Cefnogi Ffermwyr Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:07, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog, ond mae rhagolygon incwm ffermydd diweddaraf eich Llywodraeth yng Nghymru yn dangos y disgwylir i incwm cyfartalog ffermydd ostwng 15 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae incwm o ffermydd llaeth wedi gostwng 23 y cant, mae ffermydd gwartheg a defaid ardaloedd llai ffafriol wedi gostwng 9 y cant, ac mae ffermydd gwartheg a defaid yr iseldir wedi gostwng 29 y cant, sy'n ostyngiad enfawr. O ystyried pwysigrwydd hanfodol ffermio i economi Cymru, i'n cymunedau a'n hamgylchedd gwledig, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wrthdroi'r dirywiad mewn incwm ffermydd a sicrhau hyfywedd y diwydiant ffermio yng Nghymru yn y dyfodol? Peidiwch ag anghofio ein bod yn economi amaethyddol yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid i ni ofalu am ein ffermwyr yng Nghymru. Diolch.