Prosiectau Ynni Dŵr

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:35, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Gall cynlluniau ynni dŵr fod yn gymhleth iawn, ac mae angen eu cynllunio a'u rheoli'n ofalus iawn, er mwyn osgoi effeithiau annerbyniol ar gymunedau ac amgylchedd afonydd. Ceir goblygiadau i'n hafonydd, ac yn wir, ar hyn o bryd, credaf y byddwch yn gweld mwy o rwystrau’n cael eu tynnu allan o afonydd nag o argaeau’n cael eu gosod. Unwaith eto, soniaf am wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy'n eiddo i Gymru. Mae llawer o systemau argaeau mwyaf Cymru yn defnyddio ynni dŵr i harneisio pŵer dŵr. Mae gennym Lyn Brianne, er enghraifft, a chwm Elan. Yn anffodus, oherwydd daearyddiaeth Cymru, rwy'n credu mai ychydig iawn o gyfleoedd mawr sydd ar ôl bellach i ynni dŵr wneud cyfraniad mawr i'n cyflenwad ynni, ond rwy'n sicr yn awyddus iawn i glywed am unrhyw brosiectau penodol.