8. Dadl ar yr adroddiad ar y cyd rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Cyllid: Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:29, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn adroddiadau diweddar ein pwyllgor ar y gyllideb, rydym wedi amlygu ein pryderon ynghylch lefel y sylw a roddir i hawliau plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau ariannol pwysig. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad o'r effaith ar hawliau plant ar ei chyllideb ddrafft fel mater o drefn. Hyd yma, gwrthodwyd y galwadau hyn ar y sail y cynhelir asesiad effaith integredig ehangach o'r gyllideb ddrafft.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pob un o'n pwyllgorau wedi gwneud sylwadau ar yr angen i wella'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith ei phenderfyniadau cyllidebol ar wahanol grwpiau poblogaeth. Fel y cyfryw, ac fel y mae Llyr eisoes wedi egluro, roeddem am gydweithio fel tri phwyllgor i hoelio sylw ar y thema hon sy'n codi ei phen yn rheolaidd.

Cydnabyddwn nad yw asesu effaith penderfyniadau cyllidebol ar ein poblogaeth yn hawdd, ond credwn hefyd ei bod yn hanfodol gwneud popeth a allwn i ystyried sut y mae'r penderfyniadau a wnawn am arian yn trosi i brofiadau bywyd go iawn y bobl y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli, ac nid yw aelodau ieuengaf ein cymdeithas yn eithriadau.

Plant a phobl ifanc oedd fy ffocws yn ystod y gwaith craffu ar y cyd, a dyna fydd fy ffocws heddiw. Rwy'n cydnabod bod anghenion plant yn sefyll ochr yn ochr â nifer o ystyriaethau eraill wrth wneud penderfyniadau am y gyllideb. Ond yn fy marn i, mae dau beth yn eu gwneud yn unigryw o ran eu hangen am sylw. Yn gyntaf oll, ni all aelodau ieuengaf ein cymdeithas bleidleisio. Yn niffyg yr etholfraint, ein lle ni yw sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u buddiannau'n cael eu hystyried. Yn ail, cymerodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 y cam arloesol o ymgorffori dyletswydd mewn statud ar Weinidogion Cymru i ystyried hawliau plant ym mhopeth a wnânt. Ond nid yw deddf ond yn torri tir newydd os yw ei dyheadau'n cael eu gwireddu. Yn achos cyllidebau drafft, credwn fod cryn bellter i'w deithio o hyd cyn y gallwn fod yn hyderus fod y penderfyniadau a wneir yn gwbl gydnaws ag ysbryd y ddeddf honno.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pedwar o'n pump argymhelliad, ynghyd ag un mewn egwyddor. Ymhellach, rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth o dan argymhelliad 1 i weithio gyda'r comisiynwyr statudol perthnasol i roi mwy o eglurder ynglŷn â phwrpas a chanlyniadau disgwyliedig y broses asesu effaith integredig strategol. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r comisiynwyr am eu cyfraniad i'n proses graffu ar y cyd, a'r safbwyntiau y maent wedi'u rhannu ar gyfer llywio'r ddadl hon. Serch hynny, mae nifer o bryderon yr hoffwn eu codi mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yn benodol. Rwy'n rhannu llawer o'r rhain gyda'r comisiynydd plant.

Mewn ymateb i argymhelliad 2, mae'r Llywodraeth wedi awgrymu y byddai cyhoeddi asesiadau effaith unigol mewn lleoliad canolog yn peri dryswch. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynglŷn â hyn. Fel cyd-bwyllgorau, cytunasom fod tryloywder yn allweddol. Hyd yma, ni chafodd asesiadau effaith unigol eu cyhoeddi'n systematig. Mae penderfyniad y llynedd ynglŷn â'r grant gwisg ysgol yn enghraifft, ac yn un yr ydym yn tynnu sylw ati yn ein hadroddiad ar y gyllideb. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi ystyriaeth bellach i hyn.

O ran argymhellion 3 a 4, fel pwyllgor, rydym yn pryderu bod ansawdd yr asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn parhau i amrywio. Rydym yn glynu wrth ein haeriad ei bod yn ymddangos weithiau fod asesiadau effaith yn cael eu defnyddio i adlewyrchu neu gyfiawnhau penderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud. Buaswn yn arbennig o awyddus i glywed barn y Gweinidog am sylw'r comisiynydd plant—ac rwy'n dyfynnu—

Rydym wedi gweld enghreifftiau o asesiadau o'r effaith ar hawliau plant nad ydynt mewn gwirionedd yn ceisio ateb y cwestiwn cyffredinol ynghylch a fydd y polisi'n effeithio ar blant a phobl ifanc, a/neu sut y bydd yn gwneud hynny, heb sôn am roi cynnig ar broses lawnach.

Yn olaf, o ran argymhelliad 5, er fy mod yn croesawu'r ymrwymiad i gomisiynu ymchwil ar integreiddio dyletswyddau, sylwaf gyda phryder nad yw'r gwaith hwn wedi dechrau eto. Anogaf y Llywodraeth i fwrw ymlaen â hyn cyn gynted â phosibl.

Wrth gloi, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Gadeiryddion ac aelodau'r pwyllgorau am eu parodrwydd i weithio ar y cyd ar hyn. Dyma'r tro cyntaf i ni weithio gyda'n gilydd ar y gyllideb ddrafft, a chredaf ei fod yn darparu model defnyddiol ac arloesol ar gyfer craffu ar feysydd o ddiddordeb cyffredin ar draws y pwyllgorau yn y dyfodol.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei hymwneud â'r gwaith hwn. Ein nod cyffredinol fel pwyllgorau yw cynnig cyfraniad adeiladol a defnyddiol mewn maes yr ydym yn cydnabod ei fod yn gymhleth ac yn heriol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy, a chyda'r comisiynwyr statudol perthnasol, i barhau â'n gwaith trawsbynciol yn y maes hwn yn y blynyddoedd ariannol sydd i ddod. Diolch, Ddirprwy Lywydd.