8. Dadl ar yr adroddiad ar y cyd rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Cyllid: Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol

– Senedd Cymru am 4:19 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:19, 17 Gorffennaf 2019

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar yr adroddiad ar y cyd rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Cyllid, a'r adroddiad hwnnw ar asesu effaith penderfyniadau cyllidebol. Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid sy'n gwneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM7119 Llyr Gruffydd, Lynne Neagle, John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad ar y cyd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, sef 'Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:19, 17 Gorffennaf 2019

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n gwneud y cynnig yma, sy'n cael ei gyflwyno ar y cyd, wrth gwrs, gen i, Lynne Neagle a John Griffiths. Dwi'n falch iawn o fod yn agor y ddadl heddiw ar ffordd drawsbynciol newydd o wynebu her rŷn ni wedi'i hwynebu droeon fel Aelodau'r Cynulliad, sef, wrth gwrs, asesu effaith penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru ar bobl Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:20, 17 Gorffennaf 2019

Yn ogystal â gwaith craffu ein pwyllgorau ni ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 eleni, roedd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn credu ei bod hi'n bryd cyfuno ein hymdrechion i ymchwilio i effaith penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb ac ar blant a phobl ifanc. Fe aethom ni ati, felly, i gasglu tystiolaeth ar y cyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan Gomisiynydd Plant Cymru, gan Mark Drakeford, yr Aelod Cynulliad a oedd, wrth gwrs, ar y pryd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r Aelod Cynulliad Julie James, wrth gwrs, fel arweinydd y tŷ ar y pryd, a oedd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb. Rŷm ni hefyd wedi ceisio barn comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol drwy gydol y broses yma.

Gan mai dadl ar y cyd yw hon, mi fydd fy nghyfraniad i'n canolbwyntio ar ein prif ganfyddiadau, gan ganiatáu wedyn i'r Cadeiryddion Lynne Neagle a John Griffiths rannu safbwyntiau portffolios eu pwyllgorau eu hunain. Mae ein hadroddiad ni yn gwneud pum argymhelliad, ac o blith pob un o'r rhain mae Llywodraeth Cymru naill ai wedi eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Rŷm ni wedi dod i un casgliad cyffredinol, sef bod angen i ni fynd yn ôl i'r egwyddorion sylfaenol. Dyna'r casgliad cyffredinol sydd gennym ni, ond, wrth gwrs, mae yna nifer o argymhellion penodol, wedyn, yn deillio o hynny.

Ein hargymhelliad cyntaf yw gofyn i Lywodraeth Cymru osod allan mewn mwy o fanylder y broses asesiad effaith integredig strategol, ei diben, a’r canlyniadau disgwyliedig, yn dilyn, wrth gwrs, iddyn nhw ymgysylltu â’r comisiynwyr statudol perthnasol a chael eu cytundeb nhw. Rŷm ni yn teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch pam maen nhw'n cynnal asesiad, pwy sy'n defnyddio'r asesiad, beth maen nhw'n gobeithio ei ddeall ohono fe, beth yw'r ffordd orau o'i gyflwyno fe, a beth yw’r broses. Nawr, mae angen gwneud hyn, wrth gwrs, gyda chymorth y gwahanol gomisiynwyr statudol, ac rŷm ni'n pryderu am y ffaith eu bod nhw'n dweud nad ydyn nhw wedi cyfrannu at ddatblygu offeryn asesiad effaith integredig Llywodraeth Cymru.

Rŷm ni'n credu y dylai'r offeryn hwn gael ei ddefnyddio i hysbysu, llywio gwaith, a dylanwadu ar newidiadau. Gyda'i gilydd, roedd y comisiynwyr yn pryderu ei bod yn ymddangos bod yr offerynnau'n cael eu defnyddio i adlewyrchu neu gyfiawnhau penderfyniadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud. Felly, rŷm ni'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i weithio gyda'r comisiynwyr statudol perthnasol i roi mwy o eglurder am ddiben proses yr asesiad effaith integredig strategol a’r canlyniadau a ddisgwylir ohoni. Wrth gwrs, rŷm ni'n cydnabod nad yw cyfuno llawer o wahanol asesiadau effaith yn dasg hawdd, ac yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i dynnu llawer o wybodaeth i un asesiad effaith integredig strategol. Fodd bynnag, er mwyn bod yn sylfaen gredadwy ar gyfer gwaith craffu, mae angen i asesiadau effaith ddangos yn glir pa dystiolaeth y maen nhw'n ei defnyddio, a rhaid i ni sicrhau nad yw'n cael ei gwanhau o ganlyniad i'r integreiddio yma.

Mae asesiadau effaith yn ddull hanfodol ar gyfer sicrhau bod y Llywodraeth yn dryloyw, ac os ydyn nhw am fod yn werthfawr o gwbl, mae'n rhaid iddyn nhw lywio, mewn modd ystyrlon, y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu. Mae angen mwy o fanylion ynglŷn â sut y caiff penderfyniadau eu gwneud, ac rŷm ni wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i roi manylion lle gall penderfyniadau gwario gael effeithiau negyddol, yn ogystal, wrth gwrs, â rhai cadarnhaol, sef y rhai rŷm ni fel arfer yn eu clywed. Fel y mae pethau, nid yw'n glir pa ffactorau sydd wedi llywio penderfyniadau heb weld y gwaith y tu ôl i'r asesiad effaith integredig strategol. O ganlyniad, rŷm ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei holl asesiadau effaith unigol mewn un man canolog, a bod yr asesiad effaith integredig strategol wedyn yn gallu cyfeirio at y rheini. Yn ei hymateb, mae'r Gweinidog yn dweud,

'Fel arfer, caiff asesiadau effaith unigol o benderfyniadau pwysig eu cyhoeddi fel rhan o ddogfennaeth y polisi ar wefan Llywodraeth Cymru.'

Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod yr asesiadau effaith hynny'n cael eu cyhoeddi'n systematig o gwbl. Mae'r Gweinidog wedi cytuno â'r argymhelliad hwn mewn egwyddor, gan nodi bod angen iddi ystyried ymhellach a fyddai cyhoeddi mewn un man canolog yn helpu o ran hygyrchedd, dealltwriaeth a thryloywder. Rŷm ni'n cydnabod yn llawn y gwerth o gyhoeddi asesiadau effaith ochr yn ochr â'r dogfennau polisi cysylltiedig. Wrth gwrs, mae'r un peth yn wir am gyhoeddi asesiadau effaith unigol ochr yn ochr â'r asesiad effaith integredig strategol. Yn ystod ein gwaith craffu ar y cyd, mi ddaeth yn amlwg bod rhanddeiliaid arbenigol yn aneglur am yr egwyddorion a'r prosesau sylfaenol y tu ôl i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal yr asesiad effaith ar y gyllideb, a'r gwahaniaeth rhwng yr asesiad effaith integredig strategol a'r offeryn asesiad effaith integredig newydd.

Mae ein trydydd argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud darn penodol o waith i ystyried y cynnydd sydd wedi cael ei wneud mewn perthynas ag asesiadau effaith integredig strategol ar ddiwedd y Cynulliad hwn, gan gynnwys yr offeryn asesiad effaith integredig y mae wedi'i ddatblygu. Mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, gan gydnabod yr angen i adolygu a gwella'r broses a'r offeryn. Mae ei hymateb yn cyfeirio at brofi dulliau amgen ochr yn ochr â pharatoadau ar gyfer y gyllideb sydd i ddod, ac ystyried a fyddai modd i ddiogelwr taith—os mae dyna yw'r cyfieithiad am journey checker—Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gefnogi y gwaith hwn. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog ddarparu mwy o wybodaeth inni am y dulliau amgen sy'n cael eu profi, a'r amserlenni sydd o dan sylw, yn ogystal, efallai, â nodi pryd y mae hi'n rhagweld cwblhau adolygiad 2019 o'r offeryn asesiad effaith integredig.

Mae'r argymhellion sy'n weddill yn ymwneud ag integreiddio deddfwriaeth ac ofnau y bydd dyletswyddau penodol yn cael eu lleihau neu eu dadleoli gan eraill wrth wneud penderfyniadau. Mae ein pedwerydd argymhelliad ni yn ceisio ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel fframwaith ar gyfer yr asesiad effaith integredig strategol. O ystyried ffocws ein gwaith craffu ni ar y cyd, rŷm ni'n credu y dylid rhoi blaenoriaeth i weithio gyda'r comisiynydd plant a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod y gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau plant yn cael eu hadlewyrchu'n llawn ac yn effeithiol yn y broses asesu.

Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i barhau i ddefnyddio'r Ddeddf i fframio a llywio cynigion cyllidebol a'r offeryn asesiad effaith integredig, ond mae'n cydnabod bod angen gwneud gwaith pellach. Yn wir, nid yw Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn credu bod hyn wedi digwydd i lefel ddigonol yn y broses gyllidebol hyd yn hyn. Rŷm ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau â deialog â rhanddeiliaid allweddol a chomisiynwyr statudol, a fydd yn hanfodol i sicrhau nad yw'r dull integredig yn gwanhau'r gwaith o fodloni'r amrywiol rwymedigaethau cyfreithiol sydd arni, a bod y penderfyniadau y mae'n eu gwneud yn fwy tryloyw.

Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, mi ddywedodd arweinydd y tŷ ar y pryd ei bod wedi comisiynu darn o waith ymchwil yn ymchwilio i'r ffordd orau o ymgorffori amrywiol gytuniadau rhyngwladol—international treaties—a dyletswydd economaidd-gymdeithasol y Ddeddf gydraddoldeb yng nghyfraith Cymru, ochr yn ochr â'r dyletswyddau presennol. Fe wnaeth hi egluro hefyd y byddai cyfarfod o bwyllgor cynghori comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ym mis Tachwedd y llynedd yn caniatáu i'r holl gomisiynwyr fynd ati ar y cyd i drafod cyfleoedd a heriau'r asesiadau effaith integredig. Felly, roedd ein hargymhelliad terfynol yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau cyfarfod y comisiynwyr ym mis Tachwedd y llynedd, a pha bryd y rhagwelir y bydd y gwaith ymchwil a gafodd ei gomisiynu ar integreiddio dyletswyddau yn cael ei gyhoeddi.

Rŷm ni'n pryderu, ond heb synnu, o nodi bod rhai aelodau wedi lleisio pryderon yn ystod y cyfarfod fis Tachwedd diwethaf ynghylch y posibilrwydd o wanhau'r dull integredig. Yn dilyn hynny, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru i fod i fynd i gyfarfod panel cynghori comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ym mis Gorffennaf, ac rŷm ni'n awyddus i wybod sut aeth y cyfarfod hwnnw. Rŷm ni'n deall y bydd y Gweinidog yn dechrau'r gwaith ymchwil sylweddol pellach yma erbyn mis Medi ar integreiddio dyletswyddau newydd, ac rŷm ni'n edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am sut y mae'r gwaith hwn yn datblygu ac yn dod yn ei flaen. Dwi hefyd, fel Cadeirydd, yn edrych ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau i'r ddadl yma, fel cyfraniad adeiladol i'r gwaith parhaus a'r drafodaeth barhaus bwysig hon ar asesu effaith penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:29, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn adroddiadau diweddar ein pwyllgor ar y gyllideb, rydym wedi amlygu ein pryderon ynghylch lefel y sylw a roddir i hawliau plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau ariannol pwysig. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad o'r effaith ar hawliau plant ar ei chyllideb ddrafft fel mater o drefn. Hyd yma, gwrthodwyd y galwadau hyn ar y sail y cynhelir asesiad effaith integredig ehangach o'r gyllideb ddrafft.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pob un o'n pwyllgorau wedi gwneud sylwadau ar yr angen i wella'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith ei phenderfyniadau cyllidebol ar wahanol grwpiau poblogaeth. Fel y cyfryw, ac fel y mae Llyr eisoes wedi egluro, roeddem am gydweithio fel tri phwyllgor i hoelio sylw ar y thema hon sy'n codi ei phen yn rheolaidd.

Cydnabyddwn nad yw asesu effaith penderfyniadau cyllidebol ar ein poblogaeth yn hawdd, ond credwn hefyd ei bod yn hanfodol gwneud popeth a allwn i ystyried sut y mae'r penderfyniadau a wnawn am arian yn trosi i brofiadau bywyd go iawn y bobl y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli, ac nid yw aelodau ieuengaf ein cymdeithas yn eithriadau.

Plant a phobl ifanc oedd fy ffocws yn ystod y gwaith craffu ar y cyd, a dyna fydd fy ffocws heddiw. Rwy'n cydnabod bod anghenion plant yn sefyll ochr yn ochr â nifer o ystyriaethau eraill wrth wneud penderfyniadau am y gyllideb. Ond yn fy marn i, mae dau beth yn eu gwneud yn unigryw o ran eu hangen am sylw. Yn gyntaf oll, ni all aelodau ieuengaf ein cymdeithas bleidleisio. Yn niffyg yr etholfraint, ein lle ni yw sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u buddiannau'n cael eu hystyried. Yn ail, cymerodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 y cam arloesol o ymgorffori dyletswydd mewn statud ar Weinidogion Cymru i ystyried hawliau plant ym mhopeth a wnânt. Ond nid yw deddf ond yn torri tir newydd os yw ei dyheadau'n cael eu gwireddu. Yn achos cyllidebau drafft, credwn fod cryn bellter i'w deithio o hyd cyn y gallwn fod yn hyderus fod y penderfyniadau a wneir yn gwbl gydnaws ag ysbryd y ddeddf honno.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pedwar o'n pump argymhelliad, ynghyd ag un mewn egwyddor. Ymhellach, rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth o dan argymhelliad 1 i weithio gyda'r comisiynwyr statudol perthnasol i roi mwy o eglurder ynglŷn â phwrpas a chanlyniadau disgwyliedig y broses asesu effaith integredig strategol. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r comisiynwyr am eu cyfraniad i'n proses graffu ar y cyd, a'r safbwyntiau y maent wedi'u rhannu ar gyfer llywio'r ddadl hon. Serch hynny, mae nifer o bryderon yr hoffwn eu codi mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yn benodol. Rwy'n rhannu llawer o'r rhain gyda'r comisiynydd plant.

Mewn ymateb i argymhelliad 2, mae'r Llywodraeth wedi awgrymu y byddai cyhoeddi asesiadau effaith unigol mewn lleoliad canolog yn peri dryswch. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynglŷn â hyn. Fel cyd-bwyllgorau, cytunasom fod tryloywder yn allweddol. Hyd yma, ni chafodd asesiadau effaith unigol eu cyhoeddi'n systematig. Mae penderfyniad y llynedd ynglŷn â'r grant gwisg ysgol yn enghraifft, ac yn un yr ydym yn tynnu sylw ati yn ein hadroddiad ar y gyllideb. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi ystyriaeth bellach i hyn.

O ran argymhellion 3 a 4, fel pwyllgor, rydym yn pryderu bod ansawdd yr asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn parhau i amrywio. Rydym yn glynu wrth ein haeriad ei bod yn ymddangos weithiau fod asesiadau effaith yn cael eu defnyddio i adlewyrchu neu gyfiawnhau penderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud. Buaswn yn arbennig o awyddus i glywed barn y Gweinidog am sylw'r comisiynydd plant—ac rwy'n dyfynnu—

Rydym wedi gweld enghreifftiau o asesiadau o'r effaith ar hawliau plant nad ydynt mewn gwirionedd yn ceisio ateb y cwestiwn cyffredinol ynghylch a fydd y polisi'n effeithio ar blant a phobl ifanc, a/neu sut y bydd yn gwneud hynny, heb sôn am roi cynnig ar broses lawnach.

Yn olaf, o ran argymhelliad 5, er fy mod yn croesawu'r ymrwymiad i gomisiynu ymchwil ar integreiddio dyletswyddau, sylwaf gyda phryder nad yw'r gwaith hwn wedi dechrau eto. Anogaf y Llywodraeth i fwrw ymlaen â hyn cyn gynted â phosibl.

Wrth gloi, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Gadeiryddion ac aelodau'r pwyllgorau am eu parodrwydd i weithio ar y cyd ar hyn. Dyma'r tro cyntaf i ni weithio gyda'n gilydd ar y gyllideb ddrafft, a chredaf ei fod yn darparu model defnyddiol ac arloesol ar gyfer craffu ar feysydd o ddiddordeb cyffredin ar draws y pwyllgorau yn y dyfodol.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei hymwneud â'r gwaith hwn. Ein nod cyffredinol fel pwyllgorau yw cynnig cyfraniad adeiladol a defnyddiol mewn maes yr ydym yn cydnabod ei fod yn gymhleth ac yn heriol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy, a chyda'r comisiynwyr statudol perthnasol, i barhau â'n gwaith trawsbynciol yn y maes hwn yn y blynyddoedd ariannol sydd i ddod. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:34, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:35, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy adleisio'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y dull newydd hwn o graffu ar y gyllideb, a'i fod yn fodel, efallai, ar gyfer gwaith yn y dyfodol, ac rwy'n synhwyro fy mod yn siŵr y bydd pwyllgorau eraill am fwrw golwg gofalus arno. Rwy'n credu ei bod yn adeiladol iawn i dri phwyllgor gydag arbenigeddau gwahanol a diddordebau gwahanol ddod at ei gilydd i ystyried yr agwedd bwysig hon ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn llunio ei chyllideb, ac yn ceisio sicrhau bod pobl sy'n ddiamddiffyn yn ein cymuned yn cael eu diogelu yn y broses o bennu'r gyllideb, ac mae'r holl faterion cydraddoldeb hynny'n cael eu hystyried mewn ffordd ystyrlon sy'n helpu i gynhyrchu'r gyllideb derfynol mewn gwirionedd.  

Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i'r rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru am gymryd rhan yn y gwaith hwn, oherwydd rwy'n credu bod hynny wedi bod yn adeiladol a blaengar iawn hefyd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n amlwg fod pawb eisiau gweld y broses gyllidebol yn cael ei gwneud yn fwy tryloyw ac yn fwy effeithiol, ac mae hwnnw'n fan cychwyn da iawn ar gyfer y drafodaeth hon a'r ddadl hon wrth i ni symud ymlaen. Yn wir, mae ein pwyllgor, a'r pwyllgor blaenorol yn wir, wedi bod yn amheus ers amser ynglŷn ag effeithiolrwydd proses y gyllideb, a'r broses asesu effaith yn benodol. Rhaid i'r asesiadau effaith hynny lywio'r broses benderfynu. Fel y credaf y mae Lynne newydd ei ddweud, ni ddylai fod yn fater o gyfiawnhau penderfyniadau a wnaed, ond yn hytrach, o lywio penderfyniadau sydd eto i'w gwneud, a defnyddio'r asesiadau hyn yng nghamau cynharach y broses, os yw'r broses i fod yn ystyrlon a bod yr holl randdeiliaid sydd â diddordeb i gredu ei bod yn ystyrlon. Ond rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried y dystiolaeth a ystyriwyd gennym ni mewn perthynas â'r asesiadau effaith integredig unigol hynny, a gobeithiaf y bydd hyn yn arwain at welliannau yn y broses, ac yn y pen draw, at welliannau i'r penderfyniadau sy'n dilyn.

Os caf symud at rai materion penodol, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar, cafodd swyddogion Llywodraeth Cymru bapur briffio wedi'i drefnu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y model asesu effaith gronnol. Ac rwy'n credu bod llawer ohonom yn pryderu am hyn, oherwydd pan edrychwn ar gyni, er enghraifft, mae'r effaith gronnol dros gyfnod o flynyddoedd yn mynd yn fwy byth, ac rydych yn cyrraedd y cam lle mae'n eithriadol o frawychus yn wir. A dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod Llywodraeth Cymru wedi dangos parodrwydd i archwilio'r model hwn ymhellach. Felly, byddai'n dda gennyf glywed gan y Gweinidog a ydych yn debygol o fwrw ymlaen â'r model hwnnw.

Un mater parhaus ar draws llawer o waith ein pwyllgor yw integreiddio deddfwriaeth, a'r gofynion gwahanol a osodir ar gyrff cyhoeddus gan wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth. Roedd hon yn thema allweddol yn ein gwaith. Clywsom am effaith haenu gwahanol ofynion, a all arwain at faterion yn disgyn drwy'r bwlch. Mae hyn cyn i ddyletswyddau newydd pellach, megis dyletswydd economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010, gael eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru.

Yn ein gwaith ar rianta, mamolaeth a gwaith, galwasom am fireinio dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y byddai'r Gweinidog yn cael cyngor ar y rheoliadau a'r trefniadau adrodd, yn enwedig y berthynas rhwng y dyletswyddau a Deddf cenedlaethau'r dyfodol.

Galwodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ddiwygio'r dyletswyddau cydraddoldeb a'u cryfhau fel eu bod yn canolbwyntio mwy ar ganlyniadau i unigolion. Nodant eu bod wedi cynnal symposiwm yn gynharach y mis hwn i helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad hwn. Felly, fel pwyllgor byddem yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau'r symposiwm a nodi'r amserlen ar gyfer adolygu'r dyletswyddau.

Fel y dywedwn yn ein hadroddiad, mae nawr yn amser da i wneud newidiadau i'r broses asesu effaith. Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhoi fframwaith polisi clir, ac yn argymhelliad 4 ein hadroddiad, galwasom ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i'w defnyddio'n sail i'w hymagwedd at asesiadau effaith. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Lywodraeth Cymru. Wrth ymateb i hyn, dywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nad oedd hyn wedi digwydd yn ddigonol hyd yn hyn ym mhroses y gyllideb. Felly, hoffwn wybod sut y bydd y Gweinidog yn ymateb i'r dadansoddiad penodol hwnnw.

Yn olaf, gwelwn yn ymateb Llywodraeth Cymru y bydd yr adolygiad o'r dull integredig o asesu effaith yn gynhwysfawr. Mae hefyd yn nodi y bydd yn cynnwys ymgysylltu â nifer o randdeiliaid allanol, gan gynnwys y comisiynwyr a grŵp cynghorol y gyllideb ar gydraddoldeb. Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wrth wneud sylwadau ar hyn y byddai ymgysylltu allanol â phobl o grwpiau gwarchodedig yn allweddol, gan awgrymu y dylai ymgysylltiad o'r fath fynd y tu hwnt i'r grŵp cynghori. Weinidog, a allwch amlinellu sut y byddwch yn ymgysylltu â rhanddeiliaid y tu allan i'r grŵp cynghori ar yr adolygiad o'r pecyn cymorth?

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:41, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

A ydych chi'n dirwyn i ben?

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Ydw yn awr. Y ddwy frawddeg olaf, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr.

Hoffwn gloi drwy ddweud nad dyma ddiwedd y gwaith hwn. Yn amlwg, byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn wrth i ni graffu ar y gyllideb ac yn wir yn ein gwaith craffu mwy cyffredinol ar bolisi. Mae asesu effaith yn ystyrlon yn hanfodol ar gyfer datblygu polisïau a phenderfyniadau cyllidebol effeithiol. Diolch yn fawr.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, bawb, am ddod â'r adroddiad hwn i lawr y Siambr. Cymerais ran yn y sesiwn graffu ar y cyd a lywiodd ran o'r broses o greu'r adroddiad hwn. Nid oes ots gennyf ddweud fy mod, yn y naw mlynedd y bûm yn Aelod Cynulliad, wedi gweld y broses o graffu ar y gyllideb yn un o'r elfennau lleiaf boddhaol o fy ngwaith fel Aelod Cynulliad. Rwy'n teimlo bod ceisio cysylltu penderfyniadau gwariant ag uchelgeisiau didarged ac yna gyda chanlyniadau—dilyn yr arian, yn y bôn—bron yn gwbl amhosibl. Rwy'n gobeithio'n fawr fod fy nghyd-Aelodau yn y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei chael ychydig yn haws. Dyna pam yr oeddwn am fod yn rhan o'r panel craffu hwn ar yr achlysur hwnnw.  

Credaf y dylem boeni bod yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi dweud yn unig 'y gellid' defnyddio asesiadau integredig ar gyfer buddsoddiadau sylweddol. Roedd hynny'n dipyn o syndod i mi. Buaswn yn disgwyl iddynt gael eu defnyddio ar gyfer pob buddsoddiad sylweddol. Yn amlwg, clywsom yr hyn a ddywedodd Lynne Neagle am yr amharodrwydd, ddywedwn ni, i gyflwyno asesiadau o'r effaith ar hawliau plant ym mhob penderfyniad cyllidebol, yn enwedig y rhai mwyaf difrifol. Ond yn y bôn, roeddwn eisiau cael rhyw syniad o sut y mae asesiadau effaith yn dylanwadu ar benderfyniadau gwario mewn gwirionedd. Oherwydd pan oedd gennyf y portffolio diwylliant a threftadaeth, deuai'r asesiadau effaith a wneid ar y pryd yn ôl yn rheolaidd â'r wybodaeth y byddai methu buddsoddi'n effeithio'n negyddol ar bobl ifanc a phobl o gefndiroedd difreintiedig, ond ni chafodd y buddsoddiadau eu gwneud er hynny, felly deuthum i'r casgliad fod yr un canlyniadau asesu effaith wedi'u canfod ar gyfer meysydd polisi eraill yn ôl pob tebyg. Roedd gennyf ddiddordeb mewn gweld sut oedd Llywodraeth Cymru yn pwyso'r ddau asesiad a oedd yn cystadlu, os mynnwch, i benderfynu pwy fyddai'n colli. Ond mewn gwirionedd, ar ôl ein sesiwn graffu, mae arnaf ofn nad oeddwn fawr doethach ynglŷn â sut oedd hynny'n gweithio mewn gwirionedd, ac rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at argymhelliad 3 yn yr adroddiad.  

Roeddwn yn gobeithio darganfod hefyd sut y gallai buddsoddiad o'r gyllideb addysg, dyweder, effeithio ar feysydd polisi ac effeithiau eraill yno. Nid wyf yn siŵr fy mod wedi cael eglurder ar hynny o'r sesiwn hon mewn gwirionedd. I mi, mae'n fater byw, oherwydd gyda fy mhortffolio rwy'n gweld y tensiwn rhwng y prif grwpiau gwariant addysg a llywodraeth leol, er enghraifft, o ran pa mor llwyddiannus y mae ysgolion yn cael eu hariannu. Roeddwn hefyd am fod yn bresennol oherwydd y profiad gwael a gefais fel Aelod Cynulliad o asesiadau effaith a gynhyrchwyd gan awdurdodau lleol yn fy rhanbarth, yn enwedig mewn perthynas â chau ysgolion a gwerthiannau tir posibl. Rwy'n siŵr fod eraill yma wedi cael cyngor da iawn gan gomisiynwyr ynghylch sut i herio'r asesiadau effaith hynny, ond ymddengys i mi eu bod yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn, felly rwy'n credu y gallai hyn fod yn rhywbeth y gallai'r Cynulliad hwn fod yn awyddus i'w ystyried ar gyfer dadl yn y tymor nesaf.  

Mae'r gwrthdaro rhwng Llywodraeth Cymru a chomisiynwyr ynghylch dyfnder yr asesu a welwyd mewn asesiadau effaith integredig yn rhywbeth y credaf fod angen i ni fel Aelodau fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Mater craffu yw hwn, a mater i ni, nid Llywodraeth Cymru, yw'r hyn a welwn. Rwy'n gwybod y bydd clercod yn gwaredu pan ddywedaf hyn, ond rwy'n credu o ddifrif, Lywodraeth Cymru, y dylech gyhoeddi'r cyfan, os gwelwch yn dda, ac fe benderfynwn ni ar beth fyddwn yn ei graffu. Oherwydd ar hyn o bryd, fel y clywsom, y canfyddiad yw nad yw'r asesiadau integredig yn darparu dadansoddiad effeithiol, a'r cam cyntaf tuag at eu gwella, os yw Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r fethodoleg benodol hon, yw bod yn rhaid i'r asesiadau hyn gael eu cydgynhyrchu. Rhaid i'r broses fodloni comisiynwyr ac Aelodau'r Cynulliad o ran eu diben a'u cydbwysedd, oherwydd rydym yn derbyn na allwn gael popeth.  

Yn olaf, Aelodau, bu inni basio Bil Deddfwriaeth (Cymru) ddoe, a thybiaf y gallwn ddisgwyl, mewn peth amser, rhywfaint o gyfuno deddfwriaeth o dan faner gyffredinol llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Fodd bynnag, er gwaethaf yr anfodlonrwydd fod polisi'n cael ei brofi fwy nag unwaith—ac rwy'n deall hynny—credaf fod angen inni fod yn effro i'r hyn y gallem ei golli yn ystod y broses gyfuno. A minnau'n briod â ffermwr, credwch fi, rwy'n deall y rhwystredigaeth o weld yr un gweithgaredd yn cael ei asesu dro ar ôl tro o safbwynt ychydig yn wahanol, ond os ceisiwn gyfyngu ar y fiwrocratiaeth sydd yn y broses, rhywbeth y credaf ei fod yn rhan o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru'n ceisio ei wneud gyda'r asesiadau integredig, ac mae'n egwyddor sydd i'w chroesawu, mewn gwirionedd, mae angen inni wylio rhag colli manylion arwyddocaol, a buaswn yn wyliadwrus iawn rhag rhoi blaenoriaeth awtomatig i asesiadau effaith integredig dros asesiadau unigol, a all gwmpasu manylion mwy penodol, o bosibl, a allai fod yn arwyddocaol iawn. Mae'n eithaf posibl, er enghraifft, y gallai asesiad o'r effaith ar hawliau plant nodi effaith mor arwyddocaol fel y dylai fod iddo fwy o bwysau nag asesiad effaith a luniwyd mewn ffordd gyfannol. Rydym yn sôn am rywbeth arwyddocaol iawn yn hynny o beth. Ac mae'n ymddangos i mi mai dyna yn ei hanfod oedd gofid yr holl gomisiynwyr a roddodd dystiolaeth i'n paneli.  

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni fod yn ofalus ynglŷn â meddwl bod hon yn broses y gellid cuddio pethau oddi tani, oherwydd mae eisoes yn eithaf anhydraidd, ac edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog ar sylwadau comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nad yw'r cynnydd hyd yma wedi bod yn ddigonol. Diolch.   

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:47, 17 Gorffennaf 2019

Fe glywsom ni y llynedd fod y comisiynydd plant yn hynod feirniadol na wnaed unrhyw asesiadau effaith hawliau plant ar y cynigion cyllidebol presennol. Mae hynny'n groes, wrth gwrs, i erthygl 4 confensiwn hawliau'r plentyn, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob lefel o lywodraeth weithredu mewn ffordd sy'n gyson â'r confensiwn. Mae'r confensiwn yn dweud bod angen asesu'n gyson sut y bydd cyllidebau'n effeithio ar grwpiau gwahanol o blant, gan sicrhau bod y penderfyniadau cyllidebol yn arwain at y deilliannau gorau posib i'r nifer fwyaf o blant, ond gan gymryd i ystyriaeth yn ganolog i'r broses y plant mewn sefyllfaoedd bregus. Mi fyddwch chi'n cofio—neu mi fydd rhai ohonoch chi'n cofio—y dywedodd y comisiynydd hyn:

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

mae'n ymddangos bod hawliau plant yn "ychwanegiad" o fewn y gyllideb hon,

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

yn hytrach na bod hawliau yn rhan o'r dadansoddiad o'r cychwyn cyntaf, a hynny yn arwain at y penderfyniadau cyllidebol. Rŵan bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gydweithio efo'r comisiynydd plant, sy'n ardderchog i gychwyn, mae'n rhaid i'r gwaith o osod cyllideb 2020-21 ddigwydd yn gyflym. Ac mae'r comisiynydd yn sôn ei bod hi'n disgwyl gweld asesiad effaith hawliau plant yn cael ei gyhoeddi law yn llaw efo'r gyllideb. Mi fyddai gwneud hynny, dwi'n meddwl, yn profi bod yna well aliniad rhwng polisi ac ariannu yn dechrau gwreiddio.

Llynedd, mi wnes i ofyn yn y Siambr yma i Senedd Cymru ddangos y ffordd ac i fod y Senedd gyntaf yn y byd i wreiddio ystyriaethau hawliau plant yn ddwfn i'n prosesau cyllidebol. Ac mae yna ddechreuad, oes, ond mae o'n digwydd mewn gwledydd eraill ac, ynghynt eleni, mi wnaeth Llywodraeth Seland Newydd gyhoeddi'r gyllideb les gyntaf yn y byd, gan roi gwariant sylweddol ar wasanaethau iechyd meddwl, tlodi plant a buddsoddiad mewn mesurau i daclo trais yn y cartref. Seland Newydd, mae'n ymddangos, ydy'r wlad gyntaf yn y byd i ddylunio'i chyllideb yn seiliedig ar flaenoriaethau lles, gan wedyn gyfarwyddo'i Gweinidogion i gynllunio'u polisïau er mwyn gwella lles.

Felly, os ydym ni wir eisiau gweld arian yn dilyn blaenoriaethau—rhai o'r pwyntiau roedd Suzy Davies yn eu codi—mi fedrwn ni ddefnyddio hawliau plant fel enghraifft. Ac mae'n rhaid i'r pwrpas yna fod yn bresennol o ddechrau'r broses gyllido, ddim fel sydd wedi digwydd yn hanesyddol, achos dim gweithred ticio bocs a gweld hawliau plant fel add-on ydy'r ffordd ymlaen, ac yn sicr ddim dyna beth fyddai'n cynrychioli'r newid meddylfryd sydd yn dod allan o'r adroddiad yma. Diolch. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:50, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw yn fawr iawn, a diolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad ar y cyd yn asesu effaith penderfyniadau cyllidebol. Diolch hefyd i'r holl Aelodau am yr hyn a fu'n ddadl adeiladol iawn, ac yn sicr yn ddigon o her ac yn llawer imi feddwl amdano wrth inni ddechrau mynd drwy'r broses o osod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym wedi bod yn ymrwymedig ers tro byd i wella'r ffordd yr ydym yn asesu ac yn gwneud y mwyaf o effaith ein penderfyniadau cyllidebol ac fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi derbyn pob un o'r argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor. Croesawaf y cyfle hwn i'w trafod yn y Siambr.  

Felly, Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i gyhoeddi asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar ein cynlluniau gwariant yn ôl yn 2011, ac roedd yn gam y tu hwnt i'n gofynion statudol ac yn arwydd o'n penderfyniad i barhau i gryfhau a gwella ein dull gweithredu, un sy'n golygu ein bod wedi mynd ati'n fwyfwy soffistigedig i ystyried effeithiau. Gan adeiladu ar adborth gan y Pwyllgor Cyllid a grŵp cynghorol y gyllideb ar gydraddoldeb, gwnaethom ddatblygu asesiad effaith integredig strategol a gyhoeddwyd yn gyntaf gyda'r gyllideb ddrafft yn 2015-16.  

Datblygwyd yr asesiad effaith integredig strategol i ystyried penderfyniadau gwariant drwy nifer o lensys, i ddeall eu heffeithiau ar wahanol grwpiau o bobl, ac mae'r rhain yn cynnwys: hawliau plant; y Gymraeg; anfantais economaidd-gymdeithasol; a datblygu cynaliadwy. Mae cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd wedi llunio ein dull o weithredu ers ei chyflwyno yn 2015. Drwy weithredu mewn ffordd integredig, ein nod oedd datblygu dealltwriaeth ehangach o'r pwysau a'r cyfleoedd i leihau costau sy'n bodoli ar draws meysydd gwasanaeth allweddol, yn unol â'n blaenoriaethau a'n cyllid targed pan fydd ei angen fwyaf.

Rwy'n cydnabod y cyfeiriad at y gwaith a wnaethpwyd yn Seland Newydd. Rydym wedi bod â diddordeb mawr yn hwnnw, ac mae ein swyddogion wedi siarad â swyddogion yn Seland Newydd. Mae'n rhaid i mi ddweud bod llawer o debygrwydd eisoes o ran ein dull gweithredu drwy ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a'r hyn a wnawn drwy ein hasesiadau effaith integredig strategol—mae'n debyg iawn o ran y broses o wneud penderfyniadau a'r dyletswyddau arnom o ran pethau y mae'n rhaid inni edrych arnynt.

Mae ein dull o weithredu wedi esblygu hefyd wrth i ni sefydlu'r dirwedd gyllidol newydd. Rydym wedi nodi ein hymagwedd at dreth a'i hegwyddorion ar gyfer trethi Cymreig yn y fframwaith polisi treth, ac mae'r rhain yn cynnwys yr egwyddor allweddol y dylai trethi Cymru godi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mewn modd mor deg â phosibl. Dylid eu datblygu drwy gydweithio a chymryd rhan, a chyfrannu'n uniongyrchol at nodau Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod sut y mae'r asesiad effaith integredig strategol yn cyd-fynd â'r dirwedd asesu effaith ehangach, ac wrth gwrs ceir effaith ar y lefel y pennwyd y gyllideb amlinellol arni, ond ar lefel y penderfyniadau manwl a wneir gan Weinidogion y cysylltir agosaf â'r effeithiau y bydd pobl a chymunedau yn eu teimlo. Dyna pam, am y tro cyntaf y llynedd, y cyhoeddasom asesiad effaith integredig strategol i gyd-fynd â'n cyllideb amlinellol a'n cyllidebau manwl.  

Mae asesu effaith polisïau yn effeithiol o gam cynnar a thrwy gydol eu datblygiad yn rhan ganolog o lunio polisïau, ac yn y cyd-destun hwn mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i ddatblygu a symleiddio asesiadau effaith presennol yn un fframwaith integredig i lywio'r broses o ddatblygu polisi a deddfwriaeth. Wedi'i fframio gan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, arweiniodd y gwaith hwn at lansio'r offeryn asesu effaith integredig yn 2018, a helpodd yr offeryn hwnnw benderfynwyr i ddeall effaith bosibl polisïau, yn gadarnhaol a negyddol, o gyfnod cynnar a thrwy gydol eu datblygiad. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, cafwyd adborth da iawn o ran sut y defnyddir yr offeryn a'r ffordd y mae wedi herio syniadau wrth i bolisïau gael eu datblygu, ac mae'n cael ei ddefnyddio ar gam cynnar er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau y gofynnir i Weinidogion eu gwneud yn wybodus ac wedi'u datblygu'n dda o ran yr effaith y gallent ei chael ar wahanol grwpiau. Fodd bynnag, mae hyn yn wahanol iawn i rôl yr asesiad effaith integredig strategol o'r gyllideb, sy'n nodi sut y mae ystyriaethau effaith wedi llywio'r dyraniadau cyllideb strategol a wnaethpwyd fel rhan o broses flynyddol y gyllideb. Ond rydym yn parhau'n ymrwymedig i esblygu ein dull gweithredu, ac wrth i ni integreiddio ein pwerau trethu a benthyca ymhellach, rydym yn archwilio sut y gall gwahanol ddulliau lywio ein hystyriaeth o effaith yn well, gan gynnwys asesiadau o'r effaith ar aelwydydd ac unigolion yng Nghymru, a dyma rai o'r syniadau yr ydym yn bwrw ymlaen â hwy wrth inni ystyried beth y gallwn ei wneud i barhau i wella'r ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â'r gwaith hwn.

I gyd-fynd â'n hadolygiad cydraddoldeb rhywiol, er enghraifft, fel rhan o baratoadau'r gyllideb ar gyfer eleni, rydym yn edrych ar gyllidebu ar sail rhyw. Gan ddysgu oddi wrth y gwledydd Nordig, rydym yn ystyried sut y gallai dull cyllidebol ar sail rhyw ein helpu i ddeall effeithiau ein penderfyniadau yn well. Yn ogystal, rydym yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio diffiniad gweithredol o 'atal', y cytunwyd arno gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yng nghyllideb 2019-20 i'n helpu i symud gweithgarwch ymhellach i fyny mewn perthynas â'n penderfyniadau cyllidebol.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru hefyd wedi bod yn datblygu dull ataliol drwy weithio gyda chynrychiolwyr, sefydliadau partner, trethdalwyr a'r cyhoedd i'w gwneud yn haws i bobl dalu'r swm cywir o dreth y tro cyntaf. Ac fel y clywsom, eleni rydym hefyd yn adolygu proses ein hofferyn asesu effaith integredig ar benderfyniadau polisi, ac fel rhan o'r adolygiad hwn, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r cyrff allanol a'r comisiynwyr sydd wedi bod yn rhan o'r datblygiad. Rwy'n bwriadu cyfarfod â chomisiynwyr wrth i ni fynd ati i osod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn manteisio ar y cyfleoedd i drafod gyda hwy beth yn rhagor y gallwn ei wneud i wella ein hasesiadau effaith.

Rwyf eisoes wedi cael cyfarfod da gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a chawsom drafodaeth dda ynghylch pa welliannau y gellid eu gwneud. Gwn eu bod yn parhau i drafod gyda swyddogion. Mynychodd fy nghyd-Aelod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip y symposiwm y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, John Griffiths, ato, a gwn y byddai'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a'r holl Gadeiryddion am y trafodaethau a gafwyd yno.

Cawsom gyfle ddoe i drafod y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus a'r heriau digynsail sy'n ein hwynebu wrth inni ddatblygu ein cynlluniau gwariant ar gyfer y dyfodol. A chyda'r posibilrwydd gwirioneddol y bydd cyfyngiadau ar wariant yn parhau, a'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb hefyd, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn arfarnu effeithiau cadarnhaol a negyddol newidiadau ar ein cynlluniau gwariant, i'n helpu i dargedu ein hadnoddau sy'n prinhau ar y camau gweithredu y gwyddom y byddant yn sicrhau'r effaith fwyaf i bobl a'u lles yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a fu'n sgwrs wirioneddol adeiladol, a gwn y bydd yr ymgysylltu'n parhau wrth i broses y gyllideb esblygu eleni.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:57, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl?

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:58, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth hon? Cawsom ein hatgoffa gan Lynne Neagle, yn ei chyfraniad, mai'r hyn yr oeddem am ei wneud oedd cydweithio fel tri phwyllgor i hoelio'r sylw ar y thema hon, a chredaf fod y sesiwn graffu gydamserol a gawsom, yr adroddiad a gyhoeddwyd gennym, a'r ddadl hon yn awr, yn sicr yn helpu i wneud hynny. Rhannaf eich teimlad fod gennym bellter i'w deithio cyn y gallwn fod yn hyderus fod asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn cael eu defnyddio'n llawn. Ac wrth gwrs, dyna'r pwynt, ynte? Sut y gallwn fod yn hyderus eu bod yn cael eu defnyddio? Sut y mae Llywodraeth yn dangos yn effeithiol eu bod yn cael eu gwneud mewn ffordd ystyrlon a gwerthfawr, a sut y mae pethau'n cael eu gwneud yn wahanol o ganlyniad?

Diolch, John, am eich cyfraniad chi hefyd. Rwy'n falch eich bod yn gweld hwn fel model posibl ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar draws y pwyllgorau. Nid yw'n hawdd ei wneud ar lefel ymarferol, yn amlwg, oherwydd materion ymarferol fel y slotiau penodol y mae gwahanol bwyllgorau'n cyfarfod ynddynt, ond wrth gwrs, roedd yn rhaid i ni gynnal cyfarfod cydamserol. Ni allem gynnal cyfarfod ar y cyd, oherwydd nid oeddem yn gallu gwneud hynny o dan y Rheolau Sefydlog. Roedd yn rhaid inni gael tri phwyllgor yn cyfarfod ar yr un pryd yn yr un ystafell gyda'r un bobl yn rhoi tystiolaeth. Felly, rwy'n meddwl bod rhywbeth y mae angen i ni edrych arno yn y fan honno o ran caniatáu mwy o hyblygrwydd i ni.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r Llywodraeth yn rhyw fath o symud tuag at ddiwylliant lle mae mwy nag un Gweinidog—neu gyfrifoldebau'n gorgyffwrdd rhywfaint a'u bod yn rhannu rhai cyfrifoldebau. Wel, credaf y dylem fod yn adlewyrchu hynny yn y ffordd y gallwn ni fel Cynulliad ac fel pwyllgor ddangos ystwythder o'r fath fel ein bod mor effeithiol ag y gallwn fod o ran craffu ar waith y Llywodraeth.

Mae angen defnyddio asesiadau effaith ar y cam cynharaf er mwyn iddynt fod yn ystyrlon—yn bendant. Ac er y gallwn ei wneud yn flynyddol, hoffem ein hatgoffa, wrth gwrs, na allwn golli golwg ar yr effaith gronnol a rhaid i ni fod yn gwbl ymwybodol o hynny. Ac yn sicr, nid dyma ddiwedd ein gwaith, fel y dywedasoch. Mae hon yn mynd i fod yn broses barhaus a bydd yn broses graffu a fydd yn parhau dros fisoedd a thros flynyddoedd i ddod, rwy'n siŵr. Mae'n ddrwg gennyf fod Suzy Davies yn ystyried bod craffu ar y gyllideb yn un o'r agweddau lleiaf pleserus neu leiaf cynhyrchiol o'i gwaith fel AC. Rwy'n ofni fy mod i, fel Cadeirydd cyllid, yn gobeithio y bydd hi'n gwneud mwy ohono fel pwyllgorau pwnc yn y blynyddoedd i ddod a'i fod yn cael ei wreiddio'n fwy byth yn y gwaith y mae ein holl bwyllgorau yn ei wneud. A gallaf innau hefyd uniaethu â'r rhwystredigaeth y mae ffermwyr, er enghraifft, yn ei theimlo pan welant fod yr un gweithgaredd yn cael ei asesu o sawl ongl wahanol, ond wrth gwrs, y peth allweddol yno, os ydynt yn deall pam y mae'n cael ei wneud a pha effaith a gaiff a'u bod yn gallu gweld bod iddo effaith gadarnhaol, yna rwy'n siŵr y byddent yn fwy maddeugar ynglŷn â hynny, ac felly, wrth gwrs, ein casgliad trosfwaol yn yr adroddiad yw mynd yn ôl at yr egwyddorion sylfaenol fel ein bod i gyd yn glir ac yn deall yn iawn pam ein bod yn gwneud hyn, i ba ddiben, a beth yw ei effaith.

Roedd un o'r ymyriadau mwy trawiadol a grybwyllodd Siân Gwenllian gan y comisiynydd plant yn dweud, i bob pwrpas, nad yw'r broses hon yn cael yr effaith y dylai ei chael mewn gwirionedd, mai ychwanegiad ydoedd i raddau helaeth, ac felly nid yw'n syndod ein bod yn gweld bod angen inni drafod hyn yma yn y Siambr. Mae'r cyfeiriad at Seland Newydd yn ddiddorol oherwydd, yn Seland Newydd, maent yn defnyddio'u proses gyllidebol i ysgogi'r newidiadau hyn, ond yng Nghymru, wrth gwrs, rydym wedi deddfu drwy Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol i geisio ysgogi'r broses hon. Felly, byddai'n ddiddorol cymharu a chyferbynnu ar ryw bwynt y gwahanol ddulliau o weithredu yma ac yn y fan honno, ac wrth gwrs, y gwahanol ganlyniadau sy'n deillio o hynny wedyn.

Nid oes llawer—. Wel, nid wyf yn meddwl bod unrhyw beth yr oeddwn yn anghytuno ag ef o ran yr hyn a ddywedodd y Gweinidog mewn egwyddor, ond wrth gwrs, mae'r her, fel y gwyddom i gyd, yn ymwneud â chymhwyso'r egwyddorion y mae pawb ohonom am eu gweld yn cael eu dilyn yn ymarferol. Rwy'n falch eich bod wedi ymrwymo i ymagwedd sy'n esblygu wrth i bwerau esblygu o ran trethiant a benthyca. Mae'n briodol fod y prosesau sydd gennym i sicrhau bod effeithiau ein defnydd o'r cyfrifoldebau a'r pwerau newydd hynny'n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Nawr, yn y bôn, rwy'n credu bod angen i ni, felly, sefydlu disgwyliadau a dealltwriaeth gyffredin o sut rydym yn asesu effaith gyllidebol a sut y mae hynny'n bodoli ochr yn ochr â gofynion deddfwriaethol eraill. Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd a chredwn fod yr hinsawdd ariannol bresennol yn gwneud asesu effaith gwariant yn bwysicach nag erioed. Ond wyddoch chi, mae bod yn onest am gyfaddawdu anodd sy'n rhaid i chi ei wneud yn iawn, onid yw? Yn wir, mae'n hanfodol os ydym am feithrin hyder y cyhoedd yn ein prosesau gwneud penderfyniadau.

Mae'r cynnig heddiw yn nodi'r adroddiad ar y cyd gan ein tri phwyllgor, a fydd, gobeithio, yn creu deialog adeiladol, gadarnhaol a blaengar gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'i dull o gynnal asesiadau effaith ar y gyllideb ddrafft wrth symud ymlaen a byddwn yn parhau, fel y dywedaf, i fynd ar drywydd y materion hyn yn ein gwaith craffu unigol ar y gyllideb yn ddiweddarach eleni.

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r comisiynwyr a Llywodraeth Cymru am y ffordd adeiladol y maent wedi ymgysylltu â ni fel tri phwyllgor yn ein dull arbrofol o weithredu ac rydym yn sicr yn edrych ymlaen at adeiladu ar yr arloesedd hwn yng nghylch nesaf y gyllideb ddrafft. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:03, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.