Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Wel, gallaf roi sicrwydd i’r Aelod, a phawb arall ledled Cymru, na fu’n rhaid imi gael fy mherswadio gan Plaid Cymru i wneud hynny. Rydym yn darparu rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol, fel y gwyddoch, ac mae’r cymorth ardrethi hwnnw hefyd ar gael i brosiectau ynni dŵr eraill sydd â gwerth ardrethol o lai na £50,000. Rwy'n ymwybodol iawn o Ynni Ogwen, sy'n gynllun ardderchog yn eich etholaeth, ac rwyf wedi ymweld ag ef. Fe fyddwch yn gwybod nad ydym yn gwybod eto beth fydd ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Nid ydym wedi cael unrhyw syniad gan Lywodraeth y DU, ond yn amlwg, mae'n faes lle roeddwn yn teimlo bod angen inni gael y cymorth hwnnw i gynlluniau ynni dŵr. Rwy'n awyddus iawn—. Fel rhan o'r argyfwng hinsawdd, yn amlwg, mae ynni adnewyddadwy yn rhan enfawr o’r gwaith o gyflawni ein targedau hinsawdd. Felly, byddaf yn parhau i sicrhau bod ynni adnewyddadwy yn rhan fawr o'n gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy yma yng Nghymru.