Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Roeddwn yn ceisio meddwl sut y gallwn gynnwys un, ond ni allwn feddwl yn ddigon cyflym. Rwyf am ganolbwyntio ar yr ateb. A sylw bachog y Prif Weinidog—yn anffodus, rydych eisoes wedi'i ddweud. Yn sicr, rwy'n llongyfarch Pontypridd ar eu gwobr am fod yn gyfeillgar i wenyn. Gwn fod y gymuned wedi gweithio'n galed iawn i greu'r ffynonellau bwyd hynny sy'n gyfeillgar i bryfed peillio—y mannau. Ac maent wedi codi ymwybyddiaeth hefyd, mewn ffordd ardderchog, o'r angen am bryfed peillio. Fel y dywedais mewn ateb arall, credaf ei bod yn bwysig iawn fod pob un ohonom yn monitro hynny, felly credaf y bydd codi ymwybyddiaeth yn helpu hynny. Yn sicr, nid oeddwn wedi meddwl am blaciau, ond rwy'n fwy na pharod i siarad â Cadwch Gymru'n Daclus, efallai, sy'n gweithredu'r prosiect eco-ysgolion, er enghraifft, i weld a oes unrhyw ffordd y gallwn ystyried gwneud hynny. Ond yn sicr, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at Gyngor Tref Pontypridd.