Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch. Yn sicr, mae ffermwyr yn rhan o'n hymateb mewn perthynas â bioamrywiaeth. Yn y fferm yr ymwelais â hi i lansio'r ymgynghoriad, yn y cae y safwn ynddo, dywedodd y ffermwr wrthyf yn falch iawn fod rhwng 90 a 100 tunnell o garbon yr hectar wedi'i storio yn y cae hwnnw. Felly, gallwch weld pam fod ffermwyr mor bwysig mewn perthynas â bioamrywiaeth. Wrth gwrs, rydym wedi edrych ar y capasiti. Nid ydym yn dechrau o dudalen wag. Mae gennym Taliadau Gwledig Cymru. Rydym bob amser wedi dweud mai Llywodraeth Cymru, yn amlwg, fydd yn ysgwyddo baich y problemau hynny o ran adnoddau. Felly, os yw'r ymgynghoriad yn mynd rhagddo yn y ffordd y credwn y bydd, ac os bydd pobl yn awyddus i gael yr un cynllun hwnnw, sef yr hyn a ddywedodd ffermwyr a rheolwyr tir a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyntaf wrthym, rwy'n hyderus y bydd gennym y capasiti i wneud hynny. Ond nid wyf yn bychanu maint y dasg; mae'n ymrwymiad enfawr.