Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Mae ein gwasanaethau tân ac achub yn parhau i gymryd amrywiaeth o gamau i leihau nifer y tanau gwyllt mewn cymunedau ledled y wlad. Mae llawer o ymyriadau wedi eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r rhain wedi arwain at ostyngiad o 60 y cant yn nifer yr achosion o danau gwyllt ers 2009.