Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy adleisio'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y dull newydd hwn o graffu ar y gyllideb, a'i fod yn fodel, efallai, ar gyfer gwaith yn y dyfodol, ac rwy'n synhwyro fy mod yn siŵr y bydd pwyllgorau eraill am fwrw golwg gofalus arno. Rwy'n credu ei bod yn adeiladol iawn i dri phwyllgor gydag arbenigeddau gwahanol a diddordebau gwahanol ddod at ei gilydd i ystyried yr agwedd bwysig hon ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn llunio ei chyllideb, ac yn ceisio sicrhau bod pobl sy'n ddiamddiffyn yn ein cymuned yn cael eu diogelu yn y broses o bennu'r gyllideb, ac mae'r holl faterion cydraddoldeb hynny'n cael eu hystyried mewn ffordd ystyrlon sy'n helpu i gynhyrchu'r gyllideb derfynol mewn gwirionedd.
Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i'r rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru am gymryd rhan yn y gwaith hwn, oherwydd rwy'n credu bod hynny wedi bod yn adeiladol a blaengar iawn hefyd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n amlwg fod pawb eisiau gweld y broses gyllidebol yn cael ei gwneud yn fwy tryloyw ac yn fwy effeithiol, ac mae hwnnw'n fan cychwyn da iawn ar gyfer y drafodaeth hon a'r ddadl hon wrth i ni symud ymlaen. Yn wir, mae ein pwyllgor, a'r pwyllgor blaenorol yn wir, wedi bod yn amheus ers amser ynglŷn ag effeithiolrwydd proses y gyllideb, a'r broses asesu effaith yn benodol. Rhaid i'r asesiadau effaith hynny lywio'r broses benderfynu. Fel y credaf y mae Lynne newydd ei ddweud, ni ddylai fod yn fater o gyfiawnhau penderfyniadau a wnaed, ond yn hytrach, o lywio penderfyniadau sydd eto i'w gwneud, a defnyddio'r asesiadau hyn yng nghamau cynharach y broses, os yw'r broses i fod yn ystyrlon a bod yr holl randdeiliaid sydd â diddordeb i gredu ei bod yn ystyrlon. Ond rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried y dystiolaeth a ystyriwyd gennym ni mewn perthynas â'r asesiadau effaith integredig unigol hynny, a gobeithiaf y bydd hyn yn arwain at welliannau yn y broses, ac yn y pen draw, at welliannau i'r penderfyniadau sy'n dilyn.
Os caf symud at rai materion penodol, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar, cafodd swyddogion Llywodraeth Cymru bapur briffio wedi'i drefnu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y model asesu effaith gronnol. Ac rwy'n credu bod llawer ohonom yn pryderu am hyn, oherwydd pan edrychwn ar gyni, er enghraifft, mae'r effaith gronnol dros gyfnod o flynyddoedd yn mynd yn fwy byth, ac rydych yn cyrraedd y cam lle mae'n eithriadol o frawychus yn wir. A dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod Llywodraeth Cymru wedi dangos parodrwydd i archwilio'r model hwn ymhellach. Felly, byddai'n dda gennyf glywed gan y Gweinidog a ydych yn debygol o fwrw ymlaen â'r model hwnnw.
Un mater parhaus ar draws llawer o waith ein pwyllgor yw integreiddio deddfwriaeth, a'r gofynion gwahanol a osodir ar gyrff cyhoeddus gan wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth. Roedd hon yn thema allweddol yn ein gwaith. Clywsom am effaith haenu gwahanol ofynion, a all arwain at faterion yn disgyn drwy'r bwlch. Mae hyn cyn i ddyletswyddau newydd pellach, megis dyletswydd economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010, gael eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru.
Yn ein gwaith ar rianta, mamolaeth a gwaith, galwasom am fireinio dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y byddai'r Gweinidog yn cael cyngor ar y rheoliadau a'r trefniadau adrodd, yn enwedig y berthynas rhwng y dyletswyddau a Deddf cenedlaethau'r dyfodol.
Galwodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ddiwygio'r dyletswyddau cydraddoldeb a'u cryfhau fel eu bod yn canolbwyntio mwy ar ganlyniadau i unigolion. Nodant eu bod wedi cynnal symposiwm yn gynharach y mis hwn i helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad hwn. Felly, fel pwyllgor byddem yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau'r symposiwm a nodi'r amserlen ar gyfer adolygu'r dyletswyddau.
Fel y dywedwn yn ein hadroddiad, mae nawr yn amser da i wneud newidiadau i'r broses asesu effaith. Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhoi fframwaith polisi clir, ac yn argymhelliad 4 ein hadroddiad, galwasom ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i'w defnyddio'n sail i'w hymagwedd at asesiadau effaith. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Lywodraeth Cymru. Wrth ymateb i hyn, dywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nad oedd hyn wedi digwydd yn ddigonol hyd yn hyn ym mhroses y gyllideb. Felly, hoffwn wybod sut y bydd y Gweinidog yn ymateb i'r dadansoddiad penodol hwnnw.
Yn olaf, gwelwn yn ymateb Llywodraeth Cymru y bydd yr adolygiad o'r dull integredig o asesu effaith yn gynhwysfawr. Mae hefyd yn nodi y bydd yn cynnwys ymgysylltu â nifer o randdeiliaid allanol, gan gynnwys y comisiynwyr a grŵp cynghorol y gyllideb ar gydraddoldeb. Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wrth wneud sylwadau ar hyn y byddai ymgysylltu allanol â phobl o grwpiau gwarchodedig yn allweddol, gan awgrymu y dylai ymgysylltiad o'r fath fynd y tu hwnt i'r grŵp cynghori. Weinidog, a allwch amlinellu sut y byddwch yn ymgysylltu â rhanddeiliaid y tu allan i'r grŵp cynghori ar yr adolygiad o'r pecyn cymorth?