Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Felly, mae'n bwysig nid yn unig i Aelodau ond hefyd i bobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr fod Llywodraeth Cymru yn dryloyw ynghylch maint ac ansawdd y ddarpariaeth bresennol. Dyna pam y cyhoeddais yr ail adroddiad blynyddol am strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth glir ar gyflawni ein hymrwymiadau yn y cynllun cyflawni ar awtistiaeth. Mae'r adroddiad hwnnw'n crynhoi'r cynnydd a wnawn yn erbyn pob un o'r amcanion yn y cynllun cyflawni, ac ochr yn ochr â hynny, mae'r tîm awtistiaeth cenedlaethol hefyd wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n dangos ystod eu llwyddiant yn cyflawni eu cynllun gwaith blynyddol, ac mae'r adroddiad yn dangos yn glir y gefnogaeth i gyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae partneriaethau cryf ar waith bellach, mae codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant ychwanegol yn digwydd, ac mae pwyslais gwirioneddol ar gynnwys pobl awtistig yn eu gwaith. Gwelwyd tystiolaeth o'r cyfranogiad hwnnw yn y gynhadledd awtistiaeth genedlaethol ddiweddar ar gyfer oedolion, a gydgynhyrchwyd gan bobl awtistig. Rwy'n falch iawn o ddweud bod yna adborth cadarnhaol i bobl awtistig a gymerodd ran, er y buaswn yn cydnabod bod hwn yn grŵp yn ein cymdeithas sydd wedi dweud wrthyf yn rheolaidd eu bod yn gallu teimlo'n anweledig a bod eu hanghenion yn gallu cael eu hanwybyddu.
Fodd bynnag, mae gwaith y tîm cenedlaethol yn dangos bod gwell yn bosibl mewn gwirionedd. I barhau â gwaith y tîm cenedlaethol, rwyf wedi cytuno ar gyllid o dros £145,000 i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu cynllun gwaith ar gyfer eleni, ac rwy'n cytuno â'r teimladau y tu ôl i'r cynnig fod yn rhaid i'r diwygiadau rydym yn eu gwneud ddiwallu anghenion pobl awtistig a gwella eu canlyniadau unigol.
Ers 2015, rydym wedi targedu gwaith drwy'r rhaglen plant a phobl ifanc. Erbyn hyn mae gan ei ffrwd waith niwroddatblygiadol dimau niwroddatblygiadol dynodedig ym mhob ardal ac rydym wedi sefydlu safonau gwasanaeth cenedlaethol a llwybrau atgyfeirio. Wrth i ni agosáu at ddiwedd y rhaglen hon, rydym yn gweithio i sefydlu trefniadau etifeddol priodol i sicrhau bod y cynnydd a wneir mewn gwasanaethau niwroddatblygiadol yn parhau yn y dyfodol ac er mwyn sicrhau tryloywder wrth i ni ddatblygu, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad dros yr haf sy'n adlewyrchu sefyllfa'r gwasanaeth yn erbyn pob un o'i safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt. Bydd yn gwneud argymhellion ar ble y dylai datblygiadau ganolbwyntio yn y dyfodol.
Rhaid i ni sicrhau hefyd fod gwasanaethau'n cael eu cefnogi i gyflawni'r safon amser aros o 26 wythnos ar gyfer asesu. Mae byrddau iechyd wedi dechrau adrodd data i Lywodraeth Cymru ac rydym yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod cofnodion ansawdd data yn cyrraedd y safon er mwyn ein galluogi i'w cyhoeddi fel rhan o set ddata genedlaethol. Ac felly rwy'n hapus i ail-wneud yr ymrwymiad i wneud hynny. Mae'r gwasanaethau niwroddatblygiadol hefyd yn gweithio i ddatblygu trefniadau monitro cyfoethocach sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Bydd y rheini'n adlewyrchu gwelliannau mewn canlyniadau unigol.
Ac ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig, mae pob un o'r saith rhanbarth bellach ar agor ac rydym yn gweithredu system monitro data sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac a gefnogir gan Data Cymru. Bydd y data hwn yn darparu gwybodaeth ar sut y mae pob gwasanaeth yn cyflawni'r safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt ac yn cynnwys ffurflenni adborth rhieni, gofalwyr ac oedolion awtistig.
Mae pob gwasanaeth hefyd yn defnyddio'r dull sêr canlyniadau i fesur y pellter a deithiwyd gan bob unigolyn a gefnogir drwy'r gwasanaeth. Fel hyn, bydd gennym ddarlun clir o sut y mae'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fudd i bobl sy'n ceisio cymorth. Mae'r casglwr data wedi cael ei dreialu i brofi ansawdd a chysondeb a byddwn yn sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd cyn gynted â phosibl.
Yn gynharach eleni, cyhoeddasom y gwerthusiad annibynnol o gyflawniad y gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae'n cydnabod ymrwymiad byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i lansio'r gwasanaeth ym mhob ardal o Gymru. Rwy'n cefnogi gwerthusiad pellach o'r gwasanaeth a'r strategaeth awtistiaeth eleni.
Ariennir y gwasanaeth awtistiaeth integredig hyd at 2021 ar y cynharaf. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwnnw gyda risg yn erbyn cyllidebau yn y dyfodol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwn yn parhau i gefnogi a monitro ei ddatblygiad. Byddaf mewn sefyllfa i ystyried cyllid yn y dyfodol pan gawn rywfaint o eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â’n setliad ar gyfer 2021 a thu hwnt.
Felly, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol, ond rwy'n gwybod o siarad â phobl awtistig a gwrando arnynt fod cryn bellter i’w deithio o hyd ac nid wyf erioed wedi ceisio honni fel arall. Byddwn yn parhau i ofyn am adborth ar ein diwygiadau ac i fynd i'r afael â rhwystrau gwirioneddol i wella. Felly, rydym yn gwrando ar bryderon rhanddeiliaid a gasglwyd trwy werthuso a thrwy graffu ar y Bil awtistiaeth a'r ymgynghoriad diweddar ar y cod awtistiaeth.
Yn ddiweddar, cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr o golegau brenhinol i drafod y pwysau parhaus ar wasanaethau iechyd. Ac mae'r heriau hynny i’r gweithlu yn real, ac nid ydynt yn hawdd eu datrys, ond mae gennym gynllun ac rydym yn gwneud mwy o gynnydd. Rwyf am weld cyflymder a maint y gwelliant hwnnw'n parhau i gynyddu, a thryloywder ynghylch y cynnydd a wnaethom a'r heriau sy'n dal i fodoli. Felly, rwyf wedi comisiynu adolygiad ychwanegol ar y rhwystrau parhaus i leihau amseroedd aros asesu ac alinio gwasanaethau awtistiaeth a niwroddatblygiadol ac unwaith eto, byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad hwnnw cyn gynted ag y bydd ar gael. Rwy'n disgwyl iddo fod ar gael dros yr haf.
Mae'n cadarnhau i mi, fodd bynnag, y pryderon a glywais yn uniongyrchol gan deuluoedd a grwpiau cymorth awtistiaeth ynghylch galw a chapasiti o fewn y gwasanaethau asesu plant ac oedolion. Mae'n amlwg fod angen clir i ddeall yn fanwl sut y mae'r pwysau'n effeithio ar wasanaethau cyfredol, ac wrth hynny, rwy'n golygu gwasanaethau awtistiaeth a gwasanaethau iechyd meddwl cysylltiedig a gwasanaethau plant. Felly, byddwn yn gwneud y gwaith hwn gyda'n partneriaid dros y flwyddyn nesaf. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion am ein cynlluniau ar ôl iddynt gael eu cwblhau.
Yn olaf, rydym yn datblygu ein rhaglen gwella awtistiaeth trwy gyflwyno cod ymarfer awtistiaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Yn gynharach eleni, cynhaliwyd ymgynghoriad ar ein cynigion. Cynhaliwyd saith digwyddiad ymgysylltu ledled Cymru gyda'r gymuned awtistig a chawsom 65 o ymatebion ysgrifenedig. Cyhoeddais grynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad yr wythnos diwethaf ac rwy'n falch fod cefnogaeth dda i'n dull gweithredu yn gyffredinol. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys pobl awtistig eu hunain wrth gwrs, i ddatblygu'r cod. Bydd hyn yn cynnwys archwilio'r holl argymhellion a wnaed drwy adroddiadau pwyllgorau, ein gwerthusiad, ymgynghoriadau diweddar, a mapio ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r cod ymarfer drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Mae'n hanfodol fod y cod awtistiaeth yr ydym yn ei gyflwyno yn gyflawnadwy, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau y disgwylir iddynt gyflawni'r dyletswyddau y mae'n eu cynnwys yn gallu gwneud y gwaith heb niweidio gwasanaethau eraill y bydd pobl eraill yn parhau i ddibynnu arnynt. Bydd y gwaith yr ydym yn ei gychwyn yn awr yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol ar gyllid mwy hirdymor ac ail-gyflunio gwasanaethau i bobl â chyflyrau niwroddatblygiadol a phobl awtistig. Rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig, fel y dywedais droeon yn y gorffennol, i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i wella ac i'r buddsoddiad hirdymor rwy’n cydnabod y bydd ei angen er mwyn gwneud i hynny ddigwydd.