11. Dadl Fer: Datganoli Treth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:31, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ac mae gennym fath o gytundeb memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n nodi'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ei wneud. Yn amlwg, rydym yn talu am eu gwasanaethau, felly rydym yn disgwyl ac yn derbyn gwasanaeth o ansawdd da. Maent yn defnyddio'r un mecanweithiau ar gyfer cyflawni eu gwaith rhagweld a dadansoddi ag sydd ganddynt ar gyfer rhannau eraill o'r DU. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gennym allu i gymharu ar draws ffiniau. Rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn i'n helpu i ddatblygu ein hargymhellion ar gyfer trethi yma yng Nghymru.  

Nodwyd y broses sy'n ymwneud â threthi newydd a'u datganoli yn Neddf Cymru 2014, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio ar y cyfle cyntaf hwn i weld a yw'n system sy'n addas at y diben. Pam na wnawn ni ddweud wrth Lywodraeth y DU beth yn union y byddem yn ei wneud â'r pwerau pe baem yn eu cael? Wel, oherwydd bod gwir angen i ni ymgynghori'n eang. Felly, ni allwn ddweud wrth Lywodraeth y DU, er enghraifft, ar ba lefel y byddem yn gosod cyfraddau treth neu ddarparu union fanylion ynglŷn â sut y byddai'r trethi hynny'n cael eu defnyddio, oherwydd byddai'n rhaid ymgynghori ynghylch hynny. Ond y cam cyntaf, fel y dywedaf, yw negodi'r Ddeddf, trosglwyddo'r pwerau perthnasol, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Gobeithiwn gael trafodaeth gydag Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys ar ôl y rownd derfynol o drafodaethau rhwng swyddogion. Gobeithio na fydd hynny'n rhy hir yn awr.

Daeth y syniad am dreth ar dir gwag o ganlyniad i alwad am dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid blaenorol, a ofynnodd i bobl Cymru am eu syniadau ar gyfer trethi newydd. Awgrymwyd mwy na 200 o drethi gwahanol iddo, ac ymddangosai mai'r dreth ar dir gwag oedd yr un i'w chefnogi yn y lle cyntaf, ond cynhwyswyd tri awgrym arall fel meysydd y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol iddynt, ac un o'r rhain oedd y dreth dwristiaeth. Felly, ar hyn o bryd rydym yn edrych i weld ble y cafodd ei gweithredu mewn mannau eraill. Mae Llywodraeth yr Alban, er enghraifft, wedi ymrwymo i archwilio'r dadleuon o blaid ac yn erbyn treth dwristiaeth yno.

Mae cyngor Caeredin eisoes wedi dangos ei gefnogaeth i drethi twristiaeth ac wedi ymgynghori ar gyflwyno ardoll ymwelwyr dros dro yng Nghaeredin—roedd 67 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r syniad hwnnw'n credu y dylid ei chyflwyno ar gost o £2 y noson am lety. Mae gan Fenis ddull gwahanol o weithredu; mae ganddynt ffi mynediad o hyd at £9 neu €10 ar gyfer twristiaid arhosiad byr. Yn Seland Newydd, maent hefyd yn edrych ar y potensial ar gyfer treth dwristiaeth newydd, ond eu prif nod fyddai talu cost gwella seilwaith a chadwraeth. Felly, rydym wedi bod yn glir, ar y dechrau o leiaf, mai'r argymhellion yr ydym yn awyddus i ymgynghori yn eu cylch fyddai treth dwristiaeth, i'w chodi o bosibl ar sail leol, felly gallai awdurdod lleol benderfynu a yw'n rhywbeth y byddent yn dymuno mynd ar ei drywydd ai peidio, ac yna, yn amlwg, byddem am weld yr arian hwnnw'n cael ei ailfuddsoddi yn y diwydiant twristiaeth wedyn, i barhau i wneud yr ardaloedd hynny'n fwyfwy deniadol i dwristiaid.

Bydd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn y tymor newydd ar y gwaith sy'n mynd rhagddo ar ddatblygu'r cynigion ar gyfer yr ardoll gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod hwn yn faes y mae gan gyd-Aelodau ar draws y Siambr ddiddordeb mawr ynddo. Mae pawb ohonom yn cydnabod yr heriau difrifol sy'n ein hwynebu gyda'r galw cynyddol am ofal cymdeithasol, a chostau cynyddol gofal cymdeithasol, ac mae'n rhywbeth lle'r ydym yn awyddus i rannu'r wybodaeth a'n syniadau gydag eraill, a phan ddaw'n bryd inni osod ein maniffestos ar gyfer y flwyddyn nesaf, gall pawb ohonom wneud hynny mewn ffordd wybodus. Felly, bydd datganiad gan Vaughan Gething yn y tymor newydd, ac yna byddaf yn darparu datganiad pellach yn nes ymlaen eleni sy'n edrych yn benodol ar yr agweddau ariannol ar hynny.

Treth ar ddeunydd plastig untro—roedd hwnnw'n faes arall yr ydym yn dal i weithio arno ar hyn o bryd, yn y lle cyntaf, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, ac yna roedd y dreth olaf sef—. Rwy'n credu fy mod wedi cyfeirio at bob un o'r trethi yr ydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Gwn fod gan Mark Reckless ddiddordeb arbennig yn y dreth trafodiadau tir, yn enwedig ar y gyfradd uwch ar gyfer eiddo amhreswyl. Fel y mae'n dweud, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth hyd yn hyn i fod ag unrhyw syniad beth fydd effaith gosod y gyfradd uwch ar y lefel yr ydym wedi'i gosod, ond dros amser, mae'n amlwg y bydd gennym fwy o dystiolaeth, a byddwn bob amser yn rhoi ystyriaeth drylwyr i effaith y penderfyniadau a wnawn.

Wrth gwrs, mae gwahanol resymau pam y byddai busnesau'n ceisio lleoli a phrynu eiddo yma yng Nghymru, yn rhannol yn ymwneud â'r sgiliau sydd gennym i'w cynnig. At ei gilydd, mae tir ac eiddo'n rhatach yma yng Nghymru, a bydd hynny i gyd yn rhan o ystyriaethau busnesau wrth iddynt ystyried ble i leoli a pha eiddo y maent yn ei brynu. O ran cyfraddau treth incwm Cymreig, mae Mark Reckless yn iawn—mae hyn yn bwysig iawn i Gymru, ac nid yw'n cael y sylw y mae'n ei haeddu eto yn ôl pob tebyg, ond rwy'n credu bod llawer o waith i'w wneud o hyd o ran cyfleu'r negeseuon hynny i'r cyhoedd.