Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth hon? Cawsom ein hatgoffa gan Lynne Neagle, yn ei chyfraniad, mai'r hyn yr oeddem am ei wneud oedd cydweithio fel tri phwyllgor i hoelio'r sylw ar y thema hon, a chredaf fod y sesiwn graffu gydamserol a gawsom, yr adroddiad a gyhoeddwyd gennym, a'r ddadl hon yn awr, yn sicr yn helpu i wneud hynny. Rhannaf eich teimlad fod gennym bellter i'w deithio cyn y gallwn fod yn hyderus fod asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn cael eu defnyddio'n llawn. Ac wrth gwrs, dyna'r pwynt, ynte? Sut y gallwn fod yn hyderus eu bod yn cael eu defnyddio? Sut y mae Llywodraeth yn dangos yn effeithiol eu bod yn cael eu gwneud mewn ffordd ystyrlon a gwerthfawr, a sut y mae pethau'n cael eu gwneud yn wahanol o ganlyniad?
Diolch, John, am eich cyfraniad chi hefyd. Rwy'n falch eich bod yn gweld hwn fel model posibl ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar draws y pwyllgorau. Nid yw'n hawdd ei wneud ar lefel ymarferol, yn amlwg, oherwydd materion ymarferol fel y slotiau penodol y mae gwahanol bwyllgorau'n cyfarfod ynddynt, ond wrth gwrs, roedd yn rhaid i ni gynnal cyfarfod cydamserol. Ni allem gynnal cyfarfod ar y cyd, oherwydd nid oeddem yn gallu gwneud hynny o dan y Rheolau Sefydlog. Roedd yn rhaid inni gael tri phwyllgor yn cyfarfod ar yr un pryd yn yr un ystafell gyda'r un bobl yn rhoi tystiolaeth. Felly, rwy'n meddwl bod rhywbeth y mae angen i ni edrych arno yn y fan honno o ran caniatáu mwy o hyblygrwydd i ni.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r Llywodraeth yn rhyw fath o symud tuag at ddiwylliant lle mae mwy nag un Gweinidog—neu gyfrifoldebau'n gorgyffwrdd rhywfaint a'u bod yn rhannu rhai cyfrifoldebau. Wel, credaf y dylem fod yn adlewyrchu hynny yn y ffordd y gallwn ni fel Cynulliad ac fel pwyllgor ddangos ystwythder o'r fath fel ein bod mor effeithiol ag y gallwn fod o ran craffu ar waith y Llywodraeth.
Mae angen defnyddio asesiadau effaith ar y cam cynharaf er mwyn iddynt fod yn ystyrlon—yn bendant. Ac er y gallwn ei wneud yn flynyddol, hoffem ein hatgoffa, wrth gwrs, na allwn golli golwg ar yr effaith gronnol a rhaid i ni fod yn gwbl ymwybodol o hynny. Ac yn sicr, nid dyma ddiwedd ein gwaith, fel y dywedasoch. Mae hon yn mynd i fod yn broses barhaus a bydd yn broses graffu a fydd yn parhau dros fisoedd a thros flynyddoedd i ddod, rwy'n siŵr. Mae'n ddrwg gennyf fod Suzy Davies yn ystyried bod craffu ar y gyllideb yn un o'r agweddau lleiaf pleserus neu leiaf cynhyrchiol o'i gwaith fel AC. Rwy'n ofni fy mod i, fel Cadeirydd cyllid, yn gobeithio y bydd hi'n gwneud mwy ohono fel pwyllgorau pwnc yn y blynyddoedd i ddod a'i fod yn cael ei wreiddio'n fwy byth yn y gwaith y mae ein holl bwyllgorau yn ei wneud. A gallaf innau hefyd uniaethu â'r rhwystredigaeth y mae ffermwyr, er enghraifft, yn ei theimlo pan welant fod yr un gweithgaredd yn cael ei asesu o sawl ongl wahanol, ond wrth gwrs, y peth allweddol yno, os ydynt yn deall pam y mae'n cael ei wneud a pha effaith a gaiff a'u bod yn gallu gweld bod iddo effaith gadarnhaol, yna rwy'n siŵr y byddent yn fwy maddeugar ynglŷn â hynny, ac felly, wrth gwrs, ein casgliad trosfwaol yn yr adroddiad yw mynd yn ôl at yr egwyddorion sylfaenol fel ein bod i gyd yn glir ac yn deall yn iawn pam ein bod yn gwneud hyn, i ba ddiben, a beth yw ei effaith.
Roedd un o'r ymyriadau mwy trawiadol a grybwyllodd Siân Gwenllian gan y comisiynydd plant yn dweud, i bob pwrpas, nad yw'r broses hon yn cael yr effaith y dylai ei chael mewn gwirionedd, mai ychwanegiad ydoedd i raddau helaeth, ac felly nid yw'n syndod ein bod yn gweld bod angen inni drafod hyn yma yn y Siambr. Mae'r cyfeiriad at Seland Newydd yn ddiddorol oherwydd, yn Seland Newydd, maent yn defnyddio'u proses gyllidebol i ysgogi'r newidiadau hyn, ond yng Nghymru, wrth gwrs, rydym wedi deddfu drwy Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol i geisio ysgogi'r broses hon. Felly, byddai'n ddiddorol cymharu a chyferbynnu ar ryw bwynt y gwahanol ddulliau o weithredu yma ac yn y fan honno, ac wrth gwrs, y gwahanol ganlyniadau sy'n deillio o hynny wedyn.
Nid oes llawer—. Wel, nid wyf yn meddwl bod unrhyw beth yr oeddwn yn anghytuno ag ef o ran yr hyn a ddywedodd y Gweinidog mewn egwyddor, ond wrth gwrs, mae'r her, fel y gwyddom i gyd, yn ymwneud â chymhwyso'r egwyddorion y mae pawb ohonom am eu gweld yn cael eu dilyn yn ymarferol. Rwy'n falch eich bod wedi ymrwymo i ymagwedd sy'n esblygu wrth i bwerau esblygu o ran trethiant a benthyca. Mae'n briodol fod y prosesau sydd gennym i sicrhau bod effeithiau ein defnydd o'r cyfrifoldebau a'r pwerau newydd hynny'n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Nawr, yn y bôn, rwy'n credu bod angen i ni, felly, sefydlu disgwyliadau a dealltwriaeth gyffredin o sut rydym yn asesu effaith gyllidebol a sut y mae hynny'n bodoli ochr yn ochr â gofynion deddfwriaethol eraill. Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd a chredwn fod yr hinsawdd ariannol bresennol yn gwneud asesu effaith gwariant yn bwysicach nag erioed. Ond wyddoch chi, mae bod yn onest am gyfaddawdu anodd sy'n rhaid i chi ei wneud yn iawn, onid yw? Yn wir, mae'n hanfodol os ydym am feithrin hyder y cyhoedd yn ein prosesau gwneud penderfyniadau.
Mae'r cynnig heddiw yn nodi'r adroddiad ar y cyd gan ein tri phwyllgor, a fydd, gobeithio, yn creu deialog adeiladol, gadarnhaol a blaengar gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'i dull o gynnal asesiadau effaith ar y gyllideb ddrafft wrth symud ymlaen a byddwn yn parhau, fel y dywedaf, i fynd ar drywydd y materion hyn yn ein gwaith craffu unigol ar y gyllideb yn ddiweddarach eleni.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r comisiynwyr a Llywodraeth Cymru am y ffordd adeiladol y maent wedi ymgysylltu â ni fel tri phwyllgor yn ein dull arbrofol o weithredu ac rydym yn sicr yn edrych ymlaen at adeiladu ar yr arloesedd hwn yng nghylch nesaf y gyllideb ddrafft. Diolch yn fawr.