– Senedd Cymru am 6:10 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Felly, symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Mark Reckless i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis.
A gaf fi ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd? Rwy'n siarad am ddatganoli trethi i Gymru. Nid wyf yn siŵr a ydw i wedi tynnu'r gwelltyn byr i gael y ddadl fer olaf yn y tymor, neu a yw'r Gweinidog wedi'i dynnu i ymateb i mi, neu efallai mai chi a wnaeth, Ddirprwy Lywydd, drwy orfod ein cadeirio, ond rydych wedi hen arfer â hynny, felly diolch i chi.
Pan feddyliwn am ddatganoli trethi i Gymru, mae'n rhaid ystyried pa mor bell y dylai fynd, ac rwyf wedi cadw dau beth yn benodol mewn cof wrth feddwl am hynny. Y cyntaf yw'r ffigur a nodwyd gan y Prif Weinidog ychydig yn ôl fel ein 'bwlch cyllido', fel y'i disgrifiodd, sef £13 biliwn, ac rwy'n deall hynny fel y gwahaniaeth rhwng y refeniw treth a godir yng Nghymru, boed hynny o drethi datganoledig neu rai eraill, a faint o arian a werir yng Nghymru. Mae'n ffigur pwysig iawn. Ceir trosglwyddiad net sylweddol o adnoddau yn y bôn o Loegr i Gymru. Mae'r swm hwnnw ychydig yn wahanol, yn gysyniadol, i'r £13 biliwn, i'r graddau ein bod yn disgwyl i'r diffyg fod yn sero dros amser, ac y gallem gynnal diffyg a oedd yn ddiffyg, yn hytrach na sero, ond serch hynny mae rhywfaint o gydgyfeirio'n perthyn i'r ddau swm, rwy'n credu.
Po fwyaf y byddwn yn datganoli trethi a pho fwyaf yw annibyniaeth ein system drethi, y mwyaf amlwg fydd y diffyg ariannol yn fy marn i, a'r anoddaf fydd cael cydsyniad parhaus i lefel y trosglwyddo hwnnw. Yn y ddadl yn Lloegr o leiaf, fe welwch lawer mwy am yr Alban nag am Gymru—cwynion am yr hyn y mae'r Alban yn gallu ei wneud o ran yr hyn sydd ar gael yn rhad ac am ddim yno ond nad yw'n rhad ac am ddim yn Lloegr, a chredaf fod mwy o bwyslais ar annhegwch canfyddedig yn y blynyddoedd diweddar nag a oedd yno o'r blaen. Nid wyf yn synhwyro'r un faint o bwyslais ar y trosglwyddiad cyllidol hwnnw i Gymru, ond mae yno, a pho fwyaf o reolaeth a gawn ar ein trethi ein hunain ac y byddwn yn codi ein trethi ein hunain yma, y mwyaf amlwg y daw'r trosglwyddiad hwnnw, a chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig i'w gofio, ac ar y sail na ddigwyddodd datganoli yng Nghymru yn 1979, a phryder llawer yn y Blaid Lafur, yn draddodiadol, ynglŷn â datganoli a sut yr oedd cydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig a'r trosglwyddiadau hynny'n bwysicach ac yn rhywbeth y dylid eu cadw.
Y mater arall rwy'n ei ystyried o ran pa mor bell y dylai datganoli trethi fynd yw dymuniad am setliad sefydlog. Nid wyf yn credu y dylai datganoli fod yn fath o wledd symudol am byth, heb sôn am bob amser, bob amser i un cyfeiriad. Hoffwn gael polisi sefydlog lle ceir consensws eang. Wrth gwrs, ni fydd yn cynnwys pawb, ond consensws eang mai dyma'r pwerau sydd gennym yng Nghymru a'r rhain yw'r pwerau a arferir gan Lywodraeth y DU, ac o ran treth, pa drethiant a godir yma a beth a godir yno. Felly, pan gefnogwyd datganoli trethi gennym, mae wedi bod ar y sail naill ai ei fod wedi digwydd, neu fod barn sefydlog y dylai ddigwydd. Cawsom gomisiwn Richard a chomisiwn Silk wedyn, ac roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid ar gyfer y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi ac mewn egwyddor, fe'u cefnogais, oherwydd fy mod yn teimlo eu bod wedi'u cytuno drwy fath o ddull cydsyniol, ac er nad wyf yn siŵr y buaswn wedi dadlau o'r egwyddorion cyntaf dros eu datganoli pe na bai wedi'i gynnig, cefais fy argyhoeddi i'w cefnogi gan y ffaith bod yna gytundeb o'r fath ynghylch y datganoli hwnnw. Yn yr un modd gyda'r doll teithwyr awyr, pan benderfynodd ein grŵp ni eto y byddem yn cefnogi'r consensws, teimlem fod y Gweinidog yn iawn yn ei nodi yn y maes hwnnw. Felly, rydym yn ychwanegu'r rheini at ddatganoli'r dreth gyngor a'r system ardrethi busnes, ac o fis Ebrill eleni, cyfraddau treth incwm Cymreig.
Edrychasom wedyn i weld a ddylid datganoli trethi newydd. Un pryder sydd gennyf yn y maes hwn yw'r syniad y dylem rywsut drethu er mwyn trethu, neu y dylem drethu er mwyn profi'r peirianwaith datganoli, a chlywais hyn yn gyntaf gan Mark Drakeford pan anerchodd y Pwyllgor Cyllid yng Nghasnewydd. Yn hytrach na dweud, 'Dylem drethu oherwydd bod arnom angen y dreth honno i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus penodol hynny, a dyma'r ffordd orau o'i chael,' ymddangosai bron fel pe bai'r dreth yn cael ei hystyried yn beth da ynddi ei hun. Rwy'n deall bod rhai trethi'n cael effaith ar ymddygiad a phan fydd pobl yn sôn am dreth ar blastig neu dreth ar dir gwag, mae o leiaf ran o'r rheswm dros y dreth yn ddymuniad i newid ymddygiad. Ond i mi, mae hwnnw'n fater isradd i'r prif un o fod angen treth i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Felly, roeddem yn edrych, rwy'n credu, ar—roedd pedair ohonynt. Mae gennyf dair ohonynt. Y dreth ar blastigion—rwy'n credu efallai ein bod yn edrych ar, os yw hynny'n mynd i ddigwydd, byddai'n fwy ar sail y DU, ac rwy'n credu y byddai'n arbennig o anodd i weithgynhyrchwyr a chadwyni cyflenwi ei wneud ar gyfer Cymru'n unig. Roedd y dreth dwristiaeth yn amhoblogaidd iawn, rwy'n credu, ac nid oedd yn syniad da yn fy marn i, ac rydym yn edrych yn awr ar y dreth ar dir gwag. Credaf ei bod yn cysylltu â'r trethi eiddo eraill sydd gennym—y dreth gyngor, yr ardrethi busnes, y dreth trafodiadau tir—a chredaf fod dadl yn sicr dros ddatganoli un math o drethiant fel y gall rhywun ystyried y modd y mae'r gwahanol drethi hynny'n cydblethu â'i gilydd, a cheisio gwneud y penderfyniad iawn i Gymru ynghylch sut y dylai hynny weithio. Fy mhryder braidd am y syniad o dreth ar dir gwag yw gallaf ddeall, mewn egwyddor ac mewn theori, pam y gallai fod yn syniad da, ond rwy'n poeni sut y byddai'n gweithredu'n ymarferol. Yn benodol, ofnaf y gallai arwain at ganfyddiad fod trethi busnes yn uwch yng Nghymru; ei bod yn anos gwneud busnes yng Nghymru nag yn Lloegr. Ac er mor ddefnyddiol fyddai effaith gymhellol y dreth yn ddamcaniaethol, tybed a fydd hynny'n wir yn ymarferol bob amser.
Mae gennym y dreth eiddo masnachol hon o—rwy'n ei galw'n uwchdreth—o 6 y cant ar eiddo dros £1 filiwn. Ar y cyd â hynny, credaf fod y gyfundrefn drethi'n mynd yn uwch. Rydym wedi siarad sawl tro rwy'n credu, Weinidog, mewn amrywiol gyd-destunau am y dreth hon a sut y mae'n gweithredu, fel gyda'r Prif Weinidog pan oedd yn y rôl honno'n flaenorol, ac rwy'n pryderu nad oes gennym dystiolaeth dda eto ynglŷn â sut y mae'n gweithio. Nododd y Gweinidog yn gywir na fydd yn gymwys mewn llawer o achosion oherwydd bydd eiddo sy'n fwy nag £1 filiwn yn eiddo i gwmni, a'r ffordd y caiff y dreth ei hosgoi yn y bôn yw drwy drosglwyddo'r cwmni hwnnw o un cwmni i'r llall. Ac o ystyried y gyfradd dreth, mae pobl yn cael eu cymell i ffurfio'r cwmnïau hynny. A phan fo'n eiddo preswyl, mae'n cael ei weld fel osgoi treth mewn ffordd ddrwg y dylid rhoi diwedd arni, ac ar lefel y DU, gyda'r dreth flynyddol ar anheddau wedi'u cynnwys o fewn y cwmni, yn ogystal â chyfraddau treth dir y dreth stamp, dyna fu'r pwysau. Ond yn y maes masnachol, ymddengys ei bod yn llawer mwy arferol fod adeiladau gwerth uchel yn eiddo i gwmnïau. A yw hynny'n rhywbeth yr ydym yn gyfforddus yn ei wneud, ac i ba raddau yr ydym yn monitro pa mor uchel yw'r gyfran honno, a'r newid yn unrhyw ran o'r gyfran honno yng ngoleuni'r symud o'r gyfradd o 5 y cant i'r gyfradd o 6 y cant yng Nghymru? Rwyf hefyd yn meddwl tybed pa effaith y mae'n ei chael ar y farchnad llety myfyrwyr a adeiladwyd yn bwrpasol, yn enwedig yng Nghaerdydd, a'r potensial i farchnad adeiladu i rentu dyfu. Oherwydd efallai y bydd yn fwy atyniadol i'r trafodion hynny gael eu gwneud drwy'r rhyddhad ar anheddau lluosog, yn hytrach na'r dreth fasnachol y gellir ei hethol ar ei chyfer.
Mae'r Gweinidog wedi bod yn awyddus iawn, pan fydd yn dadlau â Llywodraeth y DU neu'n cyflwyno'r achos dros ddatganoli treth i Gymru, i beidio â dweud beth y byddai'n ei wneud â'r dreth honno. Ac nid wyf yn siŵr os wyf yn cefnogi neu'n deall y dull hwnnw'n llawn. Os oes gennym dreth wedi'i datganoli, rwy'n deall pam mai ein busnes ni yw hynny ac nid lle San Steffan yw dweud beth y dylem ei wneud â'r dreth honno, gan ei bod wedi'i datganoli. Ond pan nad yw rhywbeth wedi'i ddatganoli eto a'ch bod am gyflwyno'r achos dros ei ddatganoli, oni fyddai'n ddefnyddiol i'r achos dros wneud hynny eich bod yn esbonio i San Steffan a Whitehall beth yw pwrpas y datganoli hwnnw? Rwy'n credu bod y dreth ar dir gwag—gallai integreiddio'n dda iawn â'r trethi eiddo eraill sydd gennym. Ond os ydym am geisio ei wneud yng Nghymru, a bod gennym syniad da sut y byddem am ei defnyddio, beth am esbonio hynny i San Steffan? Oherwydd gallai fod manteision i Lywodraeth y DU, i Loegr, neu i Lywodraeth yr Alban yn wir, o weld beth a wnawn â hi. Felly, er mwyn eu perswadio i'w datganoli, beth am gyflwyno'r achos hwnnw, gan gynnwys, dyweder, beth yw'r cyfeiriad teithio a beth y disgwyliwn i hynny ei gyflawni?
Mae datganoli treth incwm—y cyfraddau Cymreig—yn enfawr o'i gymharu â'r hyn a welsom gyda'r dreth trafodiadau tir neu'r dreth gwarediadau tirlenwi neu, yn wir, gyda'r dreth gyngor ac ardrethi busnes, sy'n fawr o ran maint hefyd, ond lle nad ydym wedi gwyro i raddau sylweddol iawn o'r system fel y'i gweithredir yn Lloegr. Ac am nad ydym yn bwriadu newid y cyfraddau, rwy'n pryderu nad yw'r Aelodau'n rhoi'r sylw y maent yn ei haeddu i'r cyfraddau treth incwm Cymreig. Yn gyntaf, soniwn am y band 10c, ond mewn gwirionedd dyna'r swm y gallem ei ostwng—gallwn ei ostwng 10c, ond nid oes terfyn ar y swm y gallem ei godi. Felly, mae hynny ynddo'i hun yn ei wneud yn beth mawr iawn.
Ond ers mis Ebrill, rydym wedi wynebu risg yn sgil hyn, a'r pryder a oedd gennyf ynghylch datganoli treth, y cyfraddau Cymreig hyn o dreth incwm, yw eu bod wedi'u datganoli ar ôl addewid y byddai'n destun refferendwm, ac o edrych ar hanes hyn, roeddwn wedi meddwl efallai fod yna rywfaint o gydgynllwynio rhwng y Blaid Lafur yma a'r Ceidwadwyr yn San Steffan, ond nid wyf wedi gweld tystiolaeth o hynny, ac nid yw'r Llywodraeth Lafur yma yn ymddangos fel pe bai wedi ei wthio, ac mae wedi dweud y dylai fod yn destun fframwaith cyllidol y credwn ei fod yn gweithio. Mae hynny gennych, ac ar y pen Ceidwadol yn San Steffan y gwnaethpwyd addewid i ddatganoli gyda refferendwm yn unig, a chafodd yr addewid hwnnw ei dorri a chafodd ei ddatganoli heb refferendwm.
Nawr, rwy'n credu bod yna syniad o fewn y cylchoedd Ceidwadol, boed yn wleidyddol neu'n perthyn mwy i fyd y felin drafod, mai'r broblem gyda datganoli yw ein bod ni ond yn penderfynu ar wariant mewn gwirionedd, ac os ydych yn datganoli trethi sylweddol y mae pobl yn poeni amdanynt, fel rhannau o'r dreth incwm, bydd hynny'n gwthio pobl i'r canol dde, oherwydd bydd pobl yn pryderu am gynnal trethi isel—neu o leiaf dyna'r ddamcaniaeth. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n mynd i weithio, oherwydd gwelir bod y Llywodraeth Geidwadol wedi addo refferendwm, wedi torri ei gair ac yna wedi penderfynu rhoi'r grym hwn i Lywodraeth Lafur—am nawr o leiaf—yng Nghymru, gyda'r bwriad efallai o berswadio pobl i bleidleisio drostynt. Rwy'n credu ei fod yn fwy tebygol o gael effaith i'r gwrthwyneb.
Pan fyddwn yn newid cyfraddau treth, yn enwedig treth incwm, ceir effaith refeniw o'r cynnydd mewn refeniw a gewch o'r gyfradd uwch, ond hefyd effaith cymhelliad neu osgoi wrth i bobl weithio'n llai caled efallai neu strwythuro eu pethau yn y fath fodd fel eu bod yn talu llai o'r dreth. Nawr, rwy'n credu ei fod yn fater o dystiolaeth o beth yw maint y ddau beth hynny, a sut y maent yn cydbwyso ei gilydd. Rwy'n poeni bod y system a roddwyd i ni yng Nghymru yn un lle rydym yn cael yr holl fantais ar yr ochr refeniw honno, ond dim ond hanner y gost ar gyfer y gyfradd sylfaenol, neu chwarter y gost pan edrychwch ar y gyfradd 40c. Ar y llaw arall, gallai Llywodraeth y DU elwa o rai o'r newidiadau y mae pobl yn eu gwneud, oherwydd bydd pobl sy'n osgoi cyfraddau uwch o dreth incwm Cymru, os mai dyna fyddant, drwy symud i Loegr—mae hynny'n amlwg yn cynyddu sylfaen drethi'r DU i'w defnyddio yn Lloegr yn hytrach nag yma. Yn yr un modd, os bydd pobl yn penderfynu corffori, sy'n aml yn ffordd o osgoi treth incwm uwch, byddai hynny eto o fudd i Lywodraeth y DU, gan eu bod yn parhau i gymryd y dreth ddifidend. Felly, rwy'n pryderu os gall hynny ogwyddo tuag at ddadl dros drethi ar gyfeiriad uwch yn hytrach nag is.
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio'i gyflawni gyda datganoli trethi? Beth yw'r weledigaeth? Ni wnaethoch wthio'n benodol am ddatganoli'r dreth incwm. Cafodd ei wthio arnoch; fe wnaethoch negodi rhywbeth yr oeddech yn hapus ag ef. Beth ydych chi eisiau ei wneud am y peth? Gwyddom yr hyn a ddywedodd maniffesto Llafur, ond mae'r Prif Weinidog yn dweud wrthym fod hynny'n mynd yn llai a llai pwysig wrth ichi fynd ymhellach oddi wrth yr etholiad. Ar ôl gweld yr hyn y mae wedi'i wneud ar yr M4, a oes dadl weithredol ynglŷn ag a fydd cyfraddau treth incwm yn newid y flwyddyn nesaf? A allai Llafur fynd yn ôl ar yr addewid maniffesto hwnnw? A wnewch chi ei esgusodi drwy gyfeirio at Brexit, neu a ydych yn mynd i gadw at yr addewid yn eich maniffesto? Yn y tymor hwy, a welwch y rhyddid hwn dros gyfraddau treth fel rhywbeth sy'n caniatáu i chi adeiladu sosialaeth mewn un wlad—nid yn unig gyda'r un cymal hwnnw, ond a allwch gael cymdeithas sylfaenol wahanol o ran cyfraddau treth yng Nghymru o gymharu â Lloegr, neu a yw'r ddwy wlad wedi integreiddio cymaint fel nad yw hynny'n mynd i ddigwydd, neu onid yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn ei ddymuno?
Ar yr ochr arall, a yw cael model Singapôr dros yr Hafren yn gredadwy mewn gwirionedd? Pe bai trethi'n cael eu torri, a fyddai'r golled refeniw'n rhy fawr, neu a ydym yn credu o ddifrif y byddai'r cynnydd yn nifer y bobl a allai ddod i Gymru neu sefydlu busnesau yma neu gynyddu eu hincwm yn ddigon i'w wrthbwyso? Rwy'n credu y gallem wneud â ffordd gyffredin o drafod hyn. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dod i mewn ac nid eu gwaith hwy yw dweud 'Rhaglen y blaid: bydd fel hyn neu bydd fel arall', ond yr hyn y maent yn ei wneud i'r Trysorlys a'r hyn a gewch yn San Steffan yw safbwynt gwrthrychol wedi'i gytuno o ran beth yw'r derbyniad treth os ydych yn codi neu'n gostwng treth 1 y cant. A wyddom beth yw'r ffigurau cyfatebol hynny ar gyfer Cymru? A yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei ddarparu? Onid yw'n bwysig, pan fyddwn yn mynd i mewn i'r etholiad nesaf, fod rhyw fath o ganolwr niwtral yn dweud, 'Wel, os newidiwch y gyfradd dreth o hyn a hyn, mae'r effaith ar refeniw yn debygol o fod yn hyn'?
Rwy'n edrych ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog, a hefyd y gynhadledd neu'r seminar yr ydym yn ei chael yn Heol yr Eglwys Gadeiriol ddydd Gwener, lle rwy'n edrych ymlaen at ei chlywed yno. Ac mae ganddi'r haf i feddwl ynglŷn â beth a wnawn yn y maes hwn, oherwydd rwy'n meddwl bod angen gwaith arno, ac mae'n hynod o bwysig ein bod yn gwybod beth sy'n digwydd gyda'r trethi hyn a'r teimladau yn eu cylch, a'n bod yn monitro beth sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn. Oherwydd rydym chwe mis i mewn i'r flwyddyn—dylem gael ychydig mwy o dystiolaeth ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd o ran treth incwm. A gobeithio, pan fydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dechrau yr hydref hwn, y byddwn yn dod i batrwm rheolaidd o adolygu'r rheini pan ddylem. Diolch.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch yn fawr iawn ichi, a diolch i Mark Reckless am gyflwyno dadl olaf y tymor. Nid yw siarad am drethi byth yn welltyn byr—rwy'n credu bod y ddau ohonom yn ei fwynhau yr un faint. Mae datganoli trethi wedi bod yn un o'r gwelliannau allweddol i bwerau Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol dros y ddau ddegawd diwethaf, ac mewn ychydig flynyddoedd, mae trefniadau newydd ar gyfer datganoli cyllidol a chyflwyno trethi Cymreig wedi trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus Cymru eu hariannu. Gyda chefnogaeth y Senedd, ac yn arbennig y Pwyllgor Cyllid, a chyda'r cymorth sylweddol a ddarperir gan fusnesau, sefydliadau eraill a chymunedau, ynghyd â chefnogaeth arbenigol ein grŵp cynghori ar drethi, llwyddasom i gyflwyno dwy dreth genedlaethol newydd, sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, ac yn gynharach eleni, cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymreig.
Felly, erbyn hyn mae tua £5 biliwn yn cael ei godi ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus drwy drethi datganoledig a lleol: cyfraddau treth incwm Cymreig, y dreth trafodiadau tir, y dreth gwarediadau tirlenwi, y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Yn ogystal â hyn, rydym wedi cymryd cam pwysig tuag at sicrhau cyllid teg i Gymru drwy'r cyllid gwaelodol y buom yn ei drafod gyda Llywodraeth y DU. Ac yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae hwn wedi dechrau darparu arian ychwanegol i Gymru, a bydd yn parhau i wneud hynny yn y tymor hwy. Fodd bynnag, ni all hyn wrthbwyso effaith naw mlynedd o gyni ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn y dyfodol, rydym yn parhau'n glir mai fformiwla seiliedig ar anghenion yw'r ffordd orau o sicrhau bod pob rhan o'r DU yn cael y cyllid y mae'n ei haeddu.
Yn sail i'n gwaith ar drethi datganoledig, rydym wedi datblygu fframwaith polisi treth sy'n adeiladu ar arferion gorau rhyngwladol ac sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i fod yn dryloyw ynghylch datblygu polisi treth yng Nghymru. Rydym wedi sefydlu egwyddorion trethiant clir sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni ein hymrwymiadau llesiant a chenedlaethau'r dyfodol, ac sy'n sicrhau bod ein trethi'n helpu i gyflawni amcanion ariannol a pholisi ehangach, gan gynnwys swyddi a thwf.
Rwy'n croesawu'r cyfraniadau y mae Aelodau'r Cynulliad eisoes wedi'u gwneud i helpu i lywio'r agenda ar drethi, ac edrychaf ymlaen at eu mewnbwn parhaus i ddatblygu polisi treth Cymru ymhellach, ac rwy'n rhoi pwyslais arbennig ar ymgysylltu. Rwy'n edrych ymlaen at gynnal cynhadledd drethi Cymru ddydd Gwener, lle byddwn yn trafod y datblygiadau diweddaraf; rwy'n deall y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid hefyd yn ymuno â ni yn y digwyddiad hwnnw. Mae datganoli trethi wedi dod â phenderfyniadau pwysig yn nes at bobl Cymru, gyda chyfleoedd newydd i deilwra diwygiadau i anghenion penodol ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymdeithas. Ac mae hyn yn rhoi gallu i ni gysoni trethiant yng Nghymru â'n hamcanion polisi ehangach, fel ein huchelgeisiau ar gyfer tai a'r amgylchedd, ac wrth bennu'r cyfraddau ar gyfer ein trethi newydd, y cytunwyd arnynt gan y Senedd hon, rydym wedi ystyried yn ofalus yr angen i'n trethi fod yn deg, yn syml ac yn flaengar. Wrth gwrs, mae un peth amlwg wedi'i hepgor o'n pecyn o bwerau, sef datganoli'r doll teithwyr awyr, a argymhellwyd yn gyntaf yn 2012 gan gomisiwn Llywodraeth y DU ei hun. Ac wrth gwrs, fel y buom yn ddadlau'n ddiweddar yn y Siambr, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw'n ddiweddar am ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru erbyn 2021, ac roedd hwnnw'n safbwynt a gefnogwyd yn unfrydol gan y Siambr, a chaiff ei gefnogi'n gryf iawn gan y gymuned fusnes.
Ond hoffwn droi yn awr at rai o'r pwyntiau penodol a godwyd gan Mark Reckless, a'r cyntaf oedd y bwlch rhwng yr arian a godir yng Nghymru a'r arian a werir yng Nghymru. Mae'n iawn i ddweud bod y bwlch oddeutu £13 biliwn, sy'n cyfateb i tua £4,000 y pen. Ac wrth gwrs, mae dadl yno pan soniwn am annibyniaeth—a godwyd yn y Siambr yn gynharach heddiw—ac mae'n ymddangos, ar y dechrau un yn sicr, y byddai safonau byw yn gostwng yng Nghymru. Ond mae'n debyg y gallwn adael hynny ar gyfer trafodaeth lawnach ar achlysur arall. Rhan o'r her yno a'r allwedd y naill ffordd neu'r llall fyddai gwella ein sylfaen drethi, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn canolbwyntio'n fawr iawn arno. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol, y cawsom gyfle i'w drafod yn y Pwyllgor Cyllid y bore yma, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a chynhelir ymgynghoriad yn ei gylch. Daw i rym yn 2020 ac mae hynny'n caniatáu inni edrych ar hyn yn fwy hirdymor. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio hynny, gan fy mod yn awyddus iawn i sicrhau bod ein blaenoriaethau strategol ar gyfer y dyfodol yn rhai a fydd yn ein helpu i dyfu ein sylfaen drethi a gwneud hynny mewn un neu ddwy o ffyrdd, gan weithio ar draws y Llywodraeth gyda chyd-Aelodau ym maes addysg, er enghraifft, i sicrhau ein bod yn uwchsgilio pobl yng Nghymru ac yn caniatáu i bawb wneud y gorau o'u potensial incwm, a hefyd i ddenu pobl i Gymru sy'n mynd i fod yn creu cyfoeth, unwaith eto er mwyn gwella ein sylfaen drethi.
Mae llawer o waith wedi'i wneud ar drethi newydd. Mae pwysigrwydd cael y system yn iawn a mynd o amgylch y trac y tro cyntaf a phrofi'r peirianwaith, fel y dywedodd Mark Drakeford, yn bwysig iawn.
Soniodd Mark Reckless am y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Yn yr Alban gwn fod ganddynt gomisiwn cyllidol, a phenderfynodd Llywodraeth Cymru y byddai hynny'n mynd ychydig dros ben llestri, os caf ei roi felly, yng Nghymru. O ran datblygu gallu Llywodraeth Cymru i ragweld y sefyllfa economaidd yn well, fel y mae San Steffan wedi bod yn ei gwneud ers tro ac fel y mae'r Alban yn ceisio ei wneud, pa waith a wnaethpwyd yn y maes hwn i sicrhau bod ein rhagamcanion mor gywir â phosibl?
Mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ac mae gennym fath o gytundeb memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n nodi'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ei wneud. Yn amlwg, rydym yn talu am eu gwasanaethau, felly rydym yn disgwyl ac yn derbyn gwasanaeth o ansawdd da. Maent yn defnyddio'r un mecanweithiau ar gyfer cyflawni eu gwaith rhagweld a dadansoddi ag sydd ganddynt ar gyfer rhannau eraill o'r DU. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gennym allu i gymharu ar draws ffiniau. Rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn i'n helpu i ddatblygu ein hargymhellion ar gyfer trethi yma yng Nghymru.
Nodwyd y broses sy'n ymwneud â threthi newydd a'u datganoli yn Neddf Cymru 2014, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio ar y cyfle cyntaf hwn i weld a yw'n system sy'n addas at y diben. Pam na wnawn ni ddweud wrth Lywodraeth y DU beth yn union y byddem yn ei wneud â'r pwerau pe baem yn eu cael? Wel, oherwydd bod gwir angen i ni ymgynghori'n eang. Felly, ni allwn ddweud wrth Lywodraeth y DU, er enghraifft, ar ba lefel y byddem yn gosod cyfraddau treth neu ddarparu union fanylion ynglŷn â sut y byddai'r trethi hynny'n cael eu defnyddio, oherwydd byddai'n rhaid ymgynghori ynghylch hynny. Ond y cam cyntaf, fel y dywedaf, yw negodi'r Ddeddf, trosglwyddo'r pwerau perthnasol, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Gobeithiwn gael trafodaeth gydag Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys ar ôl y rownd derfynol o drafodaethau rhwng swyddogion. Gobeithio na fydd hynny'n rhy hir yn awr.
Daeth y syniad am dreth ar dir gwag o ganlyniad i alwad am dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid blaenorol, a ofynnodd i bobl Cymru am eu syniadau ar gyfer trethi newydd. Awgrymwyd mwy na 200 o drethi gwahanol iddo, ac ymddangosai mai'r dreth ar dir gwag oedd yr un i'w chefnogi yn y lle cyntaf, ond cynhwyswyd tri awgrym arall fel meysydd y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol iddynt, ac un o'r rhain oedd y dreth dwristiaeth. Felly, ar hyn o bryd rydym yn edrych i weld ble y cafodd ei gweithredu mewn mannau eraill. Mae Llywodraeth yr Alban, er enghraifft, wedi ymrwymo i archwilio'r dadleuon o blaid ac yn erbyn treth dwristiaeth yno.
Mae cyngor Caeredin eisoes wedi dangos ei gefnogaeth i drethi twristiaeth ac wedi ymgynghori ar gyflwyno ardoll ymwelwyr dros dro yng Nghaeredin—roedd 67 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r syniad hwnnw'n credu y dylid ei chyflwyno ar gost o £2 y noson am lety. Mae gan Fenis ddull gwahanol o weithredu; mae ganddynt ffi mynediad o hyd at £9 neu €10 ar gyfer twristiaid arhosiad byr. Yn Seland Newydd, maent hefyd yn edrych ar y potensial ar gyfer treth dwristiaeth newydd, ond eu prif nod fyddai talu cost gwella seilwaith a chadwraeth. Felly, rydym wedi bod yn glir, ar y dechrau o leiaf, mai'r argymhellion yr ydym yn awyddus i ymgynghori yn eu cylch fyddai treth dwristiaeth, i'w chodi o bosibl ar sail leol, felly gallai awdurdod lleol benderfynu a yw'n rhywbeth y byddent yn dymuno mynd ar ei drywydd ai peidio, ac yna, yn amlwg, byddem am weld yr arian hwnnw'n cael ei ailfuddsoddi yn y diwydiant twristiaeth wedyn, i barhau i wneud yr ardaloedd hynny'n fwyfwy deniadol i dwristiaid.
Bydd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn y tymor newydd ar y gwaith sy'n mynd rhagddo ar ddatblygu'r cynigion ar gyfer yr ardoll gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod hwn yn faes y mae gan gyd-Aelodau ar draws y Siambr ddiddordeb mawr ynddo. Mae pawb ohonom yn cydnabod yr heriau difrifol sy'n ein hwynebu gyda'r galw cynyddol am ofal cymdeithasol, a chostau cynyddol gofal cymdeithasol, ac mae'n rhywbeth lle'r ydym yn awyddus i rannu'r wybodaeth a'n syniadau gydag eraill, a phan ddaw'n bryd inni osod ein maniffestos ar gyfer y flwyddyn nesaf, gall pawb ohonom wneud hynny mewn ffordd wybodus. Felly, bydd datganiad gan Vaughan Gething yn y tymor newydd, ac yna byddaf yn darparu datganiad pellach yn nes ymlaen eleni sy'n edrych yn benodol ar yr agweddau ariannol ar hynny.
Treth ar ddeunydd plastig untro—roedd hwnnw'n faes arall yr ydym yn dal i weithio arno ar hyn o bryd, yn y lle cyntaf, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, ac yna roedd y dreth olaf sef—. Rwy'n credu fy mod wedi cyfeirio at bob un o'r trethi yr ydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Gwn fod gan Mark Reckless ddiddordeb arbennig yn y dreth trafodiadau tir, yn enwedig ar y gyfradd uwch ar gyfer eiddo amhreswyl. Fel y mae'n dweud, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth hyd yn hyn i fod ag unrhyw syniad beth fydd effaith gosod y gyfradd uwch ar y lefel yr ydym wedi'i gosod, ond dros amser, mae'n amlwg y bydd gennym fwy o dystiolaeth, a byddwn bob amser yn rhoi ystyriaeth drylwyr i effaith y penderfyniadau a wnawn.
Wrth gwrs, mae gwahanol resymau pam y byddai busnesau'n ceisio lleoli a phrynu eiddo yma yng Nghymru, yn rhannol yn ymwneud â'r sgiliau sydd gennym i'w cynnig. At ei gilydd, mae tir ac eiddo'n rhatach yma yng Nghymru, a bydd hynny i gyd yn rhan o ystyriaethau busnesau wrth iddynt ystyried ble i leoli a pha eiddo y maent yn ei brynu. O ran cyfraddau treth incwm Cymreig, mae Mark Reckless yn iawn—mae hyn yn bwysig iawn i Gymru, ac nid yw'n cael y sylw y mae'n ei haeddu eto yn ôl pob tebyg, ond rwy'n credu bod llawer o waith i'w wneud o hyd o ran cyfleu'r negeseuon hynny i'r cyhoedd.
Buom yn siarad ddoe am y ffigurau cyflogau sydd wedi dod allan ar lefel y DU—tua 3.6 y cant o dwf, sy'n uwch na'r disgwyl. Mae'r Gweinidog yn llygad ei lle'n sôn am gyflogau'r sector cyhoeddus, ond a yw hefyd yn cydnabod bod y cyflogau uwch hynny'n debygol o arwain at fwy o dderbyniadau o'r cyfraddau treth incwm Cymreig? Yn y gyllideb atodol, cawsom chwe mis yn rhagor o wybodaeth. Cawsom wybod beth oedd y flwyddyn ddiwethaf yn llawn yn hytrach na rhagolwg, ac mae gennym ffigurau ar gyfer dechrau eleni. Onid yw'n syndod na fu newid yn y rhagolwg ar gyfer y cyfraddau treth incwm Cymreig, ac efallai fod hynny'n adlewyrchu'r ffaith nad oes gennym systemau ar waith yn llawn eto ar gyfer integreiddio â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a ffurf y rhagolygon?
Ni fyddem yn disgwyl gweld newidiadau ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn, oherwydd yn amlwg, fel y dywedwch, nid oes gennym y manylder sydd ei angen, ac rydym wedi gosod ein cyfraddau treth incwm Cymreig ar yr un lefel ag sydd ganddynt yn Lloegr. Rydym wedi bod yn glir iawn, ac fe ailadroddaf hyn yn y Siambr heddiw, na fyddai gennym unrhyw fwriad o newid y cyfraddau treth incwm Cymreig rhwng nawr ac etholiadau'r Cynulliad. Rwy'n credu mai mater i bob un o'n pleidiau yw ystyried beth yw ein cynnig i bobl Cymru. Gofynnodd Mark Reckless beth fyddai'r newid yn nhermau newid o 1 y cant yn y gyfradd sylfaenol, er enghraifft. Wel, am bob 1 y cant rydym yn edrych ar £200 miliwn felly pe baech yn gostwng y dreth 1 y cant, byddai'n doriad o £200 miliwn, neu byddai cynnydd o 1 y cant yn arwain at gynnydd o £200 miliwn. Rwy'n credu hefyd fod yna ddadleuon i'w cael gyda'r cyhoedd ynglŷn â beth y mae pobl yn barod i'w golli, neu beth y byddent yn fodlon talu am ei gael. Credaf y bydd hynny'n bendant yn ychwanegu elfen newydd i'n hetholiadau Cynulliad y tro nesaf.
Yna, yn olaf, mae'n debyg, beth yw'r weledigaeth ar gyfer trethi Cymru? Wel, rydym yn gosod y weledigaeth, yn sicr yn y blynyddoedd cynnar, yn ein fframwaith polisi treth, sy'n seiliedig ar egwyddorion ynglŷn â bod refeniw yno i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, ac i wneud hynny mewn ffordd mor deg â phosibl. Dylai trethi fod mor syml a chlir a sefydlog â phosibl bob amser, ac wrth gwrs dylent gysylltu'n uniongyrchol a chyfrannu'n uniongyrchol at ein nod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal. Os yw'r Aelodau'n awyddus i wybod mwy o fanylion hynny, mae gennym ein cynllun gwaith ar bolisi treth sy'n rhan o gylch datblygu polisi blynyddol, ac ym mis Chwefror cyhoeddasom y cynllun ar gyfer eleni. Ond ar bob adeg yn ystod y flwyddyn rydym yn awyddus iawn i ymgysylltu ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn trethi yng Nghymru er mwyn parhau i ddatblygu ein syniadau ac archwilio syniadau newydd, a cheisio gwella bob amser y pethau yr ydym yn eu gwneud eisoes.
Rwy'n meddwl fy mod wedi defnyddio fy amser yn siarad am drethi, ac fel bob amser, mae wedi bod yn bleser.
Diolch yn fawr iawn. Diolch ichi, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw, a thrafodion y tymor mewn gwirionedd, i ben. Diolch.