Cefnogi'r Gymuned Ffermio yng Nghanolbarth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:37, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm â swyddog gweithredol cangen sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru, ac ar ran aelodau sir Drefaldwyn, codwyd nifer o faterion, a oedd yn cynnwys mwy a mwy o achosion o ddwyn offer a chyfarpar fferm, yn ogystal â chyflwyno parthau perygl nitradau, a’u hymgyrch i leihau’r nifer o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. O ran parthau perygl nitradau, eu pryder, wrth gwrs, yw faint o fiwrocratiaeth a ddaw ynghyd â hynny, a buaswn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu eich sylwadau ynghylch y pryder hwnnw. Buaswn hefyd yn ddiolchgar pe gallwn ddysgu hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chomisiynydd heddlu a throseddu canolbarth a gorllewin Cymru i fynd i'r afael ag achosion o ddwyn cyfarpar, peiriannau ac offer o ffermydd, sydd, yn anffodus, wedi bod yn ffactor cynyddol dros y misoedd diwethaf.