Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel llawer o'r Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae etholwyr wedi cysylltu â mi i sôn am anghydfodau gyda'u cymdogion mewn perthynas ag uchder gwrychoedd, ac roeddwn yn meddwl tybed a allai hyn fod yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru edrych arno fel rhan o'i pholisi cynllunio yn y dyfodol, gan ei fod yn fater difrifol; mae'n achosi lefelau sylweddol o anghydfod rhwng cymdogion y mae'n rhaid i'r heddlu ymdrin ag ef weithiau. Ac mae'r diffyg canllawiau ynghylch uchder gwrychoedd a'r diffiniad o wrych weithiau'n achosi problemau i adrannau cynllunio ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i yng Nghonwy. Felly, tybed pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i ddarparu rhywfaint o eglurder er mwyn datrys y materion hyn.