Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Yn ogystal â gwaith craffu ein pwyllgorau ni ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 eleni, roedd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn credu ei bod hi'n bryd cyfuno ein hymdrechion i ymchwilio i effaith penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb ac ar blant a phobl ifanc. Fe aethom ni ati, felly, i gasglu tystiolaeth ar y cyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan Gomisiynydd Plant Cymru, gan Mark Drakeford, yr Aelod Cynulliad a oedd, wrth gwrs, ar y pryd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r Aelod Cynulliad Julie James, wrth gwrs, fel arweinydd y tŷ ar y pryd, a oedd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb. Rŷm ni hefyd wedi ceisio barn comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol drwy gydol y broses yma.
Gan mai dadl ar y cyd yw hon, mi fydd fy nghyfraniad i'n canolbwyntio ar ein prif ganfyddiadau, gan ganiatáu wedyn i'r Cadeiryddion Lynne Neagle a John Griffiths rannu safbwyntiau portffolios eu pwyllgorau eu hunain. Mae ein hadroddiad ni yn gwneud pum argymhelliad, ac o blith pob un o'r rhain mae Llywodraeth Cymru naill ai wedi eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Rŷm ni wedi dod i un casgliad cyffredinol, sef bod angen i ni fynd yn ôl i'r egwyddorion sylfaenol. Dyna'r casgliad cyffredinol sydd gennym ni, ond, wrth gwrs, mae yna nifer o argymhellion penodol, wedyn, yn deillio o hynny.
Ein hargymhelliad cyntaf yw gofyn i Lywodraeth Cymru osod allan mewn mwy o fanylder y broses asesiad effaith integredig strategol, ei diben, a’r canlyniadau disgwyliedig, yn dilyn, wrth gwrs, iddyn nhw ymgysylltu â’r comisiynwyr statudol perthnasol a chael eu cytundeb nhw. Rŷm ni yn teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch pam maen nhw'n cynnal asesiad, pwy sy'n defnyddio'r asesiad, beth maen nhw'n gobeithio ei ddeall ohono fe, beth yw'r ffordd orau o'i gyflwyno fe, a beth yw’r broses. Nawr, mae angen gwneud hyn, wrth gwrs, gyda chymorth y gwahanol gomisiynwyr statudol, ac rŷm ni'n pryderu am y ffaith eu bod nhw'n dweud nad ydyn nhw wedi cyfrannu at ddatblygu offeryn asesiad effaith integredig Llywodraeth Cymru.
Rŷm ni'n credu y dylai'r offeryn hwn gael ei ddefnyddio i hysbysu, llywio gwaith, a dylanwadu ar newidiadau. Gyda'i gilydd, roedd y comisiynwyr yn pryderu ei bod yn ymddangos bod yr offerynnau'n cael eu defnyddio i adlewyrchu neu gyfiawnhau penderfyniadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud. Felly, rŷm ni'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i weithio gyda'r comisiynwyr statudol perthnasol i roi mwy o eglurder am ddiben proses yr asesiad effaith integredig strategol a’r canlyniadau a ddisgwylir ohoni. Wrth gwrs, rŷm ni'n cydnabod nad yw cyfuno llawer o wahanol asesiadau effaith yn dasg hawdd, ac yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i dynnu llawer o wybodaeth i un asesiad effaith integredig strategol. Fodd bynnag, er mwyn bod yn sylfaen gredadwy ar gyfer gwaith craffu, mae angen i asesiadau effaith ddangos yn glir pa dystiolaeth y maen nhw'n ei defnyddio, a rhaid i ni sicrhau nad yw'n cael ei gwanhau o ganlyniad i'r integreiddio yma.
Mae asesiadau effaith yn ddull hanfodol ar gyfer sicrhau bod y Llywodraeth yn dryloyw, ac os ydyn nhw am fod yn werthfawr o gwbl, mae'n rhaid iddyn nhw lywio, mewn modd ystyrlon, y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu. Mae angen mwy o fanylion ynglŷn â sut y caiff penderfyniadau eu gwneud, ac rŷm ni wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i roi manylion lle gall penderfyniadau gwario gael effeithiau negyddol, yn ogystal, wrth gwrs, â rhai cadarnhaol, sef y rhai rŷm ni fel arfer yn eu clywed. Fel y mae pethau, nid yw'n glir pa ffactorau sydd wedi llywio penderfyniadau heb weld y gwaith y tu ôl i'r asesiad effaith integredig strategol. O ganlyniad, rŷm ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei holl asesiadau effaith unigol mewn un man canolog, a bod yr asesiad effaith integredig strategol wedyn yn gallu cyfeirio at y rheini. Yn ei hymateb, mae'r Gweinidog yn dweud,
'Fel arfer, caiff asesiadau effaith unigol o benderfyniadau pwysig eu cyhoeddi fel rhan o ddogfennaeth y polisi ar wefan Llywodraeth Cymru.'
Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod yr asesiadau effaith hynny'n cael eu cyhoeddi'n systematig o gwbl. Mae'r Gweinidog wedi cytuno â'r argymhelliad hwn mewn egwyddor, gan nodi bod angen iddi ystyried ymhellach a fyddai cyhoeddi mewn un man canolog yn helpu o ran hygyrchedd, dealltwriaeth a thryloywder. Rŷm ni'n cydnabod yn llawn y gwerth o gyhoeddi asesiadau effaith ochr yn ochr â'r dogfennau polisi cysylltiedig. Wrth gwrs, mae'r un peth yn wir am gyhoeddi asesiadau effaith unigol ochr yn ochr â'r asesiad effaith integredig strategol. Yn ystod ein gwaith craffu ar y cyd, mi ddaeth yn amlwg bod rhanddeiliaid arbenigol yn aneglur am yr egwyddorion a'r prosesau sylfaenol y tu ôl i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal yr asesiad effaith ar y gyllideb, a'r gwahaniaeth rhwng yr asesiad effaith integredig strategol a'r offeryn asesiad effaith integredig newydd.
Mae ein trydydd argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud darn penodol o waith i ystyried y cynnydd sydd wedi cael ei wneud mewn perthynas ag asesiadau effaith integredig strategol ar ddiwedd y Cynulliad hwn, gan gynnwys yr offeryn asesiad effaith integredig y mae wedi'i ddatblygu. Mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, gan gydnabod yr angen i adolygu a gwella'r broses a'r offeryn. Mae ei hymateb yn cyfeirio at brofi dulliau amgen ochr yn ochr â pharatoadau ar gyfer y gyllideb sydd i ddod, ac ystyried a fyddai modd i ddiogelwr taith—os mae dyna yw'r cyfieithiad am journey checker—Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gefnogi y gwaith hwn. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog ddarparu mwy o wybodaeth inni am y dulliau amgen sy'n cael eu profi, a'r amserlenni sydd o dan sylw, yn ogystal, efallai, â nodi pryd y mae hi'n rhagweld cwblhau adolygiad 2019 o'r offeryn asesiad effaith integredig.
Mae'r argymhellion sy'n weddill yn ymwneud ag integreiddio deddfwriaeth ac ofnau y bydd dyletswyddau penodol yn cael eu lleihau neu eu dadleoli gan eraill wrth wneud penderfyniadau. Mae ein pedwerydd argymhelliad ni yn ceisio ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel fframwaith ar gyfer yr asesiad effaith integredig strategol. O ystyried ffocws ein gwaith craffu ni ar y cyd, rŷm ni'n credu y dylid rhoi blaenoriaeth i weithio gyda'r comisiynydd plant a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod y gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau plant yn cael eu hadlewyrchu'n llawn ac yn effeithiol yn y broses asesu.
Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i barhau i ddefnyddio'r Ddeddf i fframio a llywio cynigion cyllidebol a'r offeryn asesiad effaith integredig, ond mae'n cydnabod bod angen gwneud gwaith pellach. Yn wir, nid yw Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn credu bod hyn wedi digwydd i lefel ddigonol yn y broses gyllidebol hyd yn hyn. Rŷm ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau â deialog â rhanddeiliaid allweddol a chomisiynwyr statudol, a fydd yn hanfodol i sicrhau nad yw'r dull integredig yn gwanhau'r gwaith o fodloni'r amrywiol rwymedigaethau cyfreithiol sydd arni, a bod y penderfyniadau y mae'n eu gwneud yn fwy tryloyw.
Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, mi ddywedodd arweinydd y tŷ ar y pryd ei bod wedi comisiynu darn o waith ymchwil yn ymchwilio i'r ffordd orau o ymgorffori amrywiol gytuniadau rhyngwladol—international treaties—a dyletswydd economaidd-gymdeithasol y Ddeddf gydraddoldeb yng nghyfraith Cymru, ochr yn ochr â'r dyletswyddau presennol. Fe wnaeth hi egluro hefyd y byddai cyfarfod o bwyllgor cynghori comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ym mis Tachwedd y llynedd yn caniatáu i'r holl gomisiynwyr fynd ati ar y cyd i drafod cyfleoedd a heriau'r asesiadau effaith integredig. Felly, roedd ein hargymhelliad terfynol yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau cyfarfod y comisiynwyr ym mis Tachwedd y llynedd, a pha bryd y rhagwelir y bydd y gwaith ymchwil a gafodd ei gomisiynu ar integreiddio dyletswyddau yn cael ei gyhoeddi.
Rŷm ni'n pryderu, ond heb synnu, o nodi bod rhai aelodau wedi lleisio pryderon yn ystod y cyfarfod fis Tachwedd diwethaf ynghylch y posibilrwydd o wanhau'r dull integredig. Yn dilyn hynny, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru i fod i fynd i gyfarfod panel cynghori comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ym mis Gorffennaf, ac rŷm ni'n awyddus i wybod sut aeth y cyfarfod hwnnw. Rŷm ni'n deall y bydd y Gweinidog yn dechrau'r gwaith ymchwil sylweddol pellach yma erbyn mis Medi ar integreiddio dyletswyddau newydd, ac rŷm ni'n edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am sut y mae'r gwaith hwn yn datblygu ac yn dod yn ei flaen. Dwi hefyd, fel Cadeirydd, yn edrych ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau i'r ddadl yma, fel cyfraniad adeiladol i'r gwaith parhaus a'r drafodaeth barhaus bwysig hon ar asesu effaith penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru. Diolch.