Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig.
Cyflwynais y cynnig hwn heddiw am ddau reswm penodol. Y cyntaf yw bod y rhain yn newidiadau go bwysig i'r system bresennol o asesu perfformiad ysgol, a'r ail, nad yw'n fater i'r Gweinidog hwn yn arbennig, ond i'r Llywodraeth yn gyffredinol, gobeithio—gobeithio, Weinidog, y byddwch yn maddau i mi am ddefnyddio'r enghraifft arbennig hon i wneud y pwynt.
Mae'r Gweinidog eisoes wedi esbonio wrthym y gall y system gyfredol o asesu perfformiad ysgolion arwain at ganlyniadau anfwriadol. Bob blwyddyn, mae'n rhaid i lywodraethwyr ysgol osod targedau ar gyfer perfformiad disgyblion yn yr ail a'r trydydd cyfnod allweddol ym mhynciau craidd mathemateg, Saesneg, Cymraeg a gwyddoniaeth a cheir proses debyg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar gyfer myfyrwyr sy’n cyrraedd 16 oed ac yn wynebu arholiadau allanol. Mae'n rhaid iddynt hefyd osod targedau perfformiad mewn dau neu dri phwnc arall, nad ydynt wedi'u pennu. Yna, gellir barnu'r ysgol ar ei pherfformiad yn ôl ei llwyddiant neu fel arall i gyflawni’r targedau hyn—rhywbeth sy'n dod yn weladwy iawn ar ddiwedd blwyddyn 11, lle na wneir y gymhariaeth rhwng targedau ac asesiad athro, ond rhwng targedau a chanlyniadau arholiadau. A gall hynny, fel y clywsom, beri i ysgolion wneud ymdrech anghymesur i amserlennu ar gyfer y pynciau craidd a chwarae’r system drwy gyflwyno myfyrwyr ar gyfer arholiadau na allant ond gynhyrchu cyfwerth â TGAU gradd C.
Fel rhan o ddiwygiadau ehangach, ac i atal yr ymddygiad hwn, mae'r Gweinidog yn symud tuag at drefniadau gwerthuso a gwella newydd. Credaf fod gennym eisoes rai mesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 dros dro y gweithir drwyddynt ar gyfer arholiadau’r haf hwn. Ac nid yw'r broses bresennol o osod targedau yn cyd-fynd â'r mesur perfformiad newydd hwn ac nid yw'n cyfrannu at hunanwerthuso a gwella ysgol. Yn ychwanegol at hynny, gofynnir i lywodraethwyr osod targedau ar set o ofynion na fyddant yn weithredol mwyach. Credaf mai dyna yw craidd dadl y Gweinidog, ond os wyf wedi camddeall, rwy'n fwy na pharod i gael fy nghywiro.
Nawr, mae'r rheoliadau hyn yn dal i’w gwneud yn ofynnol i lywodraethwyr osod targedau; chwech ohonynt o hyd, yn ôl pob golwg. Ond bydd y gofyniad i unrhyw un o'r rheini fod yn bynciau craidd Saesneg, Cymraeg neu fathemateg yn diflannu, yn ogystal â'r angen i adrodd ar ganran y disgyblion sy'n cyflawni'r targedau hynny. Nawr, mae'n bosibl y bydd gennym broblem gyda'r syniad na fydd llywodraethwyr ysgol yn gosod ei thargedau heb wybod pa mor agos neu bell oddi wrth y targedau hynny oedd canlyniadau ei disgyblion. Ond nid prif ddiben cyflwyno'r cynnig hwn i'r Siambr yw herio cyfeiriad teithio cyffredinol y Gweinidog, ond yn hytrach, i roi cyfle i chi, Weinidog, esbonio'n uniongyrchol i ni pam eich bod yn fodlon i ysgolion allu osgoi gosod targedau ar gyfer y tri phwnc hyn yn benodol.
Mae sgiliau da mewn Saesneg a mathemateg, ac yn gynyddol, Cymraeg, yn dal i gael eu hystyried yn ofynion hanfodol mewn unrhyw gais am swydd. A hyd yn oed os yw'r fframwaith perfformiad newydd yn ymwneud â hunanwerthuso a hunanwella, a hyd yn oed os yw disgyblion yn gwneud yn dda yn y pynciau craidd hyn, onid oes dadl dros gadw'r tri phwnc hyn yn bwynt ffocws ym mhob ysgol, gan gofio eu statws penodol ar gyfer camu ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu waith?
Nawr, rwy'n derbyn bod dadl y gall ysgol unigol benderfynu bod angen iddi wella mewn chwe maes cwbl wahanol. Ond ni allaf weld unrhyw beth yn y rheoliadau presennol na'r rheoliadau newydd sy'n atal gosod targedau mewn mwy na chwe maes. Hyd nes yr awn i mewn i’r cwricwlwm newydd yn llawn, ac y gallwn weld sut y mae meysydd dysgu a phrofiad mathemateg a rhifedd ac ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn gweithio, rwy'n gofyn i'r Aelodau ystyried bod yn rhaid i lywodraethwyr gadw'r tri phwnc hyn yn eitemau targed blynyddol hyd nes y bydd y cwricwlwm newydd wedi ymsefydlu ychydig, ac—oni bai y gall y Gweinidog ein perswadio ni fel arall—i gefnogi dirymu'r rheoliadau penodol hyn.
Yr ail reswm dros gyflwyno'r cynnig hwn yw mai dyma’r unig ffordd o ddod â hyn i'r Siambr. Nid bai'r Gweinidog yw hyn, ond mae’n enghraifft berffaith o pam y dylem fel deddfwrfa ochel rhag gadael gormod i is-ddeddfwriaeth lle gellir colli golwg ar bwerau Gweinidogion Cymru. Nawr, mae'r rheoliadau hyn yn deillio o statudau San Steffan, ond mae'r pwynt yn berthnasol i'n deddfwriaeth sylfaenol hefyd. Mae hwn yn newid pwysig i drosolwg ac o bosibl i statws Saesneg, Cymraeg a mathemateg yn ein system addysg bresennol, a gyflwynwyd drwy'r weithdrefn negyddol, na fuaswn wedi gwybod unrhyw beth amdano pe na bawn wedi digwydd bod mewn Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ddiwrnod penodol.
Ac rwy'n gofyn: a yw'n iawn fod gofyn i ni fel deddfwrfa ddeddfu, yn achos y weithdrefn negyddol, drwy gydsyniad tybiedig, os nad ydym yn gwybod bod y rheoliadau hyn ar y ffordd? Ac felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru ystyried ffordd fwy rhagweithiol o gyhoeddi ei his-ddeddfwriaeth yn uniongyrchol i lefarwyr, o leiaf. Mae’r Ddeddf ddeddfwriaeth yn ymwneud â hygyrchedd y gyfraith, ac nid yw’r rheidrwydd arnom ni fel Aelodau i dreillio’n ddall drwy'r archifau cenedlaethol yn y gobaith y byddwn yn dod o hyd i rywbeth yn cyfrif fel hygyrch. Ac er fy mod yn ailadrodd, Weinidog, nad mater i chi yn unig yw hwn, credaf ei fod yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ei ystyried gan ei fod yn ein rhwystro rhag gwneud ein gwaith. Diolch.