7. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:15, 17 Gorffennaf 2019

Diolch yn fawr iawn. Efallai y gwnaf i gychwyn trwy ymateb i'r sylw diwethaf yna a'r ffaith eich bod chi wedi dweud, David Rowlands, gerbron y Cynulliad heddiw bod eich mam, yn wir, wedi dioddef yn sgil y materion hanesyddol oedd yn digwydd yn ein hysgolion ni ers talwm, pan oedd pobl yn cael eu cosbi yn gorfforol am siarad Cymraeg. Dwi dal yn flin iawn, iawn am hynny, ond mae rhywun yn troi'r dicter tuag at fod yn adeiladol, ac felly dwi'n falch iawn o'r gwaith blaengar sydd yn digwydd yn y maes yma.

Dwi'n diolch i Suzy am ei sylwadau hollol adeiladol a phositif yn cymeradwyo'r gwaith sydd yn digwydd o ran cynllunio ieithyddol yn y gweithle yma. Mae yna bobl o Norwy, mae yna bobl o'r Ffindir wedi bod yn dod yma i Gymru i weld y gwaith blaengar ynglŷn â chynllunio ieithyddol sydd wedi bod yn digwydd ac yn awyddus i ddysgu o'n profiadau ni a'n harferion ni efo ieithoedd lleiafrifol yn eu gwledydd nhw.

Dwi'n falch eich bod chi'n cytuno bod cael gwared ar y 'Cymraeg yn hanfodol' wedi bod yn gam cadarnhaol, ac rydym ni'n gwybod o brofiad, nid yn unig yn y Cynulliad, ond mewn meysydd eraill, mi oedd pobl yn arfer dewis peidio â gwneud cais am swyddi oherwydd eu bod nhw'n ofni'r 'Cymraeg yn hanfodol'. Ond ers cyflwyno disgrifiadau ar wahanol lefelau, rydym ni wedi gweld yr hysbysebion yn cael eu datblygu o amgylch anghenion y swyddi, ac yn wir rydym ni wedi gweld cynnydd yn y nifer o ddysgwyr Cymraeg sy'n cael eu penodi i swyddi, sy'n dangos y gwerth o fuddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau iaith ar gyfer yr unigolion a'r sefydliad.

O ran Cymraeg cwrteisi, mae'n wych gweld hwn ar waith. Wnaf i fyth anghofio yn yr Eisteddfod Genedlaethol gweld y swyddogion diogelwch wrth eu boddau yn defnyddio Cymraeg sylfaenol: 'Bore da', 'Prynhawn da'. Un peth sy'n cael ei ddefnyddio yn aml erbyn hyn ydy 'Popeth mewn trefn'. Dwi'n cael hwnna rŵan pan dwi'n—. Mae'n ardderchog gweld Cymraeg cwrteisi yn digwydd. Dwi'n gweld fy mod i allan o amser, ond rwy'n falch iawn o gymeradwyo, felly, yr adroddiad yma, ac mi fydd y gwaith yn parhau. Mae'n bell o fod yn berffaith, ond mi fyddwn ni'n parhau ac yn cynnal y momentwm.

Os caf i jest ddweud un gair byr cyn cloi, buaswn i ddim yn licio gorffen heddiw heb enwi un swyddog yn benodol. Dydyn ni ddim yn arfer gwneud hyn, dwi'n gwybod, ond hoffwn i roi teyrnged i Craig Stephenson, y cyfarwyddwr ymgysylltu sydd yn ymddeol. Dros y blynyddoedd, mae o wedi bod yn bencampwr diflino ac yn eiriolwr brwd dros bob agwedd ar y cynllun ieithoedd swyddogol, gan sicrhau bod darparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf yn rhan greiddiol o holl waith Comisiwn y Cynulliad. Felly, diolch yn fawr iawn i Craig a phob lwc i’r dyfodol.