Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Yr wythnos diwethaf, fe goronwyd dau Gymro yn bencampwyr y byd yn eu maes. Mewn cystadleuaeth rhwng 35 o wledydd a 300 o gystadleuwyr yn Ffrainc, fe ddaeth y Cymro Richard Jones o Lyndyfrdwy yn sir Ddinbych yn bencampwr cneifio'r byd—y cyntaf o Gymru erioed i ennill y teitl hwnnw. Roedd yn rhaid cneifio 20 o ddefaid, a mi wnaeth e hynny mewn 15 munud a 30 eiliad, ac er bod dau gneifiwr arall, y ddau yn gyn-bencampwyr y byd, wedi gorffen mewn amser ychydig yn gynt, ansawdd cneifio Richard sicrhaodd mai fe gipiodd y bencampwriaeth. Roedd e'n rhan o dîm o saith o Gymru, gydag aelod arall o'r tîm, Aled Jones o Bowys, yn dod yn bencampwr y byd am drin gwlân, dim ond y trydydd o Gymru i ddal y teitl hwnnw. Mi ddaeth Richard a'i bartner Alun Lloyd Jones o Langollen o fewn trwch blewyn hefyd i ennill pencampwriaeth tîm cneifio y byd. Os na weloch chi hanes eu camp nhw ar Ffermio ar S4C, yna mae yn werth ichi wylio eto. Mi fydd hefyd gyfle, wrth gwrs, i weld aelodau tîm Cymru wrth eu crefft yn cystadlu yn y sioe fawr yn Llanelwedd wythnos nesaf, lle dwi'n siŵr y bydd yna gryn ddathlu. Ond does dim gorffwys i Richard gan y bydd e'n amddiffyn ei goron fel pencampwr cneifio Cymru yn y sioe. Ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, felly, gaf i estyn ein llongyfarchiadau ni i gyd i dîm Cymru, ac yn enwedig i Richard Jones ac Aled Jones, pencampwyr byd diweddaraf Cymru a thestun balchder i bob un ohonom ni?