1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae'n amlwg y byddwch yn ymwybodol, fel y mae'r holl Aelodau a'r cyhoedd yn ymwybodol, o'r tarfu yng nghanol Caerdydd heddiw a ddoe ac echdoe. Un o'r cyhuddiadau y mae'r protestwyr wedi eu gwneud yn erbyn llywodraethau o bob lliw, ond yn arbennig yma, yw nad yw'r llywodraethau'n gweithredu digon ar yr agenda newid hinsawdd, ac yn amlwg, y preswylwyr sy'n dioddef yn sgil y tarfu. Beth fyddai eich neges i drigolion Caerdydd yr effeithiwyd arnynt, gan fod y protestwyr yn gwneud y cyhuddiad hwnnw yn erbyn eich Llywodraeth chi?
Nid yw'r protestwyr wedi ceisio ymgysylltu'n uniongyrchol â mi, ond mae swyddogion wedi cyfarfod â rhai aelodau cyn heddiw, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r brotest sy'n mynd rhagddi.
Credaf fod Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, wedi tynnu sylw at y problemau: mae a wnelo hyn â chydbwysedd—mae a wnelo â chydbwysedd rhwng amddiffyn yr hawl i brotestio'n heddychlon, ond wrth gwrs, ni ellir caniatáu i bethau fynd yn rhy bell o ran tarfu ar fywydau pobl gyffredin. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod hynny.
Fel Llywodraeth, credaf fod datgan argyfwng hinsawdd ynddo'i hun a gweld sut y mae hynny wedi ysgogi awdurdodau lleol, cynghorau tref, unigolion a busnesau i weithredu yn dangos ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn, a faint o waith rydym yn ei wneud—. Rydym yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn. Buaswn yn annog y protestwyr, er enghraifft, i ddarllen y cynllun cyflawni carbon isel, sy'n nodi'r 100 o bolisïau a chynigion o ran yr hyn y bwriadwn ei wneud dros y blynyddoedd nesaf.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Credaf y byddai cryn dipyn o drigolion, os nad llawer o breswylwyr a busnesau, yn synnu nad yw'r protestwyr wedi ymgysylltu â chi o gwbl, o gofio mai eu dymuniad penodol, yn amlwg, yw bod y Llywodraeth yn cyflawni mwy yn y maes penodol hwn, ac felly, yn hytrach na phrotestio a blocio ffyrdd, efallai fod ymgysylltu yn ffordd lawer gwell o brotestio yn yr achos hwn.
Ond mae'n gyhuddiad teg i'w gyfeirio at y Llywodraeth. Pan oedd y Prif Weinidog presennol yn ymgyrchu, dywedodd y byddai'n cyflwyno Deddf aer glân, ac mewn ymateb i gwestiynau gan arweinydd yr wrthblaid yn ôl ym mis Mai, dywedodd ei fod wedi cael trafodaeth gyda chi ynglŷn â hyn a bod Llywodraeth Cymru yn llunio cynigion yn y maes penodol hwn. Yn anffodus, ddoe, yn y datganiad deddfwriaethol, ni welsom unrhyw gyhoeddiad o gwbl yn y maes penodol hwn. Mae 2,000 o bobl y flwyddyn yn marw cyn pryd yng Nghymru—pump y dydd, Weinidog. Mae angen gweithredu yn y maes hwn, felly pan fydd protestwyr yn dweud nad ydynt yn gweld gweithredu, onid ydych yn gweld, yn y maes penodol hwn, fod diffyg gweithredu a diffyg brys ar ran Lywodraeth Cymru?
Nac ydw. Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr pan wneuthum ddatganiad ar aer glân bythefnos yn ôl, rwy'n credu—
Fe ymatebais.
Os ymateboch iddo, fe fyddwch yn gwybod beth a ddywedais, a byddwch yn gwybod fy mod wedi dweud y byddwn yn ymgynghori yn yr hydref. Yn dibynnu ar yr ymatebion, bydd hynny wedyn yn llywio cynllun a Bil posibl.
Wel, gyda phob parch, ni soniodd y Prif Weinidog am hyn o gwbl yn ei ddatganiad deddfwriaethol ddoe. O gofio mai dim ond oddeutu 18 mis o dymor y Cynulliad hwn sydd gennym ar ôl, mae'n gwbl glir na fydd y Llywodraeth yn deddfu yn y maes penodol hwn. Ac fel rwyf wedi'i ddweud, o gofio bod hwn yn fater brys—2,000 o farwolaethau cyn pryd; pump y dydd—yn sicr, mae'n rhaid i hynny fod yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth er mwyn gwneud cynnydd yn y maes hwn.
Ond y pwynt arall y mae angen sôn amdano yma, yn amlwg, yw bod yr holl gyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru y tymor hwn, yn benodol ynghylch yr argyfwng hinsawdd a'r ffordd y byddwn yn cyrraedd dim allyriadau carbon erbyn 2050—a gefnogir gan y meinciau hyn—yn galw am ddeialog gyda busnesau a mentrau ledled Cymru. Os ydych yn ystyried gwaith dur Port Talbot, er enghraifft, daw 15 y cant o allyriadau carbon Cymru o waith dur Port Talbot. Mae'n hanfodol fod busnesau'n hyderus y gellir cwblhau'r daith y bydd yn rhaid iddynt fynd arni ac y bydd y Llywodraeth yn eu cefnogi. A wnewch chi ymrwymo i lansio uwchgynhadledd economaidd gyda Ken Skates, Gweinidog yr economi, i ymgysylltu â busnesau, eu gwahodd o gwmpas y bwrdd, fel y gellir cyflwyno cynllun gweithredu clir wedi'i gostio ac y mae pawb yn ei ddeall, yn hytrach na'r rhethreg a glywn gan y protestwyr ar hyn o bryd, sy'n dweud nad oes digon yn digwydd yn y maes hwn ac mae perygl y bydd y frwydr dros galonnau a meddyliau yn cael ei cholli ar yr agenda bwysig hon?
Felly, rwyf eisoes wedi mynychu'r cyngor economaidd a gadeirir gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates, ar ôl cael gwahoddiad gan fusnesau i drafod sut y gallant ein helpu i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gennym, yn ogystal â sut y gallwn gyrraedd sero net erbyn 2050, sef ein huchelgais, gan fynd ymhellach na'r hyn y cawsom ein cynghori i wneud gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Felly, os yw'n rhywbeth yr hoffai busnesau i ni ei wneud, yna rwy'n siŵr y byddai Ken Skates a minnau'n fwy na pharod i'w wneud, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn o gael fy ngwahodd i'r cyngor economaidd ar gais busnesau, gan eu bod yn gweld, os ydym am gyflawni'r gostyngiadau sero net hynny, eu bod yn rhan fawr o'r gwaith i'n helpu i wneud hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol, wrth gwrs, bod sawl ffactor yn cael effaith negyddol ar hyn o bryd ar y sector biff fel y mae hi, gyda chonsérn mawr am brisiau, wrth gwrs, ac effaith y stocpeilio ddigwyddodd, wrth gwrs, gan ddisgwyl bod Brecsit yn digwydd yn gynharach, ond bod hynny nawr yn dod i’r farchnad ac yn effeithio ar hyfywedd y cynnyrch sydd yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru.
Nawr, mae galwadau wedi bod, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru, Hybu Cig Cymru, proseswyr, manwerthwyr, ddod at ei gilydd er mwyn gweithredu gyda'r diwydiant i fynd i’r afael â rhai o’r problemau yma. Mae ffermwyr biff yn Iwerddon, wrth gwrs, yn mynd i weld €100 miliwn yn cael ei gyfeirio tuag atyn nhw drwy’r Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth yr Iwerddon. Felly, gaf i ofyn beth ŷch chi fel Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i ymateb i’r sefyllfa mae’r sector yn ei hwynebu?
Wel, nid wyf yn ymwybodol o gais i bob un ohonom ddod at ein gilydd, ond fe fyddwch yn ymwybodol iawn, yr wythnos nesaf, y byddwn yn Sioe Frenhinol Cymru, lle gall yr holl bobl rydych newydd eu crybwyll ddod at ei gilydd i drafod hyn. Rwyf wedi gweld y datganiad i'r wasg gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru. Rwyf hefyd wedi cael trafodaeth fer iawn gydag NFU Cymru ynglŷn â'r mater hwn. Mae ffermio'n ddiwydiant lle mae newidiadau yn y farchnad yn gyffredin, ond credaf fod y sector cig eidion wedi dioddef cyfnod cythryblus iawn dros y misoedd diwethaf, ac yn amlwg, mae prisiau is yn peri pryder. Felly, rwy'n fwy na pharod i drafod hyn gydag unrhyw un sydd â diddordeb. Fel y dywedaf, bydd pob un ohonom yn yr un lle yr wythnos nesaf, felly efallai y bydd hynny'n gyfle i wneud hynny.
Fe sonioch chi am Iwerddon, ac yn amlwg, Gweriniaeth Iwerddon, mae'r prisiau'n isel mewn cyd-destun hanesyddol ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod yr ansicrwydd ynglŷn â'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd yn niweidio cynhyrchwyr cig eidion Iwerddon hefyd, a gwn fod eu prisiau wedi bod yn isel yn gyson, ond credaf fod paredd yno ar hyn o bryd nad ydym wedi'i weld o'r blaen.
Dwi'n meddwl y byddai pobl wedi disgwyl ichi fod bach yn fwy rhagweithiol, yn hytrach na dweud eich bod chi ar gael i gael trafodaethau os oes pobl yn teimlo bod angen y trafodaethau hynny. Yn amlwg, yn yr Iwerddon, maen nhw wedi mynd allan o'u ffordd i ffeindio'r arian yma. Felly, dwi'n meddwl bod hynna efallai yn awgrymu beth yw agwedd y Llywodraeth yma i'r sefyllfa ar hyn o bryd.
Un maes arall, wrth gwrs, lle mae pobl yn teimlo y dylech chi fod yn fwy rhagweithiol arno fe yw mewn mynd i'r afael â TB mewn gwartheg. Rŷm ni wedi gweld yr ystadegau, wrth gwrs; rŷm ni'n gwybod y buodd yna gynnydd y flwyddyn ddiwethaf—12,000 o wartheg yn cael eu difa yng Nghymru—12,000 o wartheg yn cael eu difa yng Nghymru y llynedd. Nawr, ystadegyn yw hwnna, wrth gwrs, ond tu ôl i'r ystadegyn yna, rŷm ni'n gwybod bod yna effaith economaidd ar y busnesau hynny ac ar yr economi wledig ehangach, wrth gwrs, sy'n dod yn sgil mynd lawr â TB. Mae yna effaith gymdeithasol, wrth inni weld y clefyd yn lledu ymhellach nag y byddai unrhyw un yn dymuno iddo fo'i wneud. A hefyd, wrth gwrs, mae yna effaith bersonol, a hynny'n aml iawn yn amlygu ei hunan ar ffurf problemau iechyd meddwl. Nawr, mi fydd hyn, eto, yn destun trafod, dwi'n gwybod, yn y sioe'r wythnos nesaf. Ond un elfen sydd yn pigo ar nifer o bobl yn y sector yw'r teimlad nad yw'r Llywodraeth yn defnyddio pob arf posib i fynd i'r afael â'r clefyd yma. Onid yw'r amser wedi dod, nawr, Gweinidog, yn wyneb y sefyllfa fel y mae hi, i'r Llywodraeth yma gamu lan a bod yn barod i gyflwyno elfen gryfach o ddifa moch daear fel rhan o'ch strategaeth chi, oherwydd—? Ydych chi'n derbyn bod yna fwy y gallech chi fod yn ei wneud? Achos mae'r sector yn sicr yn teimlo hynny ac maen nhw hefyd yn teimlo bod yr amser wedi dod i chi wneud hynny.
Os caf ddychwelyd at eich cwestiwn cyntaf, nid oes gennyf £100 miliwn y gallaf ei roi i'r sector amaethyddol mewn perthynas â phrisiau cig eidion. Felly, os mai am hynny y mae pobl yn chwilio, yna yn anffodus, nid oes gennyf gymaint â hynny o arian, ac ni chredaf y byddai unrhyw un yn y cyfnod hwn o gyni yn disgwyl i mi wneud hynny. Yr hyn a wneuthum y llynedd oedd rhoi £2 filiwn i'r sector cig coch fel y gallent wneud rhywfaint o feincnodi. Yn anffodus, ni fanteisiwyd ar yr holl arian hwnnw gan fusnesau cig coch, felly credaf fod hynny hefyd yn dangos rhywbeth y dylem ei ystyried.
O ran eich cwestiwn ynghylch TB buchol, ac rwy'n derbyn yn llwyr yr ochr bersonol yn hyn o beth a'r trallod y mae'n ei achosi, fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith a wnaed gennym ar ddiweddaru'r rhaglen ddileu TB, ac rydym yn gweithio ar hynny. A'r ateb byr i ran olaf eich cwestiwn—'A ydym yn credu y dylem gyflwyno rhaglen i ddifa moch daear?'—yr ateb yw 'na'.
Mae'n rhaid i mi ddweud, mewn ymateb i'ch sylw cyntaf ynglŷn â'r nifer sydd wedi manteisio ar y meincnodi, y cwestiwn yw—wel, onid ydych yn beio'r ffermwyr unwaith eto? A dyna ddiwylliant y Llywodraeth hon: beio'r ffermwyr, pwyntio bys at y ffermwyr. Iawn, nid oedd y niferoedd yn uchel, ond onid yw hynny'n gwneud i chi feddwl pam? Efallai na chafodd ei gyflwyno'n iawn, efallai nad dyna oedd y ffordd fwyaf priodol o'i wneud. Ond safbwynt diofyn y Llywodraeth hon yw beio'r ffermwyr, ac rwyf wir—[Torri ar draws.] Rwyf wir yn teimlo bod hynny'n drueni.
Rydym wedi gweld hyn mewn perthynas â'r materion TB hefyd. Clywaf Aelodau—wel, nid wyf yn siŵr beth y maent yn ei ddweud, ond maent yn gwneud synau. Gyda'r materion TB yn y datganiad diwethaf a wnaethoch, rwy'n credu, fe ddywedoch chi wrth ffermwyr fod yn rhaid iddynt weithio'n galetach, ceisio'n galetach i atal hyn rhag digwydd. Serch hynny, maent yn gweld y Llywodraeth hon yn peidio â defnyddio'r holl adnoddau y gallai eu defnyddio, sy'n cael eu defnyddio mewn gwledydd eraill. Felly, yn sicr dylech gyfaddef bod hynny'n ychwanegu at y teimlad o rwystredigaeth, at y teimlad o ddigalondid, sy'n arwain yn y pen draw at anobaith a phroblemau iechyd meddwl, ar y ffermydd lle maent yn dod ar draws neu'n cael eu heffeithio gan TB buchol.
Nawr, ychwanegwch Brexit at hyn oll, wrth gwrs, ac mae darlun tywyll yn mynd yn dywyllach byth. Os yw'r posibilrwydd o 'ddim bargen' yn fwyfwy tebygol ar hyn o bryd, rydych eisoes wedi ein rhybuddio, ac rwy'n dyfynnu:
'Byddai "dim bargen" yn gwbl drychinebus i ffermio, i deuluoedd sy'n ffermio ac i'n cymunedau yng Nghymru', ac ni welaf unrhyw beth yno rwy'n anghytuno ag ef. Mae'n rhaid i chi, fel Llywodraeth Cymru, ymrwymo i wneud popeth yn eich gallu i liniaru effeithiau Brexit, ond yn enwedig Brexit heb gytundeb, felly a wnewch chi ymrwymo heddiw, os ceir Brexit heb gytundeb, i ddargyfeirio'r holl adnoddau staffio ac ariannu sydd gennych fel adran i geisio lliniaru effeithiau'r Brexit 'dim bargen' hwnnw? Byddai hynny'n golygu, wrth gwrs, oedi'r ymgynghoriadau, fel ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a’n Tir', fel bod y Llywodraeth hon yn gwneud pob ymdrech sy'n bosibl i ddiogelu'r sector a'r cymunedau gwledig sydd mor annwyl i bob un ohonom.
Gadewch i ni ddechrau gyda'r dechrau. Yn sicr nid wyf yn beio'r ffermwyr. Ni cheir diwylliant o fwrw bai gennyf i. Yr hyn rwyf wedi'i ddweud erioed, a'r hyn y maent yn cytuno ag ef, yw ein bod yn gweithio mewn partneriaeth. Felly, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â llawer o'r problemau y mae'r sector amaethyddol yn eu hwynebu, ac mae TB yn un ohonynt lle credaf fod yn rhaid i ni weithio mewn partneriaeth. Nid wyf yn eu beio am brisiau cig eidion. Nid wyf yn eu beio am ofyn i bob adnodd gael ei ddefnyddio. Yr hyn rwy'n ei ddiystyru yw difa moch daear, gan nad yw'r wyddoniaeth yno yn fy marn i. Nid oes unrhyw beth rwyf wedi'i weld yn y tair blynedd ers i mi fod yn y swydd hon yn gwneud i mi feddwl y byddai difa moch daear yn y ffordd a wnânt yn Lloegr o fudd yma yng Nghymru.
Mewn perthynas â Brexit heb gytundeb, mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn gweithio i liniaru effaith Brexit heb gytundeb ers misoedd. Roeddem yn barod pan oeddem yn meddwl y byddai hynny'n digwydd ddiwedd mis Mawrth. Yna, fe'i gohiriwyd tan 12 Ebrill, ac mae bellach wedi'i ohirio tan 31 Hydref. Rydym wedi rhoi amser i oedi a meddwl ac adolygu a mireinio'r holl bolisïau a chynigion a phrosiectau a oedd gennym yn barod ar gyfer diwedd mis Mawrth. Fodd bynnag, gallai pethau fod yn wahanol erbyn diwedd mis Hydref. Felly, os meddyliwch am y sector defaid er enghraifft, yn amlwg, pe baem wedi gadael ar ddiwedd mis Mawrth, byddai'r effaith y byddai hynny wedi'i chael ar y sector defaid wedi bod yn ddifrifol; erbyn diwedd mis Hydref, mae'n mynd i raddfa arall, ac rwy'n siŵr y byddwch yn deall hynny.
A fyddwn yn oedi'r ymgynghoriad? Na, ni fyddwn yn oedi'r ymgynghoriad. Disgwylir i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 30 Hydref. Mae'r gwaith sylweddol a wnaethpwyd i gynnal yr ymgynghoriad hwnnw—dogfen ymgynghori fanwl iawn ag iddi 400 tudalen—mae hwnnw bellach ar y gweill, ac erbyn hyn mae oddeutu 14 neu 15 wythnos i bobl ymateb iddo. Yr wythnos nesaf, yn sicr, yn Sioe Frenhinol Cymru, ac yn yr holl sioeau amaethyddol, rwy'n siŵr y bydd llawer o drafodaethau. Credaf y byddaf yn mynychu tri digwyddiad o leiaf yr wythnos nesaf mewn perthynas â'r ymgynghoriad. Ond na, ni fyddwn yn tynnu pobl oddi arno, oherwydd, os meddyliwch am y peth, mae llawer o waith wedi'i wneud eisoes.