Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau ar eich cyfrifoldebau fel Gweinidog gwaith teg a diwygio lles. Nodaf fod gwefan Llywodraeth Cymru yn dweud bod eich cyfrifoldebau gwaith teg yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer mynediad, twf a chynnydd, ac ar gyfer amgylcheddau gwaith diogel, iach a chynhwysol.
Ddydd Llun, fel y gwyddoch o bosibl, cefais y fraint o noddi'r digwyddiad undydd sgiliau gwleidyddol ar gyfer pobl ifanc anabl yn Senedd Cymru i ddathlu Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd y Cenhedloedd Unedig a sgiliau pobl ifanc anabl yng Nghymru, digwyddiad a drefnwyd gan Leonard Cheshire Cymru, Plant yng Nghymru, a Whizz-Kidz. Fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae pobl ifanc anabl yn un o'r grwpiau sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf, ac yn rhy aml o lawer, mae cymdeithas wedi methu cydnabod eu doniau, eu creadigrwydd, eu gallu i weld y byd mewn ffordd sy'n aml yn wahanol i eraill, eu profiadau, a all helpu i nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran mynediad a chynhwysiant. A chododd y bobl ifanc hynny lawer o faterion gyda mi ac aelodau eraill o'r panel holi yn ddiweddarach y bore hwnnw, yn enwedig ynghylch—ymysg pethau eraill—y rhwystrau y maent yn eu hwynebu, nid yn unig i gyflogaeth, ond i'r math o gyflogaeth sy'n gwneud y gorau o'r sgiliau sydd gan bob un ohonynt fel unigolion. Er enghraifft, un o'r cwestiynau oedd: 'Beth arall y dylid ei wneud i'n helpu i ddeall ein budd-daliadau er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â gwaith, a sut y mae disgwyl i bobl ag anableddau gael swydd pan fydd diffyg cyfleusterau hygyrch fel toiledau Changing Places?'
Felly, sut y byddwch yn ymgorffori'r anghenion hynny, y dymuniadau hynny, yr uchelgeisiau hynny, y cyfleoedd hynny, yn eich gwaith ar waith teg a diwygio lles, gan nodi, er enghraifft, y gwaith a wnaethoch ar y cyd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar Cymunedau am Waith, y gwaith y mae Remploy Cymru yn ei wneud gyda'r rhaglen waith ac iechyd, cynllun hyderus o ran anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac wrth gwrs, y cynllun Mynediad i Waith?