Dyfodol y System Gynllunio

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:59, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwyf wedi gofyn sawl gwaith ynghylch y system gynllunio, yn enwedig mewn perthynas â cheisiadau cynllunio tai ar raddfa fawr, ynglŷn â mater ehangu'r nifer statudol o ymgyngoreion, yn enwedig, er enghraifft, y rheini y byddai'n rhaid iddynt ddarparu, er enghraifft, gwasanaethau meddygon teulu ac yn y blaen. Nawr, nid yw byrddau iechyd lleol wedi bod yn effeithlon iawn yn hyn o beth, ond yn amlwg, ceir effeithiau sylweddol yn aml ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol. Tybed a oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud ar hynny, ac ar fy awgrym y dylid cael ardoll, efallai, ar geisiadau cynllunio mawr a fyddai'n ariannu cynrychiolaeth i grwpiau cymunedol lle mae'n amlwg y bydd ceisiadau mawr yn cael effaith enfawr ar gymunedau lleol.