Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n gwneud y cynnig yma, sy'n cael ei gyflwyno ar y cyd, wrth gwrs, gen i, Lynne Neagle a John Griffiths. Dwi'n falch iawn o fod yn agor y ddadl heddiw ar ffordd drawsbynciol newydd o wynebu her rŷn ni wedi'i hwynebu droeon fel Aelodau'r Cynulliad, sef, wrth gwrs, asesu effaith penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru ar bobl Cymru.