– Senedd Cymru am 4:02 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Felly, yr eitem ddilynol yw’r cynnig i nodi’r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19. Dwi’n galw ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr. A phleser o’r mwyaf ydy cyflwyno’r adroddiad blynyddol yma ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad. Mae’n braf cael cyfle i’ch diweddaru chi am ein gwaith ni dros y flwyddyn diwethaf. Mae’r adroddiad yn dathlu llwyddiannau, ond hefyd yn nodi’r adegau pan nad ydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y safonau uchel sy’n ddisgwyliedig o dan y cynllun.
Mi hoffwn i gychwyn efo’r themâu sy’n rhoi strwythur i’n gwaith ar gyfer y pumed Cynulliad. Fe gafwyd cryn drafodaeth y llynedd am ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid y system recriwtio er mwyn disgrifio a phennu sgiliau iaith ar gyfer swyddi yn well, gan gyflwyno gofyniad sgiliau iaith sylfaenol ar gyfer pob swydd a hysbysebir. Bellach, mae’r system honno wedi bod ar waith am flwyddyn ac mae’r adroddiad yn cynnwys manylion nifer y swyddi a hysbysebwyd ar wahanol lefelau, ac mewn adroddiadau blynyddol o hyn allan mi fydd modd i ni gymharu’r niferoedd hynny.
O ran y thema sgiliau iaith, mae’r tîm sgiliau iaith wedi parhau i gynnig hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth a staff Comisiwn y Cynulliad. Bellach mae dros 150 o ddysgwyr yn derbyn hyfforddiant gan y tîm. Eleni, diolch i ymroddiad ein dysgwyr, a dulliau hyfforddi arloesol y tîm, mae 11 o ddysgwyr wedi sefyll arholiadau CBAC ar lefelau mynediad, sylfaen a chanolradd, efo llawer iawn mwy yn dringo ysgol y lefelau ond yn dewis peidio â sefyll arholiad.
Ar y cyfan, mae gwaith y tîm ieithoedd swyddogol eleni wedi canolbwyntio ar gynllunio ieithyddol, sef y trydedd thema, yn sgil rhoi’r system recriwtio newydd ar waith. Mae penaethiaid gwasanaeth a chydgysylltwyr ieithoedd swyddogol wrthi’n diwygio cynlluniau iaith y gwasanaethau unigol, gan nodi gofynion sgiliau iaith ar gyfer pob swydd. Law yn llaw â’r gwaith hwn, rydym ni yn y broses o gofnodi sgiliau iaith ein holl staff. Mae’r gwaith yn digwydd fesul gwasanaeth ar sail hunan asesiad, a bydd y tîm ieithoedd swyddogol a’r tîm sgiliau iaith yn darparu cefnogaeth i unigolion a thimau yn ôl yr angen. Bydd hyn oll yn ffordd o gynnig sicrwydd i’r prif weithredwr, ac i mi fel comisiynydd â chyfrifoldeb am ieithoedd swyddogol, ein bod ni yn cynllunio capasiti dwyieithog y sefydliad yma'n briodol ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf bob amser.
Trafodion y Cynulliad ydy’r pedwaredd thema. Mae ein gwaith ni wedi canolbwyntio ar gefnogi Aelodau Cynulliad i weithio a chymryd rhan mewn trafodion yn eu dewis iaith. Eleni, cafwyd canlyniadau arbennig o dda yn yr arolwg o Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth o ran y gallu i weithio yn eu dewis iaith, ond dydyn ni ddim yn mynd i fod yn gorffwys ar ein rhwyfau, ac mi fyddwn ni'n parhau i wrando ar adborth gan Aelodau a’u staff cymorth er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchel yma.
Yn anffodus, ni chafwyd gwelliant o ran nifer y dogfennau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno yn uniaith, sy’n golygu ei bod yn anodd i Aelodau baratoi ar gyfer trafodion yn eu dewis iaith. Fodd bynnag, rydym ni'n parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i chwilio am gyfleoedd i wella eu darpariaeth. Rydym ni'n croesawu’r ymrwymiad a roddwyd gan Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol, yr wythnos diwethaf, yn ystod sesiwn craffu’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, sef ymrwymiad i gynyddu nifer y dogfennau a osodir yn ddwyieithog, ac mi fyddai’n braf iawn gallu dod yn ôl yma'r flwyddyn nesaf i adrodd cynnydd ar y mater yna.
Thema pump yw’r un mwyaf eang o ran targedau, ac er eu bod yn rhai gweddol syml, gyda’i gilydd, mi fyddan nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr i ddiwylliant ac ethos ein sefydliad. Dyma’r targedau fydd yn ein galluogi ni i wneud y newidiadau fydd yn sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y nod o gael ein hadnabod fel sefydliad blaengar a rhagweithiol wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
O ran y safonau gwasanaeth, fe gofiwch i ni gynnwys nifer o ystadegau ar elfennau o’r gwasanaethau a ddarparwn y llynedd, ac eleni rydym ni wedi ychwanegu at y tablau hynny er mwyn caniatáu cymhariaeth rhwng blynyddoedd. Yn ystod y ddadl llynedd, gofynnodd Aelodau am fanylion ynghylch union nifer a natur y cwynion a dderbyniwyd. Mae’n galonogol nodi mai nifer bach o gwynion gafodd eu derbyn a’n bod wedi llwyddo i fynd i’r afael â’r rhan fwyaf ohonyn nhw'n anffurfiol heb yr angen am ymchwiliad ffurfiol. Fodd bynnag, mi fyddwn i'n hoffi eich sicrhau chi y byddwn ni'n defnyddio unrhyw adborth i ddysgu ac i wella ein gwasanaethau. Mae adborth positif hefyd yn bwysig, ac mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o ddyfyniadau gan unigolion, unwaith eto sy’n ein cynorthwyo i ddysgu a rhannu arferion llwyddiannus ar draws y sefydliad. Dwi'n edrych ymlaen at glywed eich ymateb i'r adroddiad.
Gaf i ddiolch i chi, Siân, hefyd, ac i aelodau'r tîm ieithoedd swyddogol, am yr adroddiad hwn? Unwaith eto, mae'n adlewyrchu sefydliad lle mae mwy o bobl yn teimlo'n gyfforddus yn gweithio ac yn cael eu cynnwys mewn amgylchedd dwyieithog. Ond dyma'r tro cyntaf i mi deimlo ei fod wedi cydio ar safbwynt ein dysgwyr.
Ydy, mae'r cynllun bob amser wedi bod yn glir ynglŷn â’r addysgu wedi’i deilwra sydd ar gael i Aelodau a'u staff ac i staff y Comisiwn, ac mae llawer ohonom wrth ein bodd o fod yn ddigon ffodus o gael y gwasanaeth hwnnw. Ond, os ydych chi'n ddysgwr iaith eich gwlad eich hun, rydych mewn sefyllfa unigryw sydd ddim yn amlwg mewn sgyrsiau am bolisi, boed hynny am ddysgwyr sy'n oedolion neu hawliau'r Gymraeg, efallai achos dyw dysgwyr ddim weithiau wedi llunio’r polisi.
Er bod yn deg, mae llinynnau gwddf dysgwyr wedi bod yn ddatblygiad cynnar. Pan oeddwn i'n gwisgo fy llinyn gwddf 'iaith gwaith', ni fyddai’r dysgwyr yn siarad â fi, ond pan wisgais i fy llinyn 'dysgwr', fyddant yn fodlon siarad, ac roeddwn i, efallai, hefyd yn llai brawychus.
Felly, rwy'n croesawu'n fawr y ffordd newydd o bennu lefelau sgiliau iaith wrth ddiffinio anghenion swyddi. Gwnes i gynhyrfu nifer o bobl pan geisiais godi hyn mewn dadl ychydig wythnosau'n ôl, yna yng nghyd-destun safonau, ond mae'r egwyddor yr un fath. Ond, yma, mae ein Comisiwn ni ein hunain yn cyfaddef y bydd pobl yn dewis peidio â gwneud cais am swyddi a hysbysebwyd gyda gofyniad iaith ‘Cymraeg yn hanfodol’, pan nad yw dealltwriaeth gyffredinol y gair ‘hanfodol’ yn adlewyrchu'n gywir yr hyn sy'n angenrheidiol. Mae'r un risg yn berthnasol i gyrff sy'n ddarostyngedig i safonau, ond y pwynt yw, yn y lle hwn, yn fan hyn, mae'r Comisiwn wedi cyflwyno dull recriwtio llawer mwy nuanced, mwy cywir a thecach, gan chwilio am lefel o sgiliau sydd ei hangen yn wirioneddol o'r diwrnod cyntaf, ond sy'n creu lle i wella a datblygu'r sgiliau hynny yn y fan a'r lle, gan wneud y gweithle yn lle i dyfu dinasyddion yn gynyddol ddwyieithog a dinasyddion sy’n gynyddol hyderus yn eu dwy iaith.
Mae gyda fi enghraifft o gyfarwyddwr cyfathrebu newydd yn yr adroddiad. Roedd sôn am ofyniad—lefel 3 y’i nodwyd fel y lefel angenrheidiol lleiaf. Gan weithio fan hyn, yn y rôl honno, wedi'i hamgylchynu gan fwy o siaradwyr rhugl, ni fyddai'n hir cyn i ymgeisydd lefel 3 feithrin ei sgiliau i lefel 4 neu lefel 5. Ac rwy’n gwybod bod rhywun wedi cael ei benodi erbyn hyn. Ond pe bai hynny wedi'i hysbysebu fel ‘Cymraeg yn hanfodol’, efallai na fyddai siaradwr lefel 3 wedi gwneud cais, ac efallai na fyddai wedi gwella ei sgiliau iaith. Felly, dwi’n gwerthfawrogi’r ffordd hon ymlaen.
Gyda llaw, fel y gwyddom ni i gyd, mae menywod yn llai tebygol na dynion o wneud cais am swydd lle nad ydynt yn cyflawni'r holl feini prawf. Felly mae'n bosibl y bydd y dull matrics hwn yn cael gwared ar ragfarn anymwybodol rhyw yn ogystal â rhagfarn anymwybodol yn erbyn y rhai sydd ddim yn hyderus yn eu sgiliau cwbl briodol.
Roeddwn yn falch iawn o weld eich bod eisoes wedi rhannu'r dull hwn â'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, undebau a rhai cyrff cyhoeddus fel cyngor Abertawe. Gaf i argymell eich bod yn mynd at y ddau gyngor arall yn fy rhanbarth hefyd, lle mae dal dipyn o broblem gyda diwylliant a chamddealltwriaeth tuag at y Gymraeg?
Ar ben arall y sbectrwm iaith yma, mae cyflwyno gofyniad i'r holl staff gyrraedd lefel cwrteisi Cymraeg wedi cael effaith amlwg iawn. Bron pob dydd, byddaf yn cael o leiaf ‘bore da’ wrth y gât, ac nid yw'r rhan fwyaf o staff yn swil am roi cynnig ar eu sgiliau newydd pan allant. Ac roedd rhai, fel un o’r staff nos yr wythnos diwethaf, yn benderfynol o ddangos faint mae eisoes wedi symud ymlaen o ‘bore da’ i siarad yn fwy rhugl yn ei faes ei hun. Mae hwn yn syniad da arall i gyrff cyhoeddus ei ystyried.
Yn amlwg, mae gennym yr adnoddau i wneud hyn i gyd. Ni allwn gymryd y bydd mor syml i rai eraill. Ond, i'n copïo ni, efallai dyw e ddim yn costio lot. Wrth gwrs, mae gennym ni’r adnoddau i ddarparu profiad cwbl ddwyieithog i staff, ymwelwyr ac unrhyw un sy'n ymgysylltu â'r Cynulliad hwn.
Jest un peth arall, os caf i, Llywydd. Ar wahân i'r broblem barhaus gyda rhai dogfennau heb eu gosod yn ddwyieithog—mae’n ymddangos i mi nad yw'r rhesymau wedi newid o gwbl—. Wel, hoffwn i—dwi ddim eisiau anghofio’r ffaith bod gwaith da yn cael ei wneud fan hyn hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd y cyfraniad hwn heddiw jest yn bwniad bach, efallai, i'r ystadegau o ran defnyddio'r Gymraeg yn y Siambr ac yn annog eraill i roi cynnig arni. Diolch.
Fel rhywun y mae ei ddiffyg Cymraeg yn ganlyniad uniongyrchol i gyfyngu ar yr iaith ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf—cafodd fy mam y gansen yn yr ysgol am siarad Cymraeg yn yr ysgol—rwy'n llwyr gefnogi unrhyw symudiadau i gynyddu'r defnydd o'r iaith. A ble'n well i hyrwyddo ei defnydd nag yn y sefydliad hwn? O'r herwydd rwy'n croesawu'r holl gamau a gymerwyd gan y Comisiwn yn y materion hyn. Diolch yn fawr.
Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Efallai y gwnaf i gychwyn trwy ymateb i'r sylw diwethaf yna a'r ffaith eich bod chi wedi dweud, David Rowlands, gerbron y Cynulliad heddiw bod eich mam, yn wir, wedi dioddef yn sgil y materion hanesyddol oedd yn digwydd yn ein hysgolion ni ers talwm, pan oedd pobl yn cael eu cosbi yn gorfforol am siarad Cymraeg. Dwi dal yn flin iawn, iawn am hynny, ond mae rhywun yn troi'r dicter tuag at fod yn adeiladol, ac felly dwi'n falch iawn o'r gwaith blaengar sydd yn digwydd yn y maes yma.
Dwi'n diolch i Suzy am ei sylwadau hollol adeiladol a phositif yn cymeradwyo'r gwaith sydd yn digwydd o ran cynllunio ieithyddol yn y gweithle yma. Mae yna bobl o Norwy, mae yna bobl o'r Ffindir wedi bod yn dod yma i Gymru i weld y gwaith blaengar ynglŷn â chynllunio ieithyddol sydd wedi bod yn digwydd ac yn awyddus i ddysgu o'n profiadau ni a'n harferion ni efo ieithoedd lleiafrifol yn eu gwledydd nhw.
Dwi'n falch eich bod chi'n cytuno bod cael gwared ar y 'Cymraeg yn hanfodol' wedi bod yn gam cadarnhaol, ac rydym ni'n gwybod o brofiad, nid yn unig yn y Cynulliad, ond mewn meysydd eraill, mi oedd pobl yn arfer dewis peidio â gwneud cais am swyddi oherwydd eu bod nhw'n ofni'r 'Cymraeg yn hanfodol'. Ond ers cyflwyno disgrifiadau ar wahanol lefelau, rydym ni wedi gweld yr hysbysebion yn cael eu datblygu o amgylch anghenion y swyddi, ac yn wir rydym ni wedi gweld cynnydd yn y nifer o ddysgwyr Cymraeg sy'n cael eu penodi i swyddi, sy'n dangos y gwerth o fuddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau iaith ar gyfer yr unigolion a'r sefydliad.
O ran Cymraeg cwrteisi, mae'n wych gweld hwn ar waith. Wnaf i fyth anghofio yn yr Eisteddfod Genedlaethol gweld y swyddogion diogelwch wrth eu boddau yn defnyddio Cymraeg sylfaenol: 'Bore da', 'Prynhawn da'. Un peth sy'n cael ei ddefnyddio yn aml erbyn hyn ydy 'Popeth mewn trefn'. Dwi'n cael hwnna rŵan pan dwi'n—. Mae'n ardderchog gweld Cymraeg cwrteisi yn digwydd. Dwi'n gweld fy mod i allan o amser, ond rwy'n falch iawn o gymeradwyo, felly, yr adroddiad yma, ac mi fydd y gwaith yn parhau. Mae'n bell o fod yn berffaith, ond mi fyddwn ni'n parhau ac yn cynnal y momentwm.
Os caf i jest ddweud un gair byr cyn cloi, buaswn i ddim yn licio gorffen heddiw heb enwi un swyddog yn benodol. Dydyn ni ddim yn arfer gwneud hyn, dwi'n gwybod, ond hoffwn i roi teyrnged i Craig Stephenson, y cyfarwyddwr ymgysylltu sydd yn ymddeol. Dros y blynyddoedd, mae o wedi bod yn bencampwr diflino ac yn eiriolwr brwd dros bob agwedd ar y cynllun ieithoedd swyddogol, gan sicrhau bod darparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf yn rhan greiddiol o holl waith Comisiwn y Cynulliad. Felly, diolch yn fawr iawn i Craig a phob lwc i’r dyfodol.
Ie wir. Y cynnig, felly, yw i nodi'r adroddiad. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.