Prosiectau Ynni Dŵr

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:34, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Gwyddom fod pob afon yn llifo i lawr y rhiw ac yn llifo i'r môr dros wyneb y tir. A gwyddom hefyd y gellir trosi hyn yn drydan naill ai drwy adeiladu argaeau ar draws yr afon, ac yna rhyddhau'r dŵr, neu drwy ddefnyddio cerrynt yr afon i gynhyrchu trydan. Gwyddom fod hyn yn digwydd ym mhob cwr o'r byd—UDA, Tsieina, Rwsia, ar draws De America. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i wneud hyn ar draws de Cymru?