Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch, Weinidog. Mae 11 o gynghorau cymuned a thref bellach wedi pasio cynigion yn cefnogi Cymru annibynnol. Felly, dyna 11 o blith ymhell dros 700 o gyrff unigol. Nawr, dyfynnwyd cadeirydd cyngor tref Nefyn yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd penderfyniad y cyngor tref yn achosi tswnami o gyffro a hyder drwy'r genedl. Mae'n iawn ynglŷn ag un peth: byddai annibyniaeth yn tswnami dinistriol i Gymru. Er enghraifft, mae'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.]