Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Felly, rwyf eisoes wedi mynychu'r cyngor economaidd a gadeirir gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates, ar ôl cael gwahoddiad gan fusnesau i drafod sut y gallant ein helpu i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gennym, yn ogystal â sut y gallwn gyrraedd sero net erbyn 2050, sef ein huchelgais, gan fynd ymhellach na'r hyn y cawsom ein cynghori i wneud gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Felly, os yw'n rhywbeth yr hoffai busnesau i ni ei wneud, yna rwy'n siŵr y byddai Ken Skates a minnau'n fwy na pharod i'w wneud, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn o gael fy ngwahodd i'r cyngor economaidd ar gais busnesau, gan eu bod yn gweld, os ydym am gyflawni'r gostyngiadau sero net hynny, eu bod yn rhan fawr o'r gwaith i'n helpu i wneud hynny.