11. Dadl Fer: Datganoli Treth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:25, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn ichi, a diolch i Mark Reckless am gyflwyno dadl olaf y tymor. Nid yw siarad am drethi byth yn welltyn byr—rwy'n credu bod y ddau ohonom yn ei fwynhau yr un faint. Mae datganoli trethi wedi bod yn un o'r gwelliannau allweddol i bwerau Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol dros y ddau ddegawd diwethaf, ac mewn ychydig flynyddoedd, mae trefniadau newydd ar gyfer datganoli cyllidol a chyflwyno trethi Cymreig wedi trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus Cymru eu hariannu. Gyda chefnogaeth y Senedd, ac yn arbennig y Pwyllgor Cyllid, a chyda'r cymorth sylweddol a ddarperir gan fusnesau, sefydliadau eraill a chymunedau, ynghyd â chefnogaeth arbenigol ein grŵp cynghori ar drethi, llwyddasom i gyflwyno dwy dreth genedlaethol newydd, sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, ac yn gynharach eleni, cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymreig.

Felly, erbyn hyn mae tua £5 biliwn yn cael ei godi ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus drwy drethi datganoledig a lleol: cyfraddau treth incwm Cymreig, y dreth trafodiadau tir, y dreth gwarediadau tirlenwi, y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Yn ogystal â hyn, rydym wedi cymryd cam pwysig tuag at sicrhau cyllid teg i Gymru drwy'r cyllid gwaelodol y buom yn ei drafod gyda Llywodraeth y DU. Ac yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae hwn wedi dechrau darparu arian ychwanegol i Gymru, a bydd yn parhau i wneud hynny yn y tymor hwy. Fodd bynnag, ni all hyn wrthbwyso effaith naw mlynedd o gyni ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn y dyfodol, rydym yn parhau'n glir mai fformiwla seiliedig ar anghenion yw'r ffordd orau o sicrhau bod pob rhan o'r DU yn cael y cyllid y mae'n ei haeddu.

Yn sail i'n gwaith ar drethi datganoledig, rydym wedi datblygu fframwaith polisi treth sy'n adeiladu ar arferion gorau rhyngwladol ac sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i fod yn dryloyw ynghylch datblygu polisi treth yng Nghymru. Rydym wedi sefydlu egwyddorion trethiant clir sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni ein hymrwymiadau llesiant a chenedlaethau'r dyfodol, ac sy'n sicrhau bod ein trethi'n helpu i gyflawni amcanion ariannol a pholisi ehangach, gan gynnwys swyddi a thwf.

Rwy'n croesawu'r cyfraniadau y mae Aelodau'r Cynulliad eisoes wedi'u gwneud i helpu i lywio'r agenda ar drethi, ac edrychaf ymlaen at eu mewnbwn parhaus i ddatblygu polisi treth Cymru ymhellach, ac rwy'n rhoi pwyslais arbennig ar ymgysylltu. Rwy'n edrych ymlaen at gynnal cynhadledd drethi Cymru ddydd Gwener, lle byddwn yn trafod y datblygiadau diweddaraf; rwy'n deall y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid hefyd yn ymuno â ni yn y digwyddiad hwnnw. Mae datganoli trethi wedi dod â phenderfyniadau pwysig yn nes at bobl Cymru, gyda chyfleoedd newydd i deilwra diwygiadau i anghenion penodol ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymdeithas. Ac mae hyn yn rhoi gallu i ni gysoni trethiant yng Nghymru â'n hamcanion polisi ehangach, fel ein huchelgeisiau ar gyfer tai a'r amgylchedd, ac wrth bennu'r cyfraddau ar gyfer ein trethi newydd, y cytunwyd arnynt gan y Senedd hon, rydym wedi ystyried yn ofalus yr angen i'n trethi fod yn deg, yn syml ac yn flaengar. Wrth gwrs, mae un peth amlwg wedi'i hepgor o'n pecyn o bwerau, sef datganoli'r doll teithwyr awyr, a argymhellwyd yn gyntaf yn 2012 gan gomisiwn Llywodraeth y DU ei hun. Ac wrth gwrs, fel y buom yn ddadlau'n ddiweddar yn y Siambr, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw'n ddiweddar am ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru erbyn 2021, ac roedd hwnnw'n safbwynt a gefnogwyd yn unfrydol gan y Siambr, a chaiff ei gefnogi'n gryf iawn gan y gymuned fusnes.

Ond hoffwn droi yn awr at rai o'r pwyntiau penodol a godwyd gan Mark Reckless, a'r cyntaf oedd y bwlch rhwng yr arian a godir yng Nghymru a'r arian a werir yng Nghymru. Mae'n iawn i ddweud bod y bwlch oddeutu £13 biliwn, sy'n cyfateb i tua £4,000 y pen. Ac wrth gwrs, mae dadl yno pan soniwn am annibyniaeth—a godwyd yn y Siambr yn gynharach heddiw—ac mae'n ymddangos, ar y dechrau un yn sicr, y byddai safonau byw yn gostwng yng Nghymru. Ond mae'n debyg y gallwn adael hynny ar gyfer trafodaeth lawnach ar achlysur arall. Rhan o'r her yno a'r allwedd y naill ffordd neu'r llall fyddai gwella ein sylfaen drethi, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn canolbwyntio'n fawr iawn arno. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol, y cawsom gyfle i'w drafod yn y Pwyllgor Cyllid y bore yma, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a chynhelir ymgynghoriad yn ei gylch. Daw i rym yn 2020 ac mae hynny'n caniatáu inni edrych ar hyn yn fwy hirdymor. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio hynny, gan fy mod yn awyddus iawn i sicrhau bod ein blaenoriaethau strategol ar gyfer y dyfodol yn rhai a fydd yn ein helpu i dyfu ein sylfaen drethi a gwneud hynny mewn un neu ddwy o ffyrdd, gan weithio ar draws y Llywodraeth gyda chyd-Aelodau ym maes addysg, er enghraifft, i sicrhau ein bod yn uwchsgilio pobl yng Nghymru ac yn caniatáu i bawb wneud y gorau o'u potensial incwm, a hefyd i ddenu pobl i Gymru sy'n mynd i fod yn creu cyfoeth, unwaith eto er mwyn gwella ein sylfaen drethi.

Mae llawer o waith wedi'i wneud ar drethi newydd. Mae pwysigrwydd cael y system yn iawn a mynd o amgylch y trac y tro cyntaf a phrofi'r peirianwaith, fel y dywedodd Mark Drakeford, yn bwysig iawn.