2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 17 Gorffennaf 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y system gynllunio yng Nghymru? OAQ54255
Yn sicr. Bydd dyfodol y system gynllunio yn seiliedig ar ddogfen 'Polisi Cynllunio Cymru', a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf, a'r fframwaith datblygu cenedlaethol, y byddwn yn ymgynghori arno yn ystod yr haf. Mae'n alinio'r system gynllunio yn uniongyrchol ac yn systematig â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel llawer o'r Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae etholwyr wedi cysylltu â mi i sôn am anghydfodau gyda'u cymdogion mewn perthynas ag uchder gwrychoedd, ac roeddwn yn meddwl tybed a allai hyn fod yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru edrych arno fel rhan o'i pholisi cynllunio yn y dyfodol, gan ei fod yn fater difrifol; mae'n achosi lefelau sylweddol o anghydfod rhwng cymdogion y mae'n rhaid i'r heddlu ymdrin ag ef weithiau. Ac mae'r diffyg canllawiau ynghylch uchder gwrychoedd a'r diffiniad o wrych weithiau'n achosi problemau i adrannau cynllunio ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i yng Nghonwy. Felly, tybed pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i ddarparu rhywfaint o eglurder er mwyn datrys y materion hyn.
Ie, mewn gwirionedd, mae'r awdurdod lleol eisoes yn gallu gwneud cryn dipyn o ran yr hyn y mae'n ei ddweud yn eu cynllun datblygu lleol, felly buaswn yn annog yr Aelod i sicrhau bod ei awdurdod cynllunio lleol yn ystyried unrhyw beth a godir drwy ei swyddfa etholaethol, ac yn edrych yn lleol i sicrhau bod ganddynt yr holl ddarpariaethau cywir yn eu cynllun datblygu lleol i'w gynorthwyo.
Weinidog, gall adrannau cynllunio helpu mewn perthynas ag aer glân, materion llygredd ac allyriadau. Rwy'n deall eich ateb i Leanne Wood yn gynharach pan ddywedoch chi na ellir mynd i'r afael â materion amgylcheddol ar sail unigol, ond gall y Llywodraeth helpu mewn gwirionedd drwy ddarparu rhywfaint o ganllawiau, yn enwedig mewn perthynas â phethau ysgrifenedig fel allyriadau mewn unrhyw geisiadau. Os ydym am leihau allyriadau mewn ardal, yn enwedig ym Mhort Talbot, er enghraifft, lle cawn ein beirniadu drwy'r amser am ansawdd yr aer, gallech sôn am gofnodi lefelau cronnol o allyriadau, ac felly, gellir herio cais sy'n ychwanegu at hynny ar sail y ffactor hwnnw. A wnewch chi edrych ar y mater hwn er mwyn sicrhau y gallwn gyflwyno'r cysyniad hwn fel y gellir ymdrin â cheisiadau a allai fod yn niweidiol i ansawdd yr aer yn gyffredinol gyda'i gilydd, yn hytrach na fel cais unigol?
Ie. Rwy'n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelod y gall yr awdurdod lleol wneud hynny eisoes. Diwygiwyd 'Polisi Cynllunio Cymru' gennym yn llwyr i adlewyrchu'r nodau a'r ffyrdd o weithio a nodwyd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fis Rhagfyr diwethaf. Ac os yw'r awdurdod lleol am adolygu eu cynllun datblygu lleol yng ngoleuni'r ddogfen newydd honno, sy'n sicrhau bod creu lleoedd yn ganolog yn y polisi cynllunio cenedlaethol, gallant wneud hynny wrth gwrs. Holl bwynt adolygu 'Polisi Cynllunio Cymru' oedd sicrhau'r math o greu lleoedd y mae David Rees yn ei nodi, ac felly mae'r awdurdod lleol eisoes yn gallu gwneud hynny os ydynt am adolygu eu cynllun yn unol â hynny.
Weinidog, rwyf wedi gofyn sawl gwaith ynghylch y system gynllunio, yn enwedig mewn perthynas â cheisiadau cynllunio tai ar raddfa fawr, ynglŷn â mater ehangu'r nifer statudol o ymgyngoreion, yn enwedig, er enghraifft, y rheini y byddai'n rhaid iddynt ddarparu, er enghraifft, gwasanaethau meddygon teulu ac yn y blaen. Nawr, nid yw byrddau iechyd lleol wedi bod yn effeithlon iawn yn hyn o beth, ond yn amlwg, ceir effeithiau sylweddol yn aml ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol. Tybed a oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud ar hynny, ac ar fy awgrym y dylid cael ardoll, efallai, ar geisiadau cynllunio mawr a fyddai'n ariannu cynrychiolaeth i grwpiau cymunedol lle mae'n amlwg y bydd ceisiadau mawr yn cael effaith enfawr ar gymunedau lleol.
Amrywiaeth o bethau, felly. O ran ehangu'r rhestr o ymgyngoreion statudol, disgwylir i ymgyngoreion statudol roi ymateb sylweddol i'r awdurdod cynllunio lleol o fewn 21 diwrnod pan ymgynghorir â hwy ynghylch ceisiadau cynllunio, a 28 diwrnod ar gyfer ymgynghoriad cyn ymgeisio. Gall hynny fod yn dipyn o ymrwymiad. Mae angen i ni fod yn sicr y byddai'r bwrdd iechyd lleol mewn sefyllfa i fodloni'r disgwyliadau hynny'n gyson, ac rydym yn hapus iawn i gael y sgyrsiau hynny. Yn wir, rydym wedi bod yn cael y sgyrsiau hynny ers tro. Nid yw hynny'n golygu, fodd bynnag, na all yr awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â'r bwrdd iechyd heb iddo fod yn ymgynghorai statudol, ac rydym yn sicr yn argymell hynny fel arfer da. Wrth gwrs, gall yr awdurdod lleol roi cytundeb adran 106 ar waith ar gyfer datblygiad lle gall ddangos bod y cyfraniad seilwaith yn angenrheidiol, ac rydym yn annog awdurdodau lleol i wneud hynny mewn perthynas â'r cynllun cyffredinol ar gyfer eu seilwaith.
Profiad uniongyrchol meddygon teulu o'r capasiti yn eu hardal—byddem yn disgwyl i hynny gael ei sianelu drwy'r bwrdd iechyd lleol ac yn wir, drwy'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol fel bod gan y trefniadau cynllunio ardal sylfaen dda ar gyfer sefydlu'r cynllun datblygu lleol yn y lle cyntaf.
Ni allaf bwysleisio ddigon i'r Aelodau yn y Siambr hon mai pwrpas proses sy'n dilyn y cynllun yw sicrhau bod pobl leol yn rhan o'r cynllun, ac felly pan fydd yr awdurdod lleol yn neilltuo safleoedd ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad, bydd pobl yn gallu dweud, 'Ond bydd hynny'n cael yr effaith hon ar yr ysgol hon neu'r seilwaith hwn' ac yn y blaen. Dyna ddiben system gynllunio, nid cael system ar hap lle edrychir ar bob cais cynllunio yn unigol. Holl bwrpas y cynllun yw edrych ar y seilwaith yn ei gyfanrwydd, ac felly ni allaf bwysleisio hynny ddigon, ac os gallwn ledaenu'r neges honno fwyfwy wrth i'r cynlluniau datblygu lleol fynd drwy eu prosesau adolygu, byddwn wedi gwneud cymwynas fawr â phobl Cymru.
O ran cefnogaeth i drigolion yn y broses apelio, fel y dywedais, mae angen i'r trigolion gymryd rhan ar y cam cynllunio, lle bo hynny'n bosibl. Wrth gwrs, mae croeso i unrhyw grŵp unigol gymryd rhan yn eu proses apeliadau cynllunio. Mae angen help arnynt i wneud yn siŵr fod eu sylwadau'n seiliedig ar resymau cynllunio cadarn. Nid yw'n ddigon gwrthwynebu oherwydd nad ydych yn hoffi rhywbeth; mae'n rhaid i chi ei seilio ar ystyriaeth gynllunio berthnasol, a gellir helpu pobl gyda hynny. Mae gennym Cymorth Cynllunio Cymru, sefydliad elusennol sy'n ceisio cefnogi ymgysylltiad â'r gymuned yn y broses gynllunio. Mae'n darparu canllawiau a chymorth uniongyrchol mewn rhai achosion i grwpiau cymunedol, ac rwy'n hapus i gyfeirio unrhyw grwpiau o drigolion rydych yn teimlo y gallant fod angen y cymorth hwnnw at Cymorth Cynllunio Cymru.