich bod yn croesawu llawer o agweddau ar araith Prif Weinidog y DU. Rwy'n siŵr fod yna adegau pan allai'r cyfathrebu fod yn well rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a chredaf fod pawb yn cydnabod bod yna adegau weithiau pan mae'n dda cael rhybudd ynglŷn â'r pethau hyn. Yn amlwg, nid oedd hynny'n wir y tro hwn. Efallai fod hynny'n drueni.
Ond fel y dywedaf, y gwir amdani yw bod hon yn Brif Weinidog y DU sy'n ymateb yn gadarnhaol i geisiadau gan Lywodraeth Cymru a'r Llywodraeth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sy'n awyddus i ystyried y mater hwn ac i sicrhau bod adrannau Whitehall a Llywodraeth y DU yn gweithredu'n briodol. Felly, o ran yr ymgysylltu a wnewch gyda Llywodraeth y DU, a gaf fi ofyn i chi groesawu'r penderfyniad a wnaed gan Brif Weinidog y DU yn ffurfiol, ac a wnewch chi sicrhau eich bod yn cydweithredu â'r adolygiad hwnnw er mwyn helpu Llywodraeth y DU i ganfod ble mae'r diffygion fel y gellir eu cywiro yn y dyfodol?
Wel, nodaf y pwyntiau a wnaed gan yr Aelod. Nid mater o gael rhybudd yn unig yw hyn. Credaf fod hynny, mewn ffordd, yn datgelu'r her sy'n ein hwynebu. Nid mater o ddweud wrthym beth sy'n digwydd yn unig yw hyn. Mae'n fater o gymryd rhan yn briodol ac yn drwyadl yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, a dyna'r darn sydd ar goll. Rydym yn cael digon o rybudd, er nad ar yr achlysur hwn; yr hyn nad ydym yn cael digon ohono yw ymgysylltiad aeddfed priodol ar sail gydradd, a hynny, yn fy marn i, sydd wrth wraidd yr her sy'n ein hwynebu.
Os daw'r adolygiad i'r casgliad mai'r ateb syml i ddyfodol yr undeb yw cryfhau Swyddfa Cymru, fel y darllenais, rwy'n credu, mewn rhai o'r briffiau i'r wasg a oedd braidd yn hyperbolig, credaf fod hynny'n gamddarlleniad sylfaenol o'r hyn sydd ei angen i gryfhau'r undeb. Yr hyn sydd ei angen i gryfhau'r undeb yw gwell cysylltiadau a gwell peirianwaith rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig, nid cryfhau'r swyddfeydd tiriogaethol.
Ond edrychaf ymlaen at glywed casgliad yr adolygiad. Fel y dywedaf, byddai'r cylch gorchwyl wedi bod yn llawer cryfach ac yn fwy defnyddiol pe baem wedi cael ymgysylltiad priodol ymlaen llaw, ond edrychwn ymlaen at weld yr hyn sydd gan yr adolygiad i'w ddweud maes o law.
Ar fore'r dydd y cyhoeddwyd yr adolygiad hwn o ddatganoli gan Brif Weinidog y DU, cefais e-bost gennych, Weinidog, a oedd yn cynnwys diweddariad ar y gwaith rydych wedi bod yn ei wneud i geisio gwella gweithio rhynglywodraethol yn eich rôl fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE). Fe gyhoeddoch chi fod y pwyllgor wedi cytuno ar egwyddorion drafft ynglŷn â sut y dylid cynnal y cysylltiadau hynny yn y dyfodol, a chawsant eu croesawu. Fe'u drafftiwyd gan Lywodraeth Cymru. Maent yn cynnwys, a dyfynnaf,
Cynnal cysylltiadau cadarnhaol ac adeiladol, yn seiliedig ar gyd-barch tuag at gyfrifoldebau llywodraethau ar draws y DU a'u rôl gyffredin yn y gwaith o lywodraethu'r DU. Adeiladu a chynnal ymddiriedaeth, yn seiliedig ar gyfathrebu effeithiol.
Ychydig oriau yn ddiweddarach, cawsom y cyhoeddiad hwn gan Brif Weinidog y DU y byddai ei Llywodraeth yn cynnal adolygiad o ddatganoli. Ni chafodd y gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys eich un chi, Weinidog, wybod ymlaen llaw fod hyn ar y ffordd. Onid dyna'r pwynt allweddol yn y fan hon? Ni chawsoch wybod am fanylion, cwmpas na chylch gorchwyl yr adolygiad, ac ni wnaethoch gydsynio iddo. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, fod yr egwyddorion drafft ar gyfer gwaith rhynglywodraethol yn y dyfodol, y mae wedi cymryd mwy na blwyddyn i gytuno arnynt ac a gynhyrchwyd gan eich Llywodraeth, wedi'u torri o fewn ychydig oriau i'w cyhoeddi? Onid yw hyn yn dweud popeth y mae angen i ni ei wybod ynglŷn ag a oes modd ymddiried yn Llywodraeth y DU i weithredu gyda phob ewyllys da mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol? Mae David Lidington, Dirprwy Brif Weinidog y DU, cystal â bod wedi cydnabod heddiw eu bod yn ystyried bod Cymru wedi cael cam gan San Steffan. Mae'r setliad datganoli presennol sydd wedi'i gynnwys yn Neddf Cymru yn fater o gyfraith. A allwch roi sicrwydd inni felly, beth bynnag fydd canlyniad yr adolygiad amheus hwn, y bydd pwerau Cymru, fel y'u hymgorfforir yn y ddeddfwriaeth honno, yn cael eu diogelu? Ac yn olaf, o ystyried ymddygiad Llywodraeth y DU yn hyn o beth ac o ran peryglu dyfodol economaidd ein cenedl gyda Brexit 'dim bargen', a ydych o'r un farn â Phrif Weinidog Cymru, yn yr ystyr nad yw eich ymrwymiad i undeb y DU yn ddiamod, ac os felly, onid yw'n dilyn y gallai eich Llywodraeth ddod i'r casgliad ryw ddydd y byddai Cymru yn well ei byd fel gwlad annibynnol?
Wel, gallaf roi sicrwydd iddi, yn sicr, y bydd y Llywodraeth hon bob amser yn ymladd i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hadlewyrchu orau yn yr holl drafodaethau a negodiadau a gawn gyda Llywodraeth y DU ac na fyddwn yn goddef i unrhyw bwerau gael eu cymryd oddi wrth y Cynulliad hwn neu Lywodraeth Cymru. Gallaf roi sicrwydd pendant iddi ynglŷn â hynny.
Bydd wedi nodi fy ymateb i gyhoeddi'r egwyddorion yr wythnos diwethaf ar y cyd â Michael Russell, fy swyddog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban. Roeddem yn croesawu'r ffaith bod yr egwyddorion hyn wedi'u gwneud yn gyhoeddus a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n arwain ar y gwaith hwnnw ac yn arwain ar y gwaith hwnnw'n effeithiol iawn. Roedd yn siomedig—mae'n siomedig—mai hon oedd yr unig ran o'r adolygiad y teimlem ei bod yn ddigon aeddfed ac wedi'i datblygu'n ddigonol i'w gwneud yn gyhoeddus. Un o'r pethau y bydd angen iddynt ddigwydd yw cyfarfod llawn buan o'r Cydbwyllgor Gweinidogion rhwng penaethiaid y Llywodraethau, ac rwy'n siŵr y bydd myfyrio ar yr adeg honno ynglŷn â sut y mae angen cyflawni'r egwyddorion hynny, yn hytrach na'u cyhoeddi'n unig.
Ac o ran ei phwynt ynglŷn â'r trafodaethau a gafodd gyda Phrif Weinidog Cymru yn y pwyllgor y diwrnod o'r blaen, buaswn yn dweud ein bod wedi dweud yn glir iawn ein bod yn credu mai'r ffordd orau o ddiogelu buddiannau Cymru yw fel rhan o undeb sy'n gweithio'n dda, a dyna pam ein bod yn gweithio mor galed i geisio diwygio'r agweddau ar hynny nad ydynt yn gweithio orau er budd Cymru ar hyn o bryd. Credaf fod y Prif Weinidog wedi manteisio ar yr hyn a ddylai fod yn gyfle mewn pwyllgor i gael trafodaeth fwy myfyriol, ystyriol a phwyllog am rai o'r pethau hyn, i gymryd rhan yn hynny, a rhaid i mi ddweud fy mod yn meddwl bod y ffordd yr ymatebwyd i hynny braidd yn anffodus. Gwnaeth y Prif Weinidog y pwynt, yn syml iawn yn fy marn i, pe baech yn dweud—. A oes modd i unrhyw wleidydd ddweud, ymhell yn y dyfodol, o dan unrhyw amgylchiadau, o dan unrhyw fersiwn o'r—[Torri ar draws.]—o dan unrhyw fersiwn o'r—y byddai buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn y ffordd orau? Nid yw hynny'n—ni all rhywun ddweud hynny, ond rydym yn credu'n angerddol iawn fod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu orau fel rhan o'r Deyrnas Unedig ac undeb sy'n gweithio'n dda, ac undeb y mae angen iddo weithio'n well nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd.
Nid dyma'r achos cyntaf, wrth gwrs, lle mae buddiannau democrataidd cynrychioliadol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cael eu hanwybyddu, i ryw raddau, neu eu rhoi o'r neilltu wrth i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â rhywbeth heb drafod nac ymgynghori. Mae i'w weld yn rhyfedd iawn. Roedd yr un blaenorol, wrth gwrs, yr un mor arwyddocaol, ar gronfa ffyniant gyffredin y DU. Felly, tybed—yn amlwg, nid ydynt yn dysgu eu gwers, neu maent yn parhau'n fwriadol i anwybyddu dymuniadau Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth yr Alban a'r ddau Gynulliad hefyd, y ddwy Senedd, ond ble rydym ni ar y gronfa ffyniant gyffredin? Oherwydd, yn y cyfamser, yng Nghymru, fel yr awgrymiadau a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a chan Lywodraeth yr Alban ar strwythurau datganoli yn y dyfodol, rydym hefyd yn gweithio ar ffyrdd ymlaen ar gyfer dyrannu cyllid yn briodol ledled Cymru. Felly, mae'r grŵp rwy'n falch iawn o'i gadeirio—y grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol i Gymru—yn gweithio'n frwd ledled Cymru gyda chynrychiolwyr o gymdeithas ehangach Cymru i edrych ar y strwythurau cywir, ac eto mae Llywodraeth y DU yn gweithio ar gronfa ffyniant gyffredin y DU, ac ni wyddom lawer am hynny. A wnaiff y Gweinidog rannu ble rydym ni arni ar hynny ar hyn o bryd? A oes gennym unrhyw eglurder ar hynny ar hyn o bryd? Oherwydd gallai hynny ddangos i ni'r ffordd y maent yn bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith diweddaraf hwn.
Wel, diolch i'r Aelod am hynny. A gaf fi fanteisio ar y cyfle hefyd i ddiolch iddo am ei waith yn cadeirio'r grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol, sy'n waith pwysig ac sy'n mynd at wraidd y pwynt a wneuthum i Llyr Gruffydd yn gynharach ynglŷn â'r angen i gymryd camau rhagweithiol mewn ffordd greadigol a dychmygus iawn i edrych ar sut y gallwn ddarparu rhai o'r ffynonellau ariannu hyn yn y dyfodol yn wahanol i'r modd y gallasom wneud hynny hyd yma? Felly, diolch iddo ef ac i aelodau'r grŵp llywio am y gwaith a wnânt yn y maes pwysig hwnnw.
Credaf fod y pwynt a wnaed ganddo mewn perthynas ag eglurder gwybodaeth a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â'r gronfa ffyniant yn gwbl hanfodol, onid yw? Rydym wedi dweud yn glir nad dyma'r ffordd i fwrw ymlaen os ydych am barchu ffiniau datganoli, a chredaf y bydd yn rhannu fy siom ynghylch y sylwadau a wnaed gan Boris Johnson—yng Nghaerdydd, o bob man—ddydd Gwener diwethaf mewn perthynas â hyn. Rwy'n gobeithio'n fawr mai mater o wleidyddiaeth plaid oedd hynny wrth iddo geisio enwebiad ei blaid. Rwy'n ofni nad oes gennyf lawer o hyder yn hynny. Fel y mae pethau heddiw, ni allaf ddweud wrtho fod gennyf unrhyw fewnwelediad i beth yw'r argymhellion nac unrhyw fanylion sylweddol, a chredaf y bydd yn rhannu fy siom ynglŷn â hynny.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog Brexit.