Pryfed Peillio

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:01, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ymwybodol fod cais wedi'i wneud i ddynodi a diogelu gwastadeddau Gwent ar sail fwy ffurfiol fel ardal o harddwch naturiol eithriadol, ac yn amlwg, mae hynny'n cael ei ystyried. Ond credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am dir diffaith. Mae'n debyg fod y pwynt roeddwn yn ceisio'i wneud am bob un ohonom yn monitro pryfed peillio a gweld beth y gallwn ei wneud yn yr ardaloedd hynny yn rhywbeth y credaf sy'n—. Mae angen i ni sicrhau—. Ein cyfrifoldeb ni yw pryfed peillio. Mae angen i ni sicrhau bod pob un ohonom yn mynd gam ymhellach i sicrhau eu bod yn gynaliadwy.