Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Mi fydd Plaid Cymru yn atal pleidlais ar y mater yma, nid oherwydd ein bod ni'n eistedd ar y ffens ynglŷn â'r rheoliadau, ond fel arwydd o'n hanfodlonrwydd efo'r broses. Mae'r rheoliadau yn cael gwared ar yr angen statudol i ysgolion osod targedau penodol oherwydd bod y mesuriadau wedi newid. Mae hynny yn synhwyrol, ac mi rydym ni hefyd yn cytuno efo'r newid, a'r symud i ffwrdd o'r ffocws cul ar raddau sydd ar y ffin, sef y ffocws cul yma ar godi graddau o D i C. Yn gyffredinol, dwi'n credu bod ysgolion yn croesawu'r newid, ac mi fydd o'n rhoi'r gallu iddyn nhw ddatblygu targedau go iawn, fydd yn helpu codi safonau ar gyfer pob disgybl. Felly, nid ydym ni'n atal pleidlais oherwydd y pwnc dan sylw. Y rheswm ein bod ni am atal ydy er mwyn gwneud y pwynt y mae Suzy Davies wedi ei amlinellu fel ei hail rheswm hi dros gyflwyno'r cynnig, sef mai dyma'r unig ffordd o gael trafodaeth ar hyn yn y Siambr. Maen bwysig nad ydym ni'n defnyddio deddfwriaeth eilaidd a'r broses negyddol yn ormodol. Mae peryg i Weinidogion ddefnyddio eu pwerau a gwneud newidiadau heb fawr o drafodaeth. Dydy hynny ddim yn iach i ddemocratiaeth. Mae angen i Lywodraeth fod mor agored a thryloyw â phosib. Maen bwysig bod y ddeddfwrfa yn cael craffu yn llawn ar faterion o bwys. Ac yn sicr, dyna un rheswm pam ein bod ni'n credu bod angen symud ar frys i gael mwy o Aelodau Cynulliad yn Senedd Cymru, er mwyn bod y craffu yn gallu digwydd yn llawn. Dwi'n cytuno efo Suzy hefyd y byddai'n fuddiol i'r Llywodraeth fabwysiadu dull tryloyw o gyflwyno deddfwriaeth eilaidd. Dwi'n gwybod nad mater penodol i'r Gweinidog ydy'r ail ran o beth dwi newydd ei ddweud rŵan, ond dwi yn gobeithio y bydd y drafodaeth yma yn sbarduno'r newid sydd ei angen.