Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Os caf ddychwelyd at eich cwestiwn cyntaf, nid oes gennyf £100 miliwn y gallaf ei roi i'r sector amaethyddol mewn perthynas â phrisiau cig eidion. Felly, os mai am hynny y mae pobl yn chwilio, yna yn anffodus, nid oes gennyf gymaint â hynny o arian, ac ni chredaf y byddai unrhyw un yn y cyfnod hwn o gyni yn disgwyl i mi wneud hynny. Yr hyn a wneuthum y llynedd oedd rhoi £2 filiwn i'r sector cig coch fel y gallent wneud rhywfaint o feincnodi. Yn anffodus, ni fanteisiwyd ar yr holl arian hwnnw gan fusnesau cig coch, felly credaf fod hynny hefyd yn dangos rhywbeth y dylem ei ystyried.
O ran eich cwestiwn ynghylch TB buchol, ac rwy'n derbyn yn llwyr yr ochr bersonol yn hyn o beth a'r trallod y mae'n ei achosi, fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith a wnaed gennym ar ddiweddaru'r rhaglen ddileu TB, ac rydym yn gweithio ar hynny. A'r ateb byr i ran olaf eich cwestiwn—'A ydym yn credu y dylem gyflwyno rhaglen i ddifa moch daear?'—yr ateb yw 'na'.