8. Dadl ar yr adroddiad ar y cyd rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Cyllid: Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:41, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, bawb, am ddod â'r adroddiad hwn i lawr y Siambr. Cymerais ran yn y sesiwn graffu ar y cyd a lywiodd ran o'r broses o greu'r adroddiad hwn. Nid oes ots gennyf ddweud fy mod, yn y naw mlynedd y bûm yn Aelod Cynulliad, wedi gweld y broses o graffu ar y gyllideb yn un o'r elfennau lleiaf boddhaol o fy ngwaith fel Aelod Cynulliad. Rwy'n teimlo bod ceisio cysylltu penderfyniadau gwariant ag uchelgeisiau didarged ac yna gyda chanlyniadau—dilyn yr arian, yn y bôn—bron yn gwbl amhosibl. Rwy'n gobeithio'n fawr fod fy nghyd-Aelodau yn y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei chael ychydig yn haws. Dyna pam yr oeddwn am fod yn rhan o'r panel craffu hwn ar yr achlysur hwnnw.  

Credaf y dylem boeni bod yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi dweud yn unig 'y gellid' defnyddio asesiadau integredig ar gyfer buddsoddiadau sylweddol. Roedd hynny'n dipyn o syndod i mi. Buaswn yn disgwyl iddynt gael eu defnyddio ar gyfer pob buddsoddiad sylweddol. Yn amlwg, clywsom yr hyn a ddywedodd Lynne Neagle am yr amharodrwydd, ddywedwn ni, i gyflwyno asesiadau o'r effaith ar hawliau plant ym mhob penderfyniad cyllidebol, yn enwedig y rhai mwyaf difrifol. Ond yn y bôn, roeddwn eisiau cael rhyw syniad o sut y mae asesiadau effaith yn dylanwadu ar benderfyniadau gwario mewn gwirionedd. Oherwydd pan oedd gennyf y portffolio diwylliant a threftadaeth, deuai'r asesiadau effaith a wneid ar y pryd yn ôl yn rheolaidd â'r wybodaeth y byddai methu buddsoddi'n effeithio'n negyddol ar bobl ifanc a phobl o gefndiroedd difreintiedig, ond ni chafodd y buddsoddiadau eu gwneud er hynny, felly deuthum i'r casgliad fod yr un canlyniadau asesu effaith wedi'u canfod ar gyfer meysydd polisi eraill yn ôl pob tebyg. Roedd gennyf ddiddordeb mewn gweld sut oedd Llywodraeth Cymru yn pwyso'r ddau asesiad a oedd yn cystadlu, os mynnwch, i benderfynu pwy fyddai'n colli. Ond mewn gwirionedd, ar ôl ein sesiwn graffu, mae arnaf ofn nad oeddwn fawr doethach ynglŷn â sut oedd hynny'n gweithio mewn gwirionedd, ac rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at argymhelliad 3 yn yr adroddiad.  

Roeddwn yn gobeithio darganfod hefyd sut y gallai buddsoddiad o'r gyllideb addysg, dyweder, effeithio ar feysydd polisi ac effeithiau eraill yno. Nid wyf yn siŵr fy mod wedi cael eglurder ar hynny o'r sesiwn hon mewn gwirionedd. I mi, mae'n fater byw, oherwydd gyda fy mhortffolio rwy'n gweld y tensiwn rhwng y prif grwpiau gwariant addysg a llywodraeth leol, er enghraifft, o ran pa mor llwyddiannus y mae ysgolion yn cael eu hariannu. Roeddwn hefyd am fod yn bresennol oherwydd y profiad gwael a gefais fel Aelod Cynulliad o asesiadau effaith a gynhyrchwyd gan awdurdodau lleol yn fy rhanbarth, yn enwedig mewn perthynas â chau ysgolion a gwerthiannau tir posibl. Rwy'n siŵr fod eraill yma wedi cael cyngor da iawn gan gomisiynwyr ynghylch sut i herio'r asesiadau effaith hynny, ond ymddengys i mi eu bod yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn, felly rwy'n credu y gallai hyn fod yn rhywbeth y gallai'r Cynulliad hwn fod yn awyddus i'w ystyried ar gyfer dadl yn y tymor nesaf.  

Mae'r gwrthdaro rhwng Llywodraeth Cymru a chomisiynwyr ynghylch dyfnder yr asesu a welwyd mewn asesiadau effaith integredig yn rhywbeth y credaf fod angen i ni fel Aelodau fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Mater craffu yw hwn, a mater i ni, nid Llywodraeth Cymru, yw'r hyn a welwn. Rwy'n gwybod y bydd clercod yn gwaredu pan ddywedaf hyn, ond rwy'n credu o ddifrif, Lywodraeth Cymru, y dylech gyhoeddi'r cyfan, os gwelwch yn dda, ac fe benderfynwn ni ar beth fyddwn yn ei graffu. Oherwydd ar hyn o bryd, fel y clywsom, y canfyddiad yw nad yw'r asesiadau integredig yn darparu dadansoddiad effeithiol, a'r cam cyntaf tuag at eu gwella, os yw Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r fethodoleg benodol hon, yw bod yn rhaid i'r asesiadau hyn gael eu cydgynhyrchu. Rhaid i'r broses fodloni comisiynwyr ac Aelodau'r Cynulliad o ran eu diben a'u cydbwysedd, oherwydd rydym yn derbyn na allwn gael popeth.  

Yn olaf, Aelodau, bu inni basio Bil Deddfwriaeth (Cymru) ddoe, a thybiaf y gallwn ddisgwyl, mewn peth amser, rhywfaint o gyfuno deddfwriaeth o dan faner gyffredinol llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Fodd bynnag, er gwaethaf yr anfodlonrwydd fod polisi'n cael ei brofi fwy nag unwaith—ac rwy'n deall hynny—credaf fod angen inni fod yn effro i'r hyn y gallem ei golli yn ystod y broses gyfuno. A minnau'n briod â ffermwr, credwch fi, rwy'n deall y rhwystredigaeth o weld yr un gweithgaredd yn cael ei asesu dro ar ôl tro o safbwynt ychydig yn wahanol, ond os ceisiwn gyfyngu ar y fiwrocratiaeth sydd yn y broses, rhywbeth y credaf ei fod yn rhan o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru'n ceisio ei wneud gyda'r asesiadau integredig, ac mae'n egwyddor sydd i'w chroesawu, mewn gwirionedd, mae angen inni wylio rhag colli manylion arwyddocaol, a buaswn yn wyliadwrus iawn rhag rhoi blaenoriaeth awtomatig i asesiadau effaith integredig dros asesiadau unigol, a all gwmpasu manylion mwy penodol, o bosibl, a allai fod yn arwyddocaol iawn. Mae'n eithaf posibl, er enghraifft, y gallai asesiad o'r effaith ar hawliau plant nodi effaith mor arwyddocaol fel y dylai fod iddo fwy o bwysau nag asesiad effaith a luniwyd mewn ffordd gyfannol. Rydym yn sôn am rywbeth arwyddocaol iawn yn hynny o beth. Ac mae'n ymddangos i mi mai dyna yn ei hanfod oedd gofid yr holl gomisiynwyr a roddodd dystiolaeth i'n paneli.  

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni fod yn ofalus ynglŷn â meddwl bod hon yn broses y gellid cuddio pethau oddi tani, oherwydd mae eisoes yn eithaf anhydraidd, ac edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog ar sylwadau comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nad yw'r cynnydd hyd yma wedi bod yn ddigonol. Diolch.