Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Mae 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' wedi'i ategu gan 400 tudalen o asesiadau gwyddonol manwl, a gynhyrchwyd ar y cyd â phrifysgolion ledled y DU. Fodd bynnag, hyd nes y cawn sicrwydd ynghylch cyllidebau gan Lywodraeth y DU, ni allwn gynhyrchu asesiad effaith. Ni fydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno hyd nes y bydd asesiad effaith wedi'i gwblhau.