Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i David Rees am y modd ardderchog y cadeiriodd y pwyllgor, a'r swyddogion sy'n gwneud gwaith mor wych yn cynorthwyo ein gwaith. Rwy'n credu ei bod yn fraint fy mod yn gallu chwarae rhan mewn pwyllgor sy'n gwneud y gwaith pwysig hwn mewn perthynas â Brexit, ar yr adeg hollbwysig a rhyfedd hon yn ein gwleidyddiaeth, a chyda phobl o wahanol bleidiau sydd am ymdrin yn ddifrifol â'r materion yr ydym yn eu hwynebu, ac eisiau gweithio'n adeiladol, er mwyn craffu ar benderfyniadau, a chyflwyno awgrymiadau ar gyfer y dyfodol. Ac yn hynny o beth, hoffwn gysylltu fy hun â llawer o'r hyn y mae David Melding wedi'i ddweud.
Gadeirydd, mae'r rhain yn amseroedd pryderus, a rhywbeth y siaradais amdano o'r blaen yw'r gost cyfle sydd wedi deillio o’r holl gynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb, a'r holl adnoddau y gallem fod wedi eu gwario fel arall ar ddatblygu ein cenedl a gwella gwasanaethau. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, rwy'n gwybod, yn effro i hyn—rhoesant dystiolaeth i ni ar hyd y llinellau hynny. Pan gyrhaeddwn yr ochr arall, boed yn gytundeb neu'n ‘ddim bargen’ neu ‘aros’—beth bynnag sy'n ein hwynebu—a ydych chi’n cytuno y bydd hwnnw'n waith mawr i ni edrych arno?
Rydych chi hefyd wedi siarad am y rôl gwbl hanfodol y bydd ein pwyllgor yn ei wneud wrth siarad â dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, a'r effaith y mae'r ansicrwydd yn ei chael arnynt hwy. Ychydig wythnosau yn ôl, cyfarfûm ag un o fy etholwyr sy'n un o wladolion yr UE, a chyflwynodd i mi lyfr o dystebau Brexit, o'r enw In Limbo. Mae'r enw'n dweud y cyfan, onid yw? Mae bywydau cymaint o bobl ar stop ar hyn o bryd oherwydd yr ansicrwydd hwn. Ac fe gyfeirioch chi, Gadeirydd, at y ffaith bod un person yr oeddem yn siarad â hwy’n ddiweddar wedi siarad ynglŷn â sut y dywedwyd 'Ewch adref' wrth eu plentyn. Wel, mae rhai etholwyr sy'n wladolion yr UE wedi dweud pethau tebyg iawn wrthyf innau hefyd. Nid yw'n iawn, a hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethoch i holl ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru—hoffem i chi wybod bod croeso i chi, ein bod yn gwerthfawrogi’n fawr eich cyfraniad i'n heconomi a'n cymdeithas, ac mae’n cyfoethogi'r wlad hon yn fawr.
Nawr, rwy’n hynod o falch y byddwn ni, fel pwyllgor, yn ystyried dyfodol yr undeb fel rhan o'n rhaglen waith yn y dyfodol. Mae angen dybryd inni graffu ar strwythurau rhynglywodraethol, ac i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn y dylai ei wneud o ran yr egwyddorion drafft a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o gofio, hyd yn hyn, nad ydynt wedi rhoi unrhyw arwydd eu bod yn bwriadu newid eu ffyrdd haerllug o fynd ati. Edrychaf ymlaen at graffu ar y fframweithiau polisi cyffredin, ac at weithio i sicrhau nad yw San Steffan yn cael rhwydd hynt i lofnodi cytundebau rhyngwladol sydd â'r potensial i ddiraddio gwasanaethau datganoledig heb i Gymru gael llais.
Ar adegau fel hyn, gyda chwyldro yn yr awyr bron, dyletswydd y lle hwn, a'r Llywodraeth, yw paratoi at y dyfodol. Ydy, mae hyn yn golygu paratoi ar gyfer pob math o bosibiliadau Brexit gwahanol, ond mae hefyd yn golygu paratoi'r wlad hon ar gyfer gwahanol bosibiliadau cyfansoddiadol. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun wrth y pwyllgor fod rhannau symudol i'r undeb hwn, nad yw Llywodraeth Cymru yn rheoli'r rhain, ac y gallai fod yn bosibl y bydd angen i Gymru ystyried ei dyfodol cyfansoddiadol yn fuan iawn, pe bai'r Alban yn dod yn annibynnol, er enghraifft. Felly, mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi'r sylfeini ar gyfer y posibilrwydd hwn—ac rwy'n derbyn ei fod y tu allan i gylch gwaith ein pwyllgor.
Felly, rwy'n ailadrodd fy ngalwad—gan siarad fel aelod unigol o'r pwyllgor yn hytrach nag ar ran y pwyllgor yn ei gyfanrwydd—i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth ar frys i gynnull confensiwn cyfansoddiadol i ystyried y gwahanol opsiynau cyfansoddiadol sydd ar gael i Gymru. Nid oes unrhyw bwynt galw am gonfensiwn o'r math hwn ar gyfer y DU gyfan. Treuliodd y cyn Brif Weinidog flynyddoedd yn ceisio ei orau i gyflawni hyn heb gyrraedd unman. Mae'r Alban ar eu llwybr cyfansoddiadol eu hunain ac nid oes gan Loegr unrhyw fwriad i chwarae'n deg. Cyn belled ag y gwelwn, mae hyn yn rhywbeth sy'n rhaid i ni ei wneud drosom ein hunain.
Dylai'r confensiwn hwn, a allai fod yn debyg o ran ei gwmpas i gomisiwn Kilbrandon a gynullwyd gan Lywodraeth Lafur Wilson, ystyried y gwahanol bosibiliadau sydd ar gael i Gymru a sut y byddai'r rhain yn gweithredu'n ymarferol: o hunanlywodraeth i 'devo max'; o ffederaliaeth i gydffederaliaeth; ac, ie, annibyniaeth hefyd. Os na wneir y gwaith hwn, mae'n bosibl y gwelwn ein bod yn suddo'n rhan o long wladol gamweithredol ac anghytbwys Cymru a Lloegr, yn llawn edifeirwch na wnaethom adeiladu bad achub pan gawsom gyfle. Mae gennym ddyletswydd i'n dinasyddion a chenedlaethau'r dyfodol i roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r mater hwn. Nawr yw'r amser i baratoi ar gyfer y dyfodol.