Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Wel, diolch Gweinidog Brexit, am ddatganiad Nostradamus arall ynghylch Brexit. Er ein bod ni ym Mhlaid Brexit yn deall ei bod hi'n ddoeth gwneud paratoadau ar gyfer pob sefyllfa o ran ein hymadawiad â'r UE, gan gynnwys Brexit heb gytundeb, a ellir dweud bod y paratoadau hynny mewn gwirionedd yn ddoeth os ydyn nhw'n seiliedig ar ragfynegiadau gwyllt ynghylch yr honiad y byddai ymadawiad heb gytundeb yn ganlyniad trychinebus, yn enwedig i economi Cymru? Mae'n ymddangos bod codi bwganod yn dal i ddigwydd heb unrhyw sylwedd yn y casgliadau sy'n cael eu llunio. Mae bron pob darn o dystiolaeth a luniwyd yn eich datganiad yn ailadrodd y dadleuon a ddefnyddiwyd yn ein herbyn am beidio â manteisio ar yr ewro. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor gwbl ffug oedd y rhagfynegiadau hynny. Nodaf y sylwadau ynglŷn â'r Blaid Dorïaidd yn tawelu llid ei haelodau ar lawr gwlad, ond siawns na ellir dweud bod gan Corbyn yr un obsesiwn i dawelu llid y chwith ffasgaidd yn y Blaid Lafur. Rydych yn dweud nad oes mandad ar gyfer Brexit heb gytundeb. Wel, rydym newydd gael etholiad Ewropeaidd, a rhag ofn nad oeddech yn deall, mae'r enw Brexit yn rhoi syniad o'r hyn y mae'r blaid a enillodd yr etholiad hwnnw mewn gwirionedd yn sefyll drosto, ac roeddem yn glir iawn ynghylch y ffaith y byddem yn cytuno ar Brexit heb gytundeb.
Gadewch i ni edrych ar rai agweddau cadarnhaol sefyllfa o ymadael heb gytundeb. Byddai Brexit heb gytundeb yn golygu nad ydym yn talu'r £39 biliwn a ystyrir ei dalu ar hyn o bryd. Petai Brexit heb gytundeb yn digwydd, byddai'n golygu y gellid defnyddio'r arian hwn i roi cymorth ariannol i'n diwydiannau ein hunain, nid y rhai ar y cyfandir, hyd oni chanfyddir marchnadoedd newydd, mwy proffidiol. Byddai hyn, wrth gwrs, yn cynnwys ein diwydiant ffermio, ac, yn wir, byddai rhoi cymhorthdal i'r diwydiant ffermio yng Nghymru yn gyfran fach iawn o gyfanswm yr arian sy'n cael ei arbed o ganlyniad i'r ffaith nad ydym ni'n perthyn i lanast Brwsel. Rydych yn honni bod colli swyddi yn Ford, Schaeffler a Calsonic yn ganlyniad i ansicrwydd ynghylch Brexit, ond ansicrwydd sy'n deillio o amharodrwydd pobl o blaid aros i dderbyn pleidlais ddemocrataidd pobl Prydain ydyw. Rydych wrth gwrs yn gyfleus, yn anghofio penderfyniad Bosch i symud ei ffatri o Feisgyn i Hwngari, gyda chymorth grantiau Ewropeaidd, gyda cholled o 900 o swyddi medrus, a oedd yn talu'n dda.
Rhaid inni gofio nad oes gan 95 y cant o fusnesau Cymru ddim byd i'w wneud o gwbl ag allforio, a chanran lai fyth sy'n ymwneud ag allforio i'r UE, ac eto mae cost sylweddol i bob busnes sy'n cydymffurfio â rheolau a rheoliadau'r UE. Gallai gadael yr UE roi hwb i fusnesau Prydeinig a Chymreig drwy roi mwy o ryddid iddyn nhw gynhyrchu.
Efallai y dylem ni ystyried diwydiant pysgota Prydain. Ar yr union foment hon, mae 84 o longau treillio'r Iseldiroedd yn defnyddio'r dechneg bysgota parlysu electronig yn yr hyn a fydd dyfroedd Prydain ar ôl Brexit. Mae'r dull hwn o bysgota'n cael effaith drychinebus ar boblogaethau cramenogion a physgod. Dywedir eu bod yn anwybyddu rheolau'r UE drwy honni eu bod yn gychod gwyddonol. Yn wir, mae dyfroedd pysgota Prydain wedi cael eu hysbeilio gan longau tramor am yn agos at hanner canrif. Naw wfft i ddeddfwriaeth amgylcheddol Ewropeaidd sydd wedi'i chanmol mor aml. Gyda llaw, mae ein llongau treillio Prydeinig yn cael eu gwahardd mewn gwirionedd rhag pysgota ym Môr y Canoldir.
Os ydym ni o ddifrif ynghylch paratoi ar gyfer sefyllfa o ymadael heb gytundeb, ni ddylem fod yn ei ddefnyddio'n arf i godi bwganod. Mae'n bosib y bydd rhai anfanteision o adael yr UE, ond mae pob economegydd diduedd yn rhagweld mai rhywbeth tymor byr yn unig yw hyn. Mae'r DU wedi profi dro ar ôl tro fod ganddi sylfaen economaidd hynod o gydnerth. Ni ddylem ni ofni Brexit, pa bynnag ffurf y bydd ganddo. Gwell sefyllfa o ymadael heb gytundeb na'r hyn y mae rhai aelodau o'r Cynulliad hwn yn ei ystyried neu, yn waeth fyth, yr oedd gan Theresa May ei bryd arno.