Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch i David Rees am ei gwestiynau. Byddaf yn ymdrin â nhw yn eu tro. O ran cludo nwyddau a thrwyddedu, rydym mewn cysylltiad agos, yn amlwg, â'r Gymdeithas Cludiant Ffyrdd a'r Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau o ran y materion y byddant yn eu hwynebu, yma yng Nghymru a hefyd, wrth gwrs, ymhellach i ffwrdd. Gallai effaith hwn a fyddai'n cael ei deimlo ledled y DU effeithio ar lwybrau cludo nwyddau economi Cymru ar draws y ffin. Rydym ni wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU mewn cysylltiad â hyn. Rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol y gallai troi at y system drwyddedu ryngwladol osod cyfyngiadau llym, yn ymarferol, ar allu gweithredwyr i symud nwyddau ar draws ffiniau'r DU a'r UE. Bydd yn gwybod, rwy'n credu, bod yr UE wedi cytuno ar ateb dros dro pe baem yn gadael heb gytundeb, fel y byddai nwyddau'n dal yn gallu symud ar draws y ffin ar sail cyd-gydnabyddiaeth, ond mae hynny'n ymestyn hyd ddiwedd y flwyddyn galendr hon. Fel y deallaf heddiw, nid yw hynny wedi'i ymestyn i adlewyrchu'r dyddiad gadael ym mis Hydref, felly rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol ynghylch pa ymateb sydd ei angen o ran hynny.
O ran porthladdoedd, bydd yn cofio, rwy'n credu, y datganiad a wnaeth Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ym mis Ebrill ynglŷn â'r trefniadau yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw ynghylch Caergybi i sefydlu'r capasiti ychwanegol ar safle Road King ac, yn wir, Parc Cybi. Mae'r trefniadau hynny yn parhau i fod yn bosib ar gyfer Brexit hwyrach, ac yn barod i'w defnyddio, pe bai angen. Nid dyna'r disgwyliad presennol, ond maen nhw yno wrth gefn pe bai eu hangen.
O ran capasiti warws, o ran y cyflenwad bwyd yn benodol, fel y gŵyr, rwy'n credu, mae Llywodraeth y DU yn arwain ar fater cyflenwi bwyd ar draws y DU, er yn amlwg rydym ni'n cyfrannu at hynny fel Llywodraeth. Maen nhw'n edrych ar gapasiti warysau o ran storio oer ac yn y blaen. Bydd hefyd yn gwybod, rwy'n credu, bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod arian ar gael ar gyfer storio oer yng Nghymru drwy'r sector preifat. Yn ogystal â hynny, mewn cyd-destun ar wahân i fwyd, mae gennym ni nawr y capasiti yn y warws sydd gennym ni bellach yn y de i'n galluogi ni i storio dyfeisiau meddygol a dyfeisiau gofal cymdeithasol, gan ein galluogi i stocio eitemau na fyddem efallai'n teimlo bod angen eu stocio, yng nghyd-destun sicrhau cyflenwadau i'r GIG a'r sector gofal. Ond mae'n amlwg yn fater sydd â chyfres wahanol o ystyriaethau ar adeg yr ymadael ym mis Hydref o gymharu â'r gwanwyn oherwydd y pwysau ar warysau oherwydd y stoc cyn y Nadolig ac ati.
O ran deddfwriaeth frys, hoffwn dawelu meddwl yr Aelod bod hwn yn fater sy'n cael ei adolygu'n barhaus gan gyfreithwyr sy'n edrych ar hynt deddfwriaeth. Ond, yn amlwg, fel rwy'n gwybod fod ei gwestiwn yn ei awgrymu, nid yw'n bosib bod yn bendant ynghylch beth, os unrhyw beth, a allai fod ei angen nes ein bod yn gwybod beth yw'r sail dros ymadael. Ond mae honno'n sefyllfa sy'n cael ei hadolygu'n fanwl.
Roedd ei gwestiwn olaf, mi gredaf, yn ymwneud ag ymgysylltu â'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd mewn cysylltiad â hyn. Bydd yn gwybod y bu'r Prif Weinidog ym Mrwsel ychydig wythnosau'n ôl, a bod cyswllt swyddogol yn parhau â phartneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn iddyn nhw ddeall safbwynt Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru.