Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Mae cronfa LIFE a bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer adfer rhywogaethau a chyllido prosiectau amgylcheddol wedi buddsoddi €65 miliwn yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae'r gronfa yn pontio ymchwil, datblygu a chynhwysiad, ac mae'n ariannu technolegau amgylcheddol arloesol. Mae sawl prosiect wedi cael ei ariannu gan hyn, gan gynnwys coedwigoedd Celtaidd ac adfer corsydd mawn hanfodol. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog, felly: a ydych chi wedi gofyn am sicrwydd y bydd Llywodraeth San Steffan yn llenwi'r bwlch ariannol pwysig hwn? Ac, os felly, a fydd gan yr Undeb Ewropeaidd yr hawl, a sut bydd ymateb San Steffan a'r Llywodraeth yma i hynny?