Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Mae bioamrywiaeth yn rhan bwysig o'r ymarfer ymgynghori rydych yn ei gynnal ar hyn o bryd i gefnogi ffermydd, ac mae'n amlwg y bydd y gymuned ffermio yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ddatblygu'r fioamrywiaeth honno. Un peth sy'n ganolog i'ch dogfen ymgynghori yw cynlluniau penodol ar y fferm, cynlluniau ffermydd unigol, a chynlluniau rheolwyr tir unigol. Pa asesiad a wnaethoch o'r capasiti i ddatblygu'r cynlluniau hyn os cânt eu datblygu?
Rwy'n derbyn eu bod yn yr ymgynghoriad ar hyn o bryd, ond cyn i chi gyflwyno'r cynnig hwnnw, does bosibl nad ydych wedi gwneud rhywfaint o asesu ynghylch lefel y capasiti sydd gan y Llywodraeth a phwy bynnag y byddwch yn contractio'r gwasanaeth hwn iddynt. Oherwydd, o bosibl, gallem fynd o'r 16,000/17,000 o ymgeiswyr sydd wedi cael cefnogaeth ar hyn o bryd i dystiolaeth a gawsom yn y pwyllgor o 40,000 o geisiadau, os ydych yn ei ehangu i gynnwys y dehongliad hwnnw o reolwr tir a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth yn yr ymgynghoriad cyntaf.