Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Wel, Lywydd, fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, nid wyf yn gwneud sylwadau ar faterion o'r mathau hyn yn aml, ond rwy'n rhannu rhwystredigaeth Dai Lloyd ynglŷn â rhai o'r pethau y mae Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig yn eu gwneud heb rannu ei bryderon ynglŷn â'r Deyrnas Unedig ei hun, a dyna'r gwahaniaeth sylfaenol rhyngom.
Ond nid wyf chwaith yn rhannu'r modd cyson y mae'n dilorni gwahanol ddinasoedd y mae'r ddau ohonom yn eu caru. Felly, ar y pwynt hwn, gan ei bod yn ymddangos ein bod wedi gwyro oddi ar bwnc llywodraeth leol, rwyf am achub ar y cyfle i ddweud bod Abertawe wedi dod yn ail ddoe mewn rhestr o'r lleoedd gorau ym Mhrydain i fyw, gyda 75 y cant o bobl yn Abertawe yn dweud mai dyma'r lle gorau ar y blaned gyfan i fyw. Mae'n ddinas boblogaidd i fyw ynddi, gyda chyfraddau cyflogaeth da ar gyfer gweithwyr proffesiynol, hinsawdd ardderchog a phobl hyfryd. Ac rwyf fi'n bersonol yn eilio hynny.