Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Yn ddiweddar, roeddwn mewn agoriad gardd gymunedol ar Wharf Road yng Nghasnewydd, Weinidog, ac roedd yn enghraifft wych, yn fy marn i, o sut rydych yn troi tir diffaith yn ardal gyda blodau a llwyni a phlanhigion yn gyffredinol sy'n gyfraniad gwerthfawr. Ond yr hyn roeddwn am ofyn amdano mewn gwirionedd oedd: a fyddech yn cytuno â mi, lle mae gennym ardaloedd o dir sy'n bwysig iawn i fioamrywiaeth ac sy'n cael eu hamddiffyn—ac rwy'n meddwl am wastadeddau Gwent, sy'n cynnwys nifer o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig—fod yn rhaid inni edrych ar sut y gallwn amddiffyn yr ardaloedd hynny ymhellach? Mae gwastadeddau Gwent yn gartref i'r gardwenynen fain, sydd mewn perygl, yn anffodus, ond maent yn gartref i lawer o bryfed peillio eraill a llawer o fywyd gwyllt a phlanhigion a blodau gwerthfawr ac ecosystemau eraill. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i geisio darparu amddiffyniad pellach ac efallai ystyried gwneud gwastadeddau Gwent yn ardal o harddwch naturiol eithriadol?