Prosiectau Ynni Dŵr

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:30, 17 Gorffennaf 2019

Diolch yn fawr. Wrth i'ch Llywodraeth gyhoeddi'r argyfwng newid hinsawdd, a'ch awydd chi i weithredu ar hyn, mae pobl Cymru yn chwilio am brawf nad geiriau gwag yn unig ydy hynny. Ac, fel rydych chi'n gwybod, dwi wedi codi'r mater o ryddhad trethi i gynlluniau ynni dŵr yn y Siambr yma cyn heddiw, ac mae Plaid Cymru wedi, hyd yma, llwyddo i'ch darbwyllo chi i barhau efo ryddhad trethi tan fis Mawrth flwyddyn nesaf. Beth sydd ddim yn glir ydy beth sydd yn digwydd ar ôl mis Mawrth flwyddyn nesaf, ac mae hynny'n creu ansicrwydd i gynlluniau ynni cymunedol, fel Ynni Ogwen yn fy etholaeth i. Felly, fedrwch chi, fel rhan o'ch ymrwymiad i daclo newid hinsawdd, roi sicrwydd i ni heddiw y byddwch chi yn dileu trethi ar gyfer y cynlluniau hydro cymundeol, a hynny yn barhaol?