2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 17 Gorffennaf 2019.
4. Sut y bydd y Gweinidog yn ymateb i ddatganiadau o blaid annibyniaeth Cymru sy'n dod i'r amlwg gan rai cynghorau yng Nghymru? OAQ54262
Mae barn Llywodraeth Cymru ar annibyniaeth yn glir iawn: credwn mai'r ffordd orau o wasanaethu Cymru yw drwy fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Ond mae'n rhaid i'r undeb newid i lwyddo i fodloni'r heriau digynsail y mae'n eu hwynebu. Bydd democratiaeth leol yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn hyn.
Diolch, Weinidog. Mae 11 o gynghorau cymuned a thref bellach wedi pasio cynigion yn cefnogi Cymru annibynnol. Felly, dyna 11 o blith ymhell dros 700 o gyrff unigol. Nawr, dyfynnwyd cadeirydd cyngor tref Nefyn yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd penderfyniad y cyngor tref yn achosi tswnami o gyffro a hyder drwy'r genedl. Mae'n iawn ynglŷn ag un peth: byddai annibyniaeth yn tswnami dinistriol i Gymru. Er enghraifft, mae'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.]
Ni all y Gweinidog glywed y cwestiwn sydd ar fin cael ei ofyn.
—a Llywodraeth Cymru yn elwa'n fawr o'r ffaith bod Cymru'n rhan annatod o'n Teyrnas Unedig. Er fy mod yn sylweddoli mai oddeutu 1.5 y cant yn unig o'r holl gynghorau tref a chymuned yng Nghymru sydd wedi datgan cefnogaeth i annibyniaeth, credaf fod angen ymateb—[Torri ar draws.]—cryf gan eich Llywodraeth. A wnewch chi, felly, gadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r pleidleisiau hyn fel esgus i ailasesu Cymru a'i lle yn yr undeb?
Wel, Lywydd, cynghorau tref yw democratiaeth leol ar waith, ac os ydynt am wneud datganiadau ynghylch nifer o bethau sydd y tu hwnt i'w pwerau, nid wyf i mewn unrhyw sefyllfa i ddweud wrthynt a ddylent wneud hynny ai peidio. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud yn glir iawn ein bod yn credu bod buddiannau Cymru'n cael eu diogelu orau fel rhan o undeb sy'n gweithio'n dda. Rydym wedi bod ar flaen y gad yn gyson yn ein hymdrechion i geisio diwygio'r agweddau hynny nad ydynt yn gweithio er budd Cymru. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf i nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol cysylltiadau rhynglywodraethol a'r cyfansoddiad yn 'Brexit a Datganoli', ac fel rhan o'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, fe wnaethom arwain y gwaith o ddatblygu egwyddorion newydd ar gyfer cysylltiadau rhwng ein Llywodraethau, sydd bellach wedi'u cyhoeddi. Os yw cynghorau tref yn teimlo'n wahanol, mater i'w democratiaethau lleol hwy yw hynny'n llwyr.
Weinidog, ddoe cawsom ein rhybuddio gan y Gweinidog Cyllid fod Cymru'n wynebu bygythiadau deublyg rhaglen barhaus Llywodraeth y DU o gyni a Brexit heb gytundeb, a allai wneud niwed aruthrol i fuddiannau Cymru. Yn wir, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi gweld y ddinas sy'n gartref i ni, Abertawe, yn cael ei hesgeuluso mewn perthynas â blaenoriaethau Llywodraeth y DU—canslo cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd, gwrthod ariannu'r morlyn llanw. Mae hyd yn oed Gweinidog trafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi cwyno'n gyson fod Llywodraeth y DU yn esgeuluso seilwaith rheilffyrdd Cymru. Nid ydym yn cael ein cyfran deg o fuddsoddiad. Gwrthodwyd pwerau i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â tholl teithwyr awyr, plismona, a chyfiawnder troseddol. Pam na allwn wneud y pethau hyn? Weinidog, onid yw'n gwbl ddealladwy fod pobl yn dechrau gofyn i'w hunain, 'A oes ffordd arall?', 'Beth am fod yn annibynnol?', 'Beth am reoli ein hadnoddau a'n dyfodol yn hytrach na gorfod cwyno'n barhaus am anghyfiawnder, annhegwch ac addewidion wedi'u torri, sef yr hyn a gawn gyda'r setliad cyfansoddiadol presennol?'.
Wel, Lywydd, fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, nid wyf yn gwneud sylwadau ar faterion o'r mathau hyn yn aml, ond rwy'n rhannu rhwystredigaeth Dai Lloyd ynglŷn â rhai o'r pethau y mae Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig yn eu gwneud heb rannu ei bryderon ynglŷn â'r Deyrnas Unedig ei hun, a dyna'r gwahaniaeth sylfaenol rhyngom.
Ond nid wyf chwaith yn rhannu'r modd cyson y mae'n dilorni gwahanol ddinasoedd y mae'r ddau ohonom yn eu caru. Felly, ar y pwynt hwn, gan ei bod yn ymddangos ein bod wedi gwyro oddi ar bwnc llywodraeth leol, rwyf am achub ar y cyfle i ddweud bod Abertawe wedi dod yn ail ddoe mewn rhestr o'r lleoedd gorau ym Mhrydain i fyw, gyda 75 y cant o bobl yn Abertawe yn dweud mai dyma'r lle gorau ar y blaned gyfan i fyw. Mae'n ddinas boblogaidd i fyw ynddi, gyda chyfraddau cyflogaeth da ar gyfer gweithwyr proffesiynol, hinsawdd ardderchog a phobl hyfryd. Ac rwyf fi'n bersonol yn eilio hynny.
Nid oedd Caerdydd yn yr arolwg, nac oedd?
Oedd.
Y cwestiwn Nefyn ac Abertawe fydd y cwestiwn hwnnw am byth. [Chwerthin.]
Cwestiwn 5, Mark Reckless.