– Senedd Cymru ar 17 Gorffennaf 2019.
Symudwn ymlaen at eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn imi alw ar y sawl sy'n gwneud y cynnig, a gaf fi ddweud fy mod wedi—mae llawer iawn o bobl am siarad ac felly rwyf wedi cyfyngu'r amser siarad ar gyfer Aelodau sy'n cefnogi sy'n dymuno siarad i dri munud, a buaswn yn ddiolchgar pe baech yn cadw at dri munud yn hytrach na'r pump arferol, neu i rai ohonoch, pum munud a mwy oherwydd eich bod yn meddwl nad wyf yn edrych ar y cloc. A hynny fel ein bod yn caniatáu i bawb gael eu cyfraniad. Felly, nid yw'n effeithio ar y sawl sy'n cynnig a chloi'r ddadl na'r sawl sy'n cynnig y gwelliannau. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7124 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar 1 Ebrill 2019.
2. Yn nodi ymhellach y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019.
3. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn rhoi’r Bil Awtistiaeth (Cymru) ar waith.
4. Yn cydnabod er bod adroddiad blynyddol y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod diffyg mesurau canlyniadau o fewn yr adroddiad ar gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2016.
5. Yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth awtistiaeth integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi awtistiaeth o ansawdd uchel drwy:
a) darparu cymorth a gwasanaethau digonol i bobl awtistig a'u teuluoedd sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt; sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais awtistiaeth drwy fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso awtistiaeth;
b) datblygu system fonitro glir a chyson er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;
c) egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau;
d) rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;
e) gweithio i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Diolch. Mae pobl yn cael eu geni gyda chyflyrau sbectrwm awtistiaeth gydol oes ac mae pobl awtistig yn gweld, yn clywed ac yn teimlo'r byd yn wahanol i bobl eraill. Os ydych yn awtistig, rydych yn awtistig am oes. Nid salwch neu glefyd yw awtistiaeth ac ni ellir ei wella. Yn aml, mae pobl yn teimlo bod awtistiaeth yn elfen sylfaenol o'u hunaniaeth. Mae ein cynnig yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, fod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd.
Mae'n nodi cyhoeddi'r gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac adroddiad terfynol y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig ym mis Ebrill, a gyhoeddwyd ar ddiwedd mis Mawrth, ac adroddiad blynyddol 2018-19 cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig y mis hwn, er ei fod yn cydnabod y diffyg mesurau canlyniadau yn yr adroddiad hwn ar gyflawni cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig 2016. Felly, mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cymorth awtistiaeth cynaliadwy hirdymor o ansawdd uchel, drwy weithredu argymhellion gwerthusiad mis Ebrill a sicrhau bod gwasanaethau'n cryfhau'r llais awtistig drwy symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth i rymuso pobl ag awtistiaeth, drwy ddatblygu system fonitro glir a chyson, drwy egluro trefniadau ariannu yn y dyfodol, a thrwy gyflawni'r blaenoriaethau gweithredu a amlinellwyd yn y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd, gan gynnwys cyfleoedd addysg a chyflogaeth.
Fel y mae'r pecyn cymorth, 'Ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn y gweithle', a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyngres yr Undebau Llafur, yn ei ddangos, gall gweithwyr awtistig ddod â manteision enfawr i'r gweithle. Er bod dogfennau Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfeirio at 'anhwylderau'r sbectrwm awtistig', mae'n well gan bobl awtistig y term 'cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth', a theimlir bod y term 'anhwylder' yn anghywir, yn stigmateiddio ac yn ddilornus—rhowch y gorau i'w ddefnyddio os gwelwch yn dda.
Fel y dywed ein cynnig hefyd, gresynwn fod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn gweithredu Bil Awtistiaeth (Cymru). Wrth wneud hynny, rydym yn adlewyrchu'r gofid a fynegwyd wrthym gan gymunedau awtistig ac awtistiaeth ledled Cymru. Fel y dywedais wrth gynnig Bil Awtistiaeth (Cymru) yn y Siambr ym mis Hydref 2016, ni fydd y gymuned awtistiaeth yn cael y cymorth y gwyddant fod ei angen arnynt hyd nes y ceir sail statudol ac atebolrwydd a'n bod yn symud y tu hwnt i ymgynghori i rôl uniongyrchol ar gyfer cyrff proffesiynol a thrydydd sector a'r gymuned awtistig o ran cynllunio, cyflwyno a monitro.
Mae'n rhaid i fy staff a minnau bwysleisio dro ar ôl tro i gyrff cyhoeddus, pan na roddir digon o amser i berson awtistig brosesu gwybodaeth, y gall hynny arwain at wneud iddynt deimlo'n bryderus ac yn y sefyllfa waethaf, gallant golli arni, a chan fod pobl awtistig efallai'n orsensitif i rai synhwyrau, a heb fod yn ddigon sensitif i rai eraill, a chyfuniad o'r ddau yn aml, gall hyn achosi poen a gorlwytho synhwyraidd iddynt, gan arwain at wneud iddynt golli arni, a bod newid i drefn a strwythur yn gallu bod yn drallodus iawn i bobl awtistig. Felly mae'n ddyletswydd ar y gwasanaethau cyhoeddus i sefydlu ac addasu i anghenion cymdeithasol a chyfathrebu person awtistig, adnabod yr hyn sy'n achosi pryder cynyddol yn y person awtistig neu'n peri iddynt golli arni, ac felly osgoi trin y person awtistig fel y broblem.
Fel y dyfarnodd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn ddiweddar ynghylch gwahardd disgybl awtistig ifanc yr wyf wedi gweithio gydag ef o'r ysgol, roedd y gwaharddiad ei hun yn wahaniaethol. Fel y dywedodd rhieni myfyriwr awtistig wrthyf yn ddiweddar, roedd eu merch wedi cael rhybudd ysgrifenedig terfynol am ymddygiad annerbyniol ar ôl dychwelyd i goleg addysg bellach a chanfod ei bod wedi cael y cyfarwyddiadau anghywir ynglŷn â pha ystafell i fynd iddi, er bod y coleg yn gwybod ei bod yn ei chael hi'n anodd rheoli newidiadau yn y drefn arferol neu drefniadaeth. Fel y clywais gan fam i fyfyriwr awtistig yn yr un coleg, a gyflawnodd hunanladdiad y llynedd, 'Roedd i'w weld yn ddyn ifanc tawel, disglair; nid ydynt yn gweld y frwydr y mae'r plant hyn yn ei hymladd yn ddyddiol i oroesi mewn byd niwronodweddiadol'.
Mae gwerthusiad mis Ebrill yn cydnabod nifer o welliannau o ran darparu gwasanaethau cymorth awtistiaeth yng Nghymru yn dilyn cyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Fodd bynnag, dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, er bod y gwerthusiad yn gam cadarnhaol ymlaen i weld amlinelliad mor gynhwysfawr o ble'r ydym yng Nghymru, mae hefyd yn rhoi darlun clir o ble mae angen i welliannau ddigwydd yn awr. Mae'r rhain yn cynnwys y ffaith nad oes unrhyw adroddiadau clir ar y dulliau monitro a ddatblygwyd ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig; nid yw'n ymddangos bod gan bobl awtistig, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ffydd fod yna ddigon o wasanaethau a chymorth ar gael i ddiwallu'r ystod eang o anghenion a all fod gan bobl awtistig; fod y ffocws ar y gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi bod ar draul ymrwymiadau eraill, megis gwella canlyniadau cyflogaeth pobl awtistig; a bod angen mynd i'r afael â'r diffyg eglurder ynghylch cynaliadwyedd ac ariannu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn y dyfodol.
Canfu'r gwerthusiad anghysonderau ar draws ardaloedd daearyddol sy'n effeithio ar effeithiolrwydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig, pryderon nad yw'r gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr y gwasanaeth oherwydd oedi wrth ei sefydlu, a bod defnyddwyr eisiau i'r gwasanaeth wneud mwy, gan gynnwys gweithio'n uniongyrchol â phlant, nad yw'n rhan o'i gylch gwaith. Roeddent yn dweud bod defnyddwyr y gwasanaeth yn aml heb fod yn glir pa gymorth y gall y gwasanaeth awtistiaeth integredig ei ddarparu, a'u bod yn aml yn teimlo'n rhwystredig pan na allant gael gafael ar y gwasanaeth cymorth sydd ei angen arnynt. Er mai'r bwriad ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig oedd ategu a chryfhau ond nid disodli gwasanaethau presennol, canfu nad oedd rhai rhanddeiliaid yn rhannu'r farn hon, a bod amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau a diagnosis i oedolion wedi cynyddu'n helaeth, gyda'r gwasanaeth newydd yn datgelu galw mawr nas diwallwyd yn flaenorol.
Mae'n peri pryder nad yw adroddiad blynyddol y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig 2018-19 yn darparu fawr o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd yn gweithredu argymhellion gwerthusiad annibynnol mis Ebrill, gan awgrymu yn lle hynny y bydd y rhan fwyaf o'r argymhellion, ac rwy'n dyfynnu, 'yn cael eu hystyried'. Mae'r adroddiad hwn yn amwys yn ei gynigion i roi cymorth ariannol i ddatblygu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r terfyn amser presennol, er gwaethaf pryderon eang gan ddefnyddwyr gwasanaethau, rhanddeiliaid a'r gwasanaethau awtistiaeth integredig eu hunain. Ac er ei fod yn nodi bod data o ansawdd da yn hanfodol i ddeall effaith diwygiadau i wasanaethau ac i gynllunio gwasanaethau awtistiaeth yn y dyfodol, mae adroddiad Llywodraeth Cymru yn methu darparu digon o wybodaeth ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid gwasanaethau awtistiaeth fel y gwasanaeth awtistiaeth integredig, y tîm awtistiaeth cenedlaethol, byrddau partneriaeth rhanbarthol a byrddau iechyd lleol yn casglu data a sut y caiff data ei ddefnyddio wedyn i lywio'r broses o gynllunio gwasanaethau.
Wel, bydd maniffesto 2021 y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys cynigion cyllido pendant ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth cynaliadwy digonol yng Nghymru, gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio gyda'r cymunedau awtistig ac awtistiaeth, ac rydym yn annog y pleidiau eraill i wneud yr un peth. Er bod yn rhaid i ni roi sicrwydd i bobl awtistig a'u teuluoedd, mae'r diffyg gwybodaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn peri pryder. Mae gwirfoddolwr awtistig gyda'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yng ngogledd Cymru wedi gofyn i mi rannu ei bryder, er y gallai'r gwasanaeth fod yn bŵer er daioni, y gallai greu mwy o fylchau yn y pen draw, fod mwy o bobl yn cael eu hasesu ond nad oes unman iddynt fynd wedyn, fod ei weithiwr cymdeithasol wedi achosi problem enfawr drwy ddweud pethau a methu glynu atynt, fod angen inni wneud hyn yn iawn y tro cyntaf, nid achosi i bethau waethygu, sy'n cynyddu'r pwysau ar wasanaethau, a bod angen cynnwys pobl awtistig yn weithredol bob dydd.
Dywedodd unigolyn awtistig arall sy'n ymwneud â'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yng ngogledd Cymru wrthyf fod yna agweddau cadarnhaol a negyddol i'r gwasanaeth ar y cyfan. Gall rhai o'r pethau negyddol, meddai, gael eu hunioni'n hawdd drwy well cyfathrebu a hyfforddiant. Fodd bynnag, fe ychwanegodd, 'Nid wyf yn credu bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion y rhan fwyaf o unigolion awtistig, gan gynnwys mewn perthynas â chymorth ymarferol, cymorth gyda threfniadau ariannol, sefydliadau, sgiliau, ac ati.' A dywedodd, 'Er mwyn iddo lwyddo, credaf fod angen i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ddatblygu gwasanaethau sy'n bwrpasol i'r gymuned awtistiaeth, gan gynnwys asesiadau "beth sy'n bwysig", sgyrsiau sy'n canolbwyntio'n unigol ar rymuso cleientiaid a dewisiadau cleientiaid.'
Dywedodd gweithiwr proffesiynol ym maes awtistiaeth fod cyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi rhoi straen ychwanegol ar wasanaethau'r sector gwirfoddol i gefnogi pobl cyn ac ar ôl diagnosis, gyda gwasanaethau eiriolaeth mewn perygl o chwalu, ac nad oedd dyfnder i'r deunyddiau hyfforddi a roddwyd iddi gan ASDinfoWales a'i bod wedi gorfod creu ei deunydd ei hun i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r cyflwr ac atal arwahanrwydd. Yn ogystal â bod yn weithiwr proffesiynol, mae ganddi flynyddoedd o brofiad bywyd.
Dywedodd aelodau o'r gymuned awtistiaeth yng ngogledd Cymru wrthyf fod y gwasanaeth awtistiaeth integredig i'w weld yn synnu ac mewn penbleth nad yw menywod a merched yn cyd-fynd â'r meini prawf a ddefnyddir yn gyffredinol ar gyfer bechgyn a dynion, a bod llawer o rieni awtistig plant awtistig o dan anfantais ddifrifol wrth ymdrin ag addysg, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, am nad yw'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn darparu gwaith uniongyrchol gyda phlant. Ac fel y dywedodd elusen sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ar y sbectrwm wrthyf, nid yw'r cyllid yn canolbwyntio ar y meysydd pwysicaf a'r bylchau yn y ddarpariaeth, gan gynnwys hyfforddiant awtistiaeth i ysgolion ar gyfer yr holl staff, adnoddau mewn ysgolion, gweithgareddau penodol ar gyfer awtistiaeth a chlybiau, cymorth i rieni ar adegau o argyfwng, gwasanaethau seibiant i deuluoedd, a chymorth allanol i deuluoedd. Dyna lle dylai'r £13 miliwn fod yn mynd.
Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, er bod awtistiaeth eisoes yn dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn yr un modd ag y mae cyflyrau niwroamrywiol eraill, megis dyslecsia. Mae'n peri gofid fod gwelliannau Llywodraeth Cymru yn osgoi'r galwadau yn y gwerthusiad annibynnol a gomisiynwyd ganddynt i fynd i'r afael â gwendidau'r gwasanaeth awtistiaeth integredig fel mater o frys, gan gynnwys, meddent, diffyg data cyhoeddedig a diffyg eglurder ynghylch y model cyllid hirdymor. Gwrandewch ar y gwerthusiad a gomisiynwyd gennych a'r argymhellion ar sail tystiolaeth a wnaed ganddynt.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu, er mwyn i bobl ag awtistiaeth gael y gwasanaethau gorau posibl, fod angen ystyried niwroamrywiaeth fel mater cydraddoldeb ynddo'i hun, a bod cael ymennydd nad yw'n niwronodweddiadol yn dod yn nodwedd warchodedig o dan ddeddfwriaeth cydraddoldebau, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb yn unol â hynny.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn, ac mae pawb ohonom ar y meinciau hyn yn ddiolchgar iawn i'r grŵp Ceidwadol am ddewis y pwnc pwysig hwn ar gyfer eu dadl. Hoffwn gysylltu fy hun â llawer o'r hyn y mae Mark Isherwood wedi'i ddweud, ac ni thrafferthaf y Siambr na chymryd amser i'w ailadrodd, ond credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn deall, pa newidiadau bynnag a pha wasanaethau bynnag a ddarperir, fod yn rhaid i leisiau pobl sy'n niwroamrywiol, gan gynnwys pobl awtistig, fod yn ganolog i hynny. Rhaid inni fod yn siŵr ein bod yn darparu'r gwasanaethau y mae pobl eu heisiau ac angen eu defnyddio, ac nid dim ond darparu'r gwasanaethau sy'n hawdd ac yn gyfleus i'r rheini sy'n darparu'r gwasanaethau, a dyna'r risg bob amser.
Rydym yn rhannu'r gofid nad aeth y ddeddfwriaeth a gynigiwyd gan Paul Davies yn ei blaen. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod, yn y broses honno, nad oedd y ddeddfwriaeth yn berffaith—nid oedd yn orffenedig—ond roedd yr Aelod wedi dweud yn glir iawn fod ganddo ddiddordeb mewn edrych ar welliannau a newidiadau, pe bai'r ddeddfwriaeth wedi cael caniatâd i symud ymlaen. Ac i ddod yn ôl at y pwynt a wneuthum ynglŷn â gwrando ar leisiau pobl awtistig a'u teuluoedd, mae'n amlwg iawn i ni eu bod yn teimlo bod angen rhoi'r amddiffyniadau hyn ar sail statudol, eu bod angen gwybod beth y gallent ei ddisgwyl gan wasanaethau, a'u bod angen hawliau y gellid eu gorfodi. Nawr, wrth gwrs, nid dyna oedd y farn gyffredinol o reidrwydd, ond yn sicr dyna oedd yr ymateb ysgubol a gefais fel aelod o'r pwyllgor iechyd ac o fy rhanbarth fy hun.
Fe siaradaf yn fyr, os caf, Ddirpwy Lywydd, am welliant 1. Rydym yn credu bod angen i niwroamrywiaeth fod yn nodwedd warchodedig yn ei hawl ei hun. Soniaf yn gryno pam, a bydd fy nghyd-Aelod Leanne Wood yn dweud mwy yn y man. Oherwydd nid yw'n hollol gywir inni ddweud bod y Ddeddf yn cwmpasu'r cyflyrau hyn yn llawn, oherwydd er mwyn iddynt gael eu cynnwys yn llawn yn y Ddeddf fel y mae, rhaid i bobl ddangos eu bod, mewn rhyw ffordd, yn cael eu hanalluogi gan eu cyflwr, ac mae llawer o bobl yn y gymuned, wrth gwrs, nad ydynt yn ystyried eu hunain yn anabl yn yr ystyr hwnnw, ond maent yn gwybod eu bod yn destun gwahaniaethu am fod yn pwy ydynt. Diogelir rhai pobl niwroamrywiol o dan yr elfen anabledd, ond mae llawer hefyd yn dewis peidio â datgelu eu niwroamrywiaeth yn y gweithle am eu bod yn ofni cael eu stereoteipio mewn rhyw ffordd fel pobl ryfedd a dod yn destun gwahaniaethu. Felly, credwn y byddai categori niwroamrywiaeth penodol yn y ddeddfwriaeth yn helpu i fynd i'r afael â'r pethau hynny, a byddai hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr, oherwydd mae hon, wrth gwrs, yn her y mae pobl yn ei hwynebu yn eu bywydau ac yn eu cyfathrebu—nad yw bob amser yn bosibl ei gweld yn glir. Felly, credwn fod angen cynnwys niwroamrywiaeth fel nodwedd warchodedig ar wahân a phenodol o dan y Ddeddf cydraddoldeb, er y byddai'n well gennym, wrth gwrs, pe bai pwerau cydraddoldeb yn dod yma i'n Senedd, fel y gallem ddeddfu yma ar hyn a phob mater arall sy'n ymwneud â chydraddoldeb.
Rwyf am orffen yr hyn rwy'n mynd i'w ddweud, Ddirprwy Lywydd, gydag ychydig o sylwadau am welliannau'r Llywodraeth. Mae'n rhwystredig eu bod, fel sy'n digwydd yn rhy aml, yn awgrymu bod pethau naill ai'n iawn fel y maent, neu y byddant yn iawn yn fuan, ac mae'n amlwg nad ydynt, fel y gall bag post etholaethol pawb ddweud wrthych. Maent yn cynnig ystyried mwy yn lle'r galwadau clir i weithredu yn y cynnig gwreiddiol. Nawr, nid oes neb am i bobl ruthro a gwneud penderfyniadau anghywir, ond fel y mae Mark Isherwood wedi'i nodi, mae'r wybodaeth hon wedi bod gyda'r Gweinidog ers tri neu bedwar mis bellach, ers mis Ebrill. Faint yn hwy y mae angen inni ystyried, a phryd y gall pobl weld gweithredu'n digwydd?
Ac yna wrth gwrs gwelwn y symud cyfrifoldeb arferol i Lywodraeth y DU am ran o'r broblem. Nawr, nid oes neb ar y meinciau hyn, a minnau'n enwedig, yn mynd i fod eisiau dweud pethau caredig am y Llywodraeth Geidwadol hon, ac rwy'n siŵr ei bod yn rhwystredig iawn i Lywodraeth Cymru nad ydynt yn gwybod eto beth yw eu cyllideb, ond rwy'n teimlo nad oes urddas mewn gwthio'r cyfrifoldeb i rywle arall. Yn y pen draw, mae pobl awtistig eisiau gwybod beth y bwriadwn ei wneud. Nid ydynt eisiau gweld y bai'n cael ei drosglwyddo i rywle arall—er mor haeddiannol y gallai hynny fod. Mae hwn yn batrwm rwy'n gweld gormod ohono a dweud y gwir, gyda gwelliannau'r Llywodraeth o rai cylchoedd i gynigion y gwrthbleidiau. Os nad ydych yn cytuno, pleidleisiwch yn ei erbyn—mae hynny'n iawn. Ond rwy'n herio pwrpas ei ddiwygio cymaint nes eich bod yn ei wneud yn ddiystyr.
I ddychwelyd at yr agenda hollbwysig hon, os ydym am wneud cynnydd arni, byddem yn elwa o rywfaint o onestrwydd ar bob ochr ynghylch yr heriau. Mae mawr angen hynny. Ni allwn sicrhau bod pob person awtistig ac unigolyn niwroamrywiol arall yn ein gwlad yn cael eu galluogi a'u cynorthwyo i fyw bywydau ar eu llawnaf os ydym yn esgus bod popeth yn iawn yn awr. Cymeradwyaf welliant 1, a byddwn yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio gan welliannau'r Llywodraeth.
Diolch. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu pwynt 3 ac ailrifo’n unol â hynny.
Gwelliant 3—Rebecca Evans
Ym mhwynt 6, dileu popeth ar ôl is-bwynt a, a rhoi yn ei le:
adeiladu ar y gwaith monitro sy’n bodoli o fewn gwasanaethau er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;
egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, unwaith y byddwn wedi cael yr eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â’n setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i hynny;
rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;
gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig.
Yn ffurfiol.
Diolch. Mohammad Asghar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddwy flynedd yn ôl, siaradais yn y Cynulliad hwn o blaid cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn am ganiatâd i gyflwyno Bil awtistiaeth. Byddai ein Bil awtistiaeth arfaethedig wedi gwneud darpariaeth ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion â chyflwr sbectrwm awtistig. Ei nod oedd diogelu a hyrwyddo hawliau tua 34,000 o bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru. Y ffaith amdani yw nad yw llawer o ddioddefwyr awtistiaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i'w helpu i fwrw ymlaen â'u bywydau. Maent yn wynebu heriau wrth geisio cael gafael ar wasanaethau cyflogaeth, addysg, iechyd a thai. Mae hyn yn ei gwneud hi'n fwyfwy anodd iddynt fyw bywyd annibynnol. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i bleidleisio yn erbyn ein cynnig yn destun gofid mawr.
I fod yn deg, mae'r ddarpariaeth o wasanaethau i bobl ag awtistiaeth yng Nghymru wedi gwella'n ddiweddar, ond mae'r anghysonderau'n codi amheuon ynglŷn â'r—. Mae'n ddrwg gennyf. Fodd bynnag, mae'r gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a'r cynllun gweithredu awtistiaeth ar ei newydd wedd—. Mae adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dweud bod nifer o anghysonderau yn y cymorth a ddarperir ar hyn o bryd. Mae'r anghysonderau hyn yn codi amheuon ynglŷn ag effeithiolrwydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn darparu cymorth digonol i ddefnyddwyr gwasanaethau a grymuso pobl ag awtistiaeth yn ogystal ag ymwybyddiaeth o awtistiaeth.
Y dyddiau hyn, mae defnyddwyr gwasanaethau'n aml yn aneglur ynghylch pa gymorth y gall y gwasanaeth awtistiaeth integredig ei ddarparu. Yn aml, maent yn teimlo'n rhwystredig pan na allant gael gafael ar y gwasanaeth cymorth sydd ei angen arnynt. Ddirprwy Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru egluro pa wasanaethau y gall pobl ag awtistiaeth eu disgwyl, a rhaid iddi asesu a oes angen ehangu gwasanaethau i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau'n cael y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn cyflawni ymrwymiad a nodwyd i gymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau neu wendidau yn y ddarpariaeth. Mae arnom angen ymrwymiad i lunio adolygiad rheolaidd o gynnydd y gwasanaethau y gall pobl ag awtistiaeth eu disgwyl, fel bod darparwyr gwasanaethau'n darparu lefel gyson o ofal.
Ceir anghysonderau hefyd yn y cymorth y mae pob gwasanaeth awtistiaeth integredig rhanbarthol yn ei ddarparu. Mae hyn wedi creu loteri cod post mewn gwasanaethau. Ceir llawer o wasanaethau awtistiaeth rhanbarthol sy'n methu cydymffurfio â'r holl safonau cenedlaethol. Lywydd, rwy'n dal i gredu bod angen cefnogaeth statudol arnom i amddiffyn hawliau pobl awtistig a chodi ymwybyddiaeth o gyflwr cymhleth. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu'r argymhelliad sydd yn y cynllun cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Rwy'n cefnogi'r cynnig.
Gofynnais i aelodau grŵp y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ym Mlaenau Gwent drafod y ddadl hon y prynhawn yma, a gofyn iddynt beth oedd eu barn am rai o'r gwasanaethau yr oeddent yn eu cael. Rhaid imi ddweud y dylai eu sgwrs, a glywais dros amser cinio, wneud i bawb ohonom oedi a meddwl am realiti'r gwasanaethau y mae gormod o bobl yn eu cael.
Treuliwn gryn dipyn o amser yn sôn am y pwysau ar gyllidebau addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ond yn aml iawn, soniwn am hynny mewn modd haniaethol. Y bore yma, gwelsom yn glir iawn sut y mae hynny'n effeithio ar bobl ac ar blant. Ym Mlaenau Gwent, mae'n amlwg fod diffyg cyfathrebu gwirioneddol ar ran yr awdurdod lleol. Mae'r awdurdod lleol yn gwneud camgymeriadau'n aml gyda'r wybodaeth a ddarperir. Caiff negeseuon e-bost eu hanwybyddu. Ni cheir adborth yn ystod prosesau, a phrin yw'r adborth na'r ymateb i negeseuon e-bost. Mae pobl yn teimlo nad ydynt yn bwysig ac nad yw'r awdurdod yn malio. Mae hwnnw'n ddarlun gwarthus o'n hawdurdod lleol.
Yn rhy aml—ac rwyf wedi gweld hyn yn fy llwyth achosion fy hun—er mwyn mynd i'r ysgol leol ym Mhen-y-Cwm, mae'n cymryd gormod o amser, ac mae pobl a phlant yn aros yn llawer iawn hwy nag y dylent ei wneud i gael yr addysg y mae arnynt ei hangen ac y maent yn ei haeddu. Pan sefais o flaen y lle hwn fel Gweinidog a oedd yn gyfrifol am anghenion dysgu ychwanegol, rhoddais addewid i bob Aelod y byddem yn darparu'r cyfle addysgol gorau posibl i bob plentyn ac i bob person ifanc. Rhaid inni gyflawni hynny drwy sicrhau bod yr adnoddau a'r strwythurau sy'n darparu'r adnoddau hynny ar gael i bobl. Nid yw'n rhywbeth y gallwn ddymuno iddo ddiflannu ar ei ben ei hun.
Yn rhy aml, mae meddygon teulu fel pe baent yn ansicr ynghylch y ffyrdd priodol o gael cymorth, ac nid yw meddygon teulu yn deall beth y dylid ei ddarparu i'r plant neu'r bobl ifanc a welant. Dywedir wrth bobl y gallent roi cynnig ar gyffuriau gwrthseicotig i weld a fydd hynny'n gweithio, a dod yn ôl ymhen ychydig wythnosau os nad yw'n gweithio. Yn rhy aml, mae'r broses gyfan o gael cymorth a gwasanaethau gan gyrff cyhoeddus yn ddryslyd. Mae pobl yn teimlo eu bod ar goll yn y system. Nid yw pobl yn deall ble i ofyn am help a chymorth. Yn rhy aml clywn straeon, fel arfer gan famau sy'n sôn am yr hyn y maent yn mynd drwyddo wrth geisio darparu'r gwasanaethau a'r cariad a'r gefnogaeth i'w plant. Teimlai un ddynes y bore yma fod yn rhaid i rieni gyrraedd pwynt argyfwng gwirioneddol i allu cael unrhyw gymorth. Roedd ei mab yn hunan-niweidio ac yn ceisio cyflawni hunanladdiad, a bu'n rhaid iddi ffonio'r heddlu ar sawl achlysur. Nid oedd y gwasanaethau yno o gwbl.
Mae pontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion hefyd yn gyfnod anodd, ac weithiau'n drawmatig—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ni wnaf dderbyn ymyriad am fod amser yn fy erbyn ar hyn, ond rwy'n gobeithio y caiff yr holl Aelodau eraill gyfle i siarad.
Yr hyn y gobeithiaf y gallwn ei wneud y prynhawn yma, Weinidog, yw taflu goleuni ar realiti'r straeon hyn. Pleidleisiais gyda'r Llywodraeth ym mis Ionawr ar fater Bil awtistiaeth, ac yn ddeallusol nid wyf wedi fy argyhoeddi gan y ddadl o'i blaid. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Llywodraeth ein bod wedi rhoi addewidion difrifol iawn i bobl y wlad hon, ac os nad ydym yn gallu cyflawni'r ymrwymiadau hynny, a darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, byddaf yn cefnogi deddfwriaeth i sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus yn cydweithio i ddarparu'r gwasanaethau hynny yn y dyfodol.
Amcangyfrifir bod tua 1 o bob 7 o bobl, mwy na 15 y cant o boblogaeth y DU, yn niwrowahanol, sy'n golygu bod yr ymennydd yn gweithredu, yn dysgu ac yn prosesu gwybodaeth yn wahanol. Mae gwahanol bobl yn cael profiad gwahanol o niwroamrywiaeth. Felly, mae'n bwysig nad yw pobl yn cael eu stereoteipio yn ôl y nodweddion mwy adnabyddus. Ni fydd pob person awtistig, er enghraifft, yn dda am wneud mathemateg neu'n meddu ar ryw fath o ddawn gudd. Math o amrywiaeth ddynol yw niwroamrywiaeth. Nid oes y fath beth â math 'normal' neu 'iach' o ymennydd, yn union fel nad oes y fath beth â rhyw neu hil neu ddiwylliant normal neu iach. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol o'u mewnflychau o'r mathau o wahaniaethu y gall pobl awtistig eu hwynebu. Dyna'r gwahaniaethu yr ydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef drwy ein gwelliant y prynhawn yma.
Mae Plaid Cymru eisiau gweld niwrowahaniaeth yn dod yn nodwedd warchodedig ar wahân. Gallech ddadlau bod y Ddeddf cydraddoldeb, i ryw raddau, eisoes wedi cynnig rhywfaint o amddiffyniad cyfyngedig i niwrowahaniaeth, gan y gallai ddod o dan gategori mwy cyffredinol anabledd, ond mae hynny'n achosi problemau, a hoffwn egluro pam. Er mwyn cael amddiffyniad o dan y Ddeddf hon, byddai angen i berson gael diagnosis, ac mae pawb ohonom yn gwybod y gall hynny gymryd llawer o amser, a byddai angen prawf arnynt fod y cyflwr yn amharu'n sylweddol ar weithgareddau o ddydd i ddydd. Ni ddylid edrych ar y cwestiwn hwn drwy lens anabledd. Nid yw niwrowahaniaeth o reidrwydd yn amharu ar rywun. Gyda'r cymorth cywir, gall pobl ffynnu. Mae'n ymwneud â deall ac addasu, nid ag anabledd o anghenraid.
Mae'r Ddeddf cydraddoldeb yn mynnu prawf y byddai ymddygiad neu amgylchiad yn gwahaniaethu yn erbyn person nodweddiadol sydd â'r cyflwr hwnnw, ac mae hynny'n anodd ei orfodi ar gyfer niwroamrywiaeth gan fod pob cyflwr yn effeithio ar unigolyn mewn ffordd unigryw. Nid yw labelu rhywbeth fel anawsterau dysgu, fel sy'n digwydd yn aml, o gymorth. I lawer o bobl, mae'r term yn gysylltiedig â phlant, ac ni fydd llawer o weithwyr niwrowahanol, er enghraifft, yn ei chael hi'n anodd dysgu sgiliau newydd neu ddeall cysyniadau newydd. At hynny, nid oes dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol os nad yw'r cyflogwr yn gwybod neu os na ellid disgwyl yn rhesymol iddynt wybod bod person yn anabl yn ystyr y Ddeddf. Fodd bynnag, nid yw bron i dri chwarter y gweithwyr niwrowahanol yn datgelu eu cyflwr rhag ofn iddynt wynebu gwahaniaethu, ac mae hanner yr holl weithwyr sy'n datgelu eu cyflwr yn difaru gwneud hynny yn ddiweddarach. A dyna'n union pam y dylai'r gwahaniaethu hwn gael ei wahardd. Mae pob siaradwr sydd yma y prynhawn yma'n derbyn na all y status quo barhau. Rydym i gyd yn cydnabod sut y mae pobl yn cael cam gan ein gwasanaethau cyhoeddus a chan ein cymdeithas gyfan. Rhaid inni roi'r gorau i ddal ati i ddim ond dweud hynny. Fe wnaeth pob un ohonoch ar ochr y Llywodraeth bleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth a oedd ar gael inni ar hyn o'r blaen. Mae arnom angen gweithredoedd yn awr, nid geiriau. Pryd y cawn ni eu gweld?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac roedd hi'n fraint cael cyfle i gyflwyno cynigion ar gyfer deddfwriaeth awtistiaeth. Ac er nad oedd y canlyniad yr hyn yr oedd llawer ohonom wedi gobeithio amdano, mae'r gymuned awtistiaeth a minnau'n gallu cael rhywfaint o gysur o'r ffaith bod awtistiaeth ar frig agenda'r Cynulliad am gymaint o amser. Nawr, nid wyf yn dweud am eiliad ers fy Mil arfaethedig nad oes peth gwaith da'n cael ei wneud ar draws Cymru, oherwydd mewn rhai meysydd gwelwyd cynnydd da. Fodd bynnag, y broblem o hyd yw bod arferion da i'w gweld mewn rhai rhannau o'r wlad, ond mewn rhannau eraill, mae'r gwasanaethau'n wael ac amseroedd aros annerbyniol o uchel cyn cael diagnosis. I mi dyna oedd y rheswm canolog pam fod angen cyflwyno deddfwriaeth awtistiaeth yng Nghymru, ac mae'r optimist ynof yn gobeithio'n ddiffuant y bydd Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried deddfwriaeth os dangosir nad yw eu strategaethau presennol yn llwyddiannus.
Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, a bod yr adolygiad annibynnol diweddar wedi tynnu sylw at rai o'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud, ac rwy'n arbennig o falch o weld bod y gwasanaethau sefydledig yn gweithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ddatblygu ac addasu eu gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion a grwpiau. Fodd bynnag, dywedodd yr un adroddiad yn ddiweddarach fod y gwasanaethau sefydledig yn dal i wynebu heriau wrth reoli'r galw am asesiadau a diagnosis, felly mae'n amlwg fod angen gwneud llawer mwy o waith i fynd i'r afael â'r heriau penodol hyn. Gadewch inni gofio hefyd mai dim ond yn awr y mae'r bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng ngorllewin Cymru'n gweld gwasanaeth yn cael ei ddatblygu yn eu hardal, a bydd yn ddiddorol gweld sut y datblygir y gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd yn fy ardal i, a'r effaith a gaiff hyn o ran gallu fy etholwyr i gael gafael ar wasanaethau.
Un o'r pryderon eraill a glywais wrth siarad ag elusennau a mudiadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau cymorth i bobl ag awtistiaeth yw'r ffaith bod pobl yn cael eu cyfeirio atynt gan gyrff statudol heb eu bod yn cael unrhyw gymorth ariannol eu hunain. Dyma'r neges a gefais yn ddiweddar iawn pan ymwelais ag AP Cymru. Nawr, yn fy marn i, mae angen i hyn newid. Felly, hoffwn annog y Gweinidog i edrych ar hyn o ddifrif ac i newid y seilwaith ariannu i sicrhau bod y sefydliadau hyn, sy'n gwneud gwaith gwych yn cefnogi pobl awtistig, yn cael y cymorth ariannol y maent yn ei haeddu.
Un o brif fanteision y Bil awtistiaeth arfaethedig oedd y ffaith ei fod yn gosod gofyniad cyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth awtistiaeth. Y rhesymeg y tu ôl i hyn oedd y byddai'n sicrhau rhywfaint o sefydlogrwydd a chynaliadwyedd wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru. Y tu hwnt i gyfnod y cynllun gweithredu strategol diwygiedig ar gyfer awtistiaeth 2016-20, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd gwasanaethau awtistiaeth yn cael eu blaenoriaethu'n barhaus yng Nghymru. At hynny, gwyddom o ddeddfwriaeth awtistiaeth mewn rhannau eraill o'r DU fod angen deddfwriaeth i sicrhau na chollir y momentwm ar gyfer gwella. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r cynnig hwn ac yn edrych ar ffyrdd y gall sicrhau bod gwasanaethau awtistiaeth yn cael eu blaenoriaethu yn y dyfodol.
Ddirprwy Lywydd, er nad oedd fy ymgais i weld y Bil awtistiaeth arfaethedig yn cael ei basio yn y Siambr hon yn llwyddiannus, nid oes unrhyw reswm pam na all Llywodraeth Cymru gymryd agweddau arno a'u hymgorffori lle bo'n gymwys yn ei rhaglen ei hun ac yn wir, yn ei deddfwriaeth ei hun yn y dyfodol. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cod ymarfer, ac er nad yw'n mynd yn ddigon pell yn fy marn i, mae o leiaf yn dangos ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, pwysaf ar yr Aelodau i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma ac anfon datganiad i'r gymuned awtistiaeth ein bod yn gwrando ac yn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r heriau y mae pobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru yn eu hwynebu.
Rwy'n credu bod perygl ein bod ag ymagwedd gwydr hanner gwag drwy'r amser yn hytrach na chydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud o ganlyniad i'r drafodaeth a gawsom yn y Siambr ac mewn mannau eraill. Rwyf wedi ymweld â'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ar gyfer Caerdydd a'r Fro, sydd wedi'i leoli ym Mhenarth, ac rwy'n edmygu'n fawr y dull cydweithredol o weithredu gofal iechyd darbodus sydd ganddynt. Maent yn ofalus iawn i beidio â threulio gormod o amser ar wneud diagnosis o awtistiaeth yn unig, er mwyn sicrhau bod staff yn cael digon o amser i roi cymorth ac arweiniad i bobl ag awtistiaeth. Oherwydd nid yw gwneud diagnosis o awtistiaeth yn newid y broblem mewn gwirionedd; cymorth yw'r peth cwbl hanfodol.
Felly, rwy'n credu bod llawer o gynnydd wedi'i wneud, ac rwy'n credu bod angen i ni gydnabod hynny, ond mae angen i ni edrych ar y model staffio a chyllido ac i ba raddau y mae'n hyrwyddo partneriaeth â'r sector gwirfoddol, sy'n fater allweddol i mi er mwyn sicrhau, yn hytrach na datblygu model meddygol o ddarpariaeth, ein bod yn cryfhau'r model cymdeithasol, lle mae'n rhaid i gymdeithas newid, yn hytrach nag ychwanegu at restrau o faterion cydraddoldeb. Felly, dyna pam y buaswn yn gwrthwynebu gwelliant 1 Plaid Cymru.
Rwy'n falch iawn o ddarllen bod Estyn yn adrodd bod cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi gwella dealltwriaeth ysgolion a cholegau o anghenion dysgwyr ac wedi gwella'r berthynas ag aelodau o'r teulu a gofalwyr. Yn amlwg, mae'r rhaglen dysgu gydag awtistiaeth wedi gwella dealltwriaeth athrawon sy'n addysgu pobl ag awtistiaeth, ond mae'r nifer sy'n dilyn y rhaglen yn parhau'n anghyson. Felly, yn bendant, mae'n rhywbeth sy'n rhaid inni weithio arno. Ond wrth i ni symud fwyfwy oddi wrth osod safonau, sy'n cymell addysgu i basio'r prawf, ac yn canolbwyntio fwyfwy ar sut y mae ysgolion a cholegau'n ychwanegu gwerth at anghenion pob disgybl, rwy'n siŵr y bydd llawer mwy o sylw'n cael ei roi i ddysgu gydag awtistiaeth a gwneud yn siŵr eu bod yn cyflawni ar gyfer y plant hynny.
Yn yr amser byr sydd gennyf, roeddwn am siarad am ddau beth. Un yw bod arnaf eisiau tynnu sylw at brawf mwy addas i blant ar gyfer awtistiaeth sy'n cael ei ddatblygu yng Nghanada, lle maent yn defnyddio ffotograffau o wynebau i allu adnabod plant niwronodweddiadol, yn hytrach na phlant eraill sy'n rhan o'r astudiaeth. Mae'r plant hyn yn treulio llawer mwy o amser yn astudio'r geg a llai o amser yn edrych ar lygaid y lluniau hyn, ac mae'n profi'n brawf llawer mwy cywir o awtistiaeth. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn pan fyddwn yn ymdrin â phlant, oherwydd nid yw cael seicolegwyr a holiaduron yn eu hasesu yn rhywbeth y bydd plant yn teimlo ei fod yn ddefnyddiol—yn wir, mae'n frawychus.
Yn ail, wrth ddatblygu'r model cymdeithasol, hoffwn gymeradwyo siop GAME yng nghanolfan siopa Dewi Sant, sy'n gweithio gyda phobl ag awtistiaeth, gan roi hyfforddiant ymwybyddiaeth iddynt a chynnal nosweithiau cyfeillgar i bobl awtistig bob deufis, ar adegau pan fydd y ganolfan siopa a'r siop yn dawel, gan wneud i bobl ag awtistiaeth deimlo'n llawer mwy cyfforddus ynglŷn â mynd i'r siop a chymryd rhan yn eu gemau. Mae hon yn un o ddim ond pedair ardal yn y DU sydd wedi'u dewis ar gyfer y treial hwn. Felly, rwy'n llongyfarch siop GAME yng nghanolfan Dewi Sant. Diolch.
Fel y gwyddom, mae awtistiaeth yn ystod o gyflyrau na chânt eu trafod yn ddigonol—un o'r rhesymau dros y diffyg dealltwriaeth sy'n parhau ynglŷn â'i effaith, felly mae bob amser yn braf cael cyfle fel hyn i drafod y cyflwr. Mae stigma ynghlwm wrtho o hyd ac mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i fynd i'r afael â hynny. Gall y diffyg dealltwriaeth, fel y gwyddom, arwain at ofn diagnosis o awtistiaeth neu efallai nad yw pobl yn cynnig cymorth oherwydd nad ydynt yn gwybod pa gymorth y gallai fod ei angen o bosibl. Roedd yn ddiddorol clywed yr hyn a oedd gan Jenny Rathbone i'w ddweud yn awr am y prawf ar gyfer awtistiaeth lle mae dioddefwyr posibl yn gweld wynebau ac yn edrych ar y cegau, rwy'n credu mai dyna a ddywedoch chi, yn fwy na'r llygaid. Mae ymchwil ddiddorol dros ben yn cael ei wneud yn y maes hwnnw.
Mae'r anwybodaeth gyffredinol ynglŷn ag awtistiaeth yn rhyfedd pan ystyriwch pa mor gyffredin yw awtistiaeth ym mhoblogaeth y DU. Fel y clywsom, mae angen cymorth ychwanegol ar bobl ag awtistiaeth, nid oherwydd eu cyflwr yn unig, ond oherwydd y diffygion yn y ffordd y mae cymdeithas yn ymateb i bobl â'r cyflwr hwnnw. Am drasiedi, ac un y gellir ei hosgoi, ac un y gallwn wneud llawer i fynd i'r afael â hi. Yn ôl y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, mae 70 y cant o blant awtistig wedi'u gwahardd o'r ysgol ar un adeg neu'i gilydd, mae tua hanner y rheini wedi cael eu hatal droeon, ar dri achlysur neu fwy, a dim ond 16 y cant o oedolion awtistig sydd mewn gwaith cyflogedig amser llawn, ac mae cyfran debyg mewn rhyw fath arall o waith cyflogedig. A ddylai awtistiaeth ei hun fod yn rhwystr i waith o reidrwydd? Wel wrth gwrs na ddylai. Mae'n rhaid i ni symud y tu hwnt i rai o'r syniadau hen ffasiwn am awtistiaeth.
Mae mwy nag un o bob tri oedolyn ag awtistiaeth yn profi heriau iechyd meddwl difrifol, ond unwaith eto, nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud yn uniongyrchol ag awtistiaeth, ond yn hytrach mae'n ymwneud â'r cymorth, neu'r diffyg cymorth, yr ydym ni fel cymdeithas yn ei gynnig i'r bobl hynny. Ar y pwynt hwn hoffwn sôn am waith amhrisiadwy grwpiau fel Mencap Cymru yn fy ardal, yng Nghas-gwent, sefydliad a fu'n gweithredu ers 40 o flynyddoedd ac sydd wedi cael llwyddiant mawr yn ymdrin â phobl ifanc ag ystod o anawsterau, yn cynnwys anawsterau dysgu, a nifer o bobl ag awtistiaeth ddifrifol hefyd. Ceir llawer o grwpiau eraill sy'n gweithio yr un mor galed ym mhob un o'n hetholaethau ac maent yn gwneud gwir wahaniaeth ar lawr gwlad, lle mae'n bwysig.
Mae llawer mwy y gallwn ei wneud i gefnogi pobl ag awtistiaeth, felly gadewch i ni edrych ar rai o'r pethau y gallwn eu gwneud. Fel y dywedodd Helen Mary Jones ac eraill, ac fel llawer o bobl ledled Cymru, rwy'n parhau'n siomedig ac yn rhwystredig ein bod wedi colli cyfle i ymgorffori hawliau pobl awtistig drwy Ddeddf awtistiaeth bwrpasol. Rwy'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru ei rhesymau dros ddweud bod llwybr arall i'w gymryd yn lle Deddf, ond rwy'n un o'r rhai sy'n credu y byddai Deddf yn helpu i wreiddio'r hawliau hynny yn y llyfr statud. Ac rwy'n gobeithio y bydd cyfle i Aelodau yn y dyfodol efallai i adfywio cynlluniau ar gyfer Bil awtistiaeth pwrpasol i Gymru.
Ond mae pethau eraill y gallwn eu gwneud i gefnogi pobl ag awtistiaeth, fel y dywedodd Paul Davies. Mae angen inni weld cynnydd ar gynllun gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer pobl ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig. Mae angen inni weld mesurau canlyniadau cliriach yn cael eu cyflwyno, a monitro mwy effeithiol.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, yn y cyfnod cyn 2021, rwy'n gobeithio y byddai pob plaid yma yn ymrwymo i ddiogelu cyllid ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn. Os daw pob un ohonom at ein gilydd ar y mater hwn, rwy'n credu y gallwn wneud y cynnydd y mae angen i ni ei weld.
Pan siaradais yn y ddadl ar y Bil ym mis Ionawr, crybwyllais y ffaith bod fy merch yn aros am ddiagnosis ar gyfer awtistiaeth, a chafodd y diagnosis hwnnw ym mis Chwefror. Yfory yw ei phedwerydd pen-blwydd, a rhai o'r pethau a ddywedais ar y pryd oedd: a fydd hi'n gallu aros yn yr ysgol; sut y gallaf ei helpu i oresgyn ei rhwystredigaeth nad yw'n gallu dweud wrthyf beth mae hi eisiau; a fyddwn ni byth yn gallu cael sgwrs; sut y gallwn fynd ati i'w dysgu sut i ddefnyddio toiled os nad yw'n deall y cysyniad; pwy all fy addysgu i i'w helpu hi; ac a fydd hi byth yn gallu dweud wrthyf ei bod hi'n fy ngharu? Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y gefnogaeth a gawsom wedi bod yn anhygoel. Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych. Rydym wedi mynychu gweithdai toiled fel rhieni ac mae'n cael cymorth iaith a lleferydd yn yr ysgol. Buaswn yn dweud bod yna oedi ac aros am hyfforddiant EarlyBird. Rydym yn dal i aros am hwnnw, ac rwy'n credu y byddwn yn aros am chwe mis ar ôl y diagnosis. Felly mae yna broblemau o hyd.
Pleidleisiais yn erbyn y Bil, ond gadewch i mi ddweud na fuaswn wedi pleidleisio gyda'r chwip. Pleidleisiais ar benderfyniad, ar ôl cael cyngor gan lawer o wahanol ffynonellau yn fy etholaeth. Cymerais gyngor gan y bwrdd iechyd, cymerais gyngor gan Ysgol Trinity Fields, a'r gwasanaeth sbectrwm awtistig clodwiw sy'n gweithredu yno. A daeth y Gweinidog i ymweld. Ac rwy'n credu bod llawer iawn o hyn—ac mae'n rhaid i mi ddweud, ac rwy'n siarad fel rhiant yn awr, rwy'n teimlo bod llawer iawn o hyn yn deillio o'r ffaith bod y pleidiau yn y Siambr wedi gwleidyddoli awtistiaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn teimlo felly ac rwy'n teimlo ei fod wedi cael ei fwydo—[Torri ar draws.] Mae Janet Finch-Saunders yn ysgwyd ei phen; fe waeddoch chi 'Cywilydd' arnaf pan ddywedais nad oeddwn i'n mynd i gefnogi'r Bil y tro diwethaf.
Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn rhan o hyn. Pan ddarllenais dudalen Facebook y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, darllenais rai o'r sylwadau'n syth ar ôl y ddadl, a dyma rai o'r sylwadau sy'n dal i fod ar y dudalen honno heddiw. Dyma'r hyn a ddywedasant amdanom ni fel Aelodau Cynulliad a bleidleisiodd yn erbyn y Bil: 'Rhowch blentyn awtistig iddynt neu blentyn ag anghenion arbennig a gweld sut y byddant yn pleidleisio bryd hynny.' 'Mae Llafur Cymru yn llwyth o—rheg. Nid ydynt yn malio dim am awtistiaeth ac unigolion a theuluoedd y mae'n effeithio arnynt.' Dywedodd rhywun arall: 'Enwch a chodwch gywilydd ar y—rheg—dideimlad a bleidleisiodd yn erbyn y Bil hwn.' Ac roedd yna un arall a ddywedai, 'Efallai y dylai ASau a bleidleisiodd dros rwystro'r Bil hwn dreulio wythnos gyda theuluoedd sy'n gofalu am blant ac oedolion ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig.' Nid yw'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol wedi gwneud unrhyw ymdrech o gwbl i fynd i'r afael â'r anghysonderau—[Torri ar draws.]
Nid wyf yn derbyn ymyriad.
Nid yw'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol wedi gwneud unrhyw ymdrech o gwbl i fynd i'r afael â'r anghysonderau yn y sylwadau hyn. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, a dywedasant, 'Nid ydym yn monitro ein llif 24 awr y dydd. Byddwn yn dileu unrhyw regfeydd a chyfraniadau amhriodol.' Mae'r cyfraniadau amhriodol yn dal yno ac mae'r rhegfeydd yn dal yno. Nid ydynt yn addysgu rhieni ynglŷn â pham y byddai Bil yn briodol neu'n amhriodol. Maent yn rhan o'r gêm wleidyddol gyda hyn.
Rwy'n falch, ac rwy'n rhannu llawer o dir cyffredin gydag Aelodau o bob plaid sydd wedi dweud ein bod wedi gwneud cynnydd ac sydd hefyd wedi nodi mai cyflwr ydyw, nid anhwylder; cytunaf yn llwyr â hynny. Ond buaswn yn dweud wrth Leanne Wood, a nododd bryder, nad yw'r status quo yn parhau. Mae newid yn digwydd; rwyf wedi'i weld. Ond mae gennyf bryderon a chredaf fod geiriad y cynnig heddiw'n well, ac mae'r ddadl hon wedi bod yn well na'r ddadl ar y Bil gwreiddiol, ond os gwelwch yn dda, os ydym yn mynd i wneud cynnydd, gadewch inni fwrw ymlaen ar sail drawsbleidiol.
Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon. Gwrthododd Llywodraeth Cymru fesur awtistiaeth Paul, gan ddweud wrthym nad oedd angen Deddf awtistiaeth arnom oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni newid gwirioneddol yn y gwasanaethau i'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistiaeth. Ond nid yw hynny'n wir bob amser, ydy e? Oherwydd nid yw honiadau Llywodraeth Cymru yn cyfateb i'r hyn a gyflawnir ar y rheng flaen.
Rydym yn methu ar amseroedd aros ar gyfer diagnosis, a chyflwynodd Llywodraeth Cymru amser aros ar gyfer atgyfeirio i gael asesiad niwroddatblygiadol sy'n ddwywaith yr amser aros a awgrymir gan ganllawiau NICE. Ni cheir data Cymru gyfan ar gyfer yr amser aros hwn, ond mae tystiolaeth anecdotaidd gan rai cleifion yn awgrymu nad yw'r targed o 26 wythnos yn cael ei gyrraedd. Mae'r galw am wasanaethau lawer yn fwy na'r cyflenwad mewn llawer o ardaloedd. Mae llawer o oedolion yn methu cael diagnosis, ac felly'n cael eu gadael heb gymorth. Dyma oedd un o'r prif resymau dros greu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae diffyg prosesau casglu data ac adrodd yn ei gwneud hi'n anodd asesu pa mor wir yw honiad Llywodraeth Cymru nad oes angen dim mwy nag amser i'r gwasanaethau ymsefydlu. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roeddem i fod i gael data ar amseroedd aros ar gyfer diagnosteg, a hyd yma nid yw'r wybodaeth hon wedi'i chyhoeddi ar gyfer plant, pobl ifanc nac oedolion.
Mae'r adroddiad 'Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig' gan y meddygon Holtom a Lloyd-Jones gan yr Uned Pobl a Gwaith yn nodi'n glir, er bod cynnydd wedi'i wneud, fod yna brinder adnoddau a loteri cod post o gefnogaeth i oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae'r adroddiad yn amlygu'n glir ein methiant i gefnogi oedolion ar y sbectrwm, ac mae'n dweud llawer na chafodd y rhan fwyaf o'r oedolion a gyfrannodd at yr adroddiad ddiagnosis cyn iddynt wynebu argyfwng. Nid yw hyn yn ddigon da. Ac rwy'n dal i honni bod angen Deddf awtistiaeth ar Gymru, a hyd nes y cawn bethau i drefn, bydd pobl o bob oed ar y sbectrwm yn dioddef o ganlyniad. Fel y mae'r meddygon Holtom a Lloyd-Jones yn nodi, mae mynediad at ofal cymdeithasol yn parhau i fod yn anodd er gwaethaf bodolaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Os nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi Deddf awtistiaeth, rhaid iddynt weithredu'n llawn argymhellion yr adroddiad, 'Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig'. Mae'r pwyllgorau, yn dilyn eu gwaith craffu cyn deddfu ar Fil awtistiaeth Paul Davies—. Rydym wedi gwneud cynnydd, ond nid yw'r cynnydd hwn yn ddigon cyflym, ac nid yw newid yn digwydd yn ddigon cyflym. Rydym wedi bod yn trafod gwelliannau i wasanaethau awtistiaeth ers blynyddoedd lawer, ac eto rydym yn dal i wneud cam â phobl awtistig a'u teuluoedd. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru weithredu neu gyflwyno'r Ddeddf y mae pawb ohonom wedi bod yn galw amdani. Ni allwn fforddio gwastraffu rhagor o flynyddoedd, ac ni all y rhai ar y sbectrwm aros llawer mwy. Diolch yn fawr.
Rwy'n sefyll y prynhawn yma ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd gan Aelodau ar draws y Siambr. Mae gan bob un ohonom brofiad ymhlith etholwyr, ac mewn gwirionedd mae gennym dad sydd wedi nodi yma ei fod yn profi ei sefyllfa ei hun. Os ydych yn adnabod Hefin David, fe fyddwch yn gwybod ei fod yn ei ddweud o'r galon, ac yn ei dweud hi fel y mae.
Mae angen inni sicrhau bod y gwasanaethau'n iawn. Gadewch i ni beidio â chuddio rhag y ffaith nad yw gwasanaethau'n gweithio'n iawn ac yn llwyr. Rwy'n cael etholwyr yn dod i fy ngweld i egluro'r anawsterau y maent yn eu hwynebu. Maent yn wynebu heriau a rhwystrau. Maent wedi blino'n lân, maent wedi ymlâdd. Maent yn ymdrin â'u plant. Maent yn mynd i mewn i'r ysgol i geisio brwydro dros eu plant. Maent yn mynd i mewn i'r system addysg i frwydro dros eu plant, ac mae rhai o'r plant hynny yn oedolion hefyd erbyn hyn. Mae angen rhoi sylw o hyd i faterion yn ymwneud â chyflogaeth.
Ond rydym yn symud ymlaen; mae'r adroddiad awtistiaeth yn dangos bod yna gynnydd. Nawr, o ran yr anghysonderau, rwy'n deall yn iawn pam fod anghysonderau oherwydd, pan gafodd yr adroddiad ei gynhyrchu ym mis Ebrill, nid oedd y gwasanaeth yn fy ardal i'n weithredol hyd yn oed. Dim ond ers mis Ebrill y mae wedi bod ar waith, ac rwyf wedi cyfarfod â'r arweinydd. Pan soniwn am y Bil, oherwydd mae i mewn yno, pleidleisiais yn ei erbyn; mae Paul Davies yn gwybod fy marn yn bendant iawn. Ond edrychais ar y cyngor arbenigol, edrychais ar farn amryw o feddygon a cholegau brenhinol ac mewn gwirionedd, ar ôl siarad ag arweinydd y gwasanaethau awtistiaeth yn fy ardal i, sy'n rhiant i blant awtistig ei hun, dywedodd nad oedd y Bil yn iawn. Ni fyddai wedi gweithio. Felly, ar un ystyr, gallwch wneud dadleuon emosiynol, ond nid yw pobl am gael dadleuon emosiynol—maent am gael canlyniadau ac maent am gael cymorth. A dyna lle'r ydym ni'n methu ar un ystyr, rwy'n credu: sut y mae sicrhau bod y gefnogaeth yno'n amserol? A dyna yw hyn mewn gwirionedd. Ni ddylem fod yn ceisio ei roi—nid wyf am ei feirniadu, ond dylem fod yn sicrhau, pan fydd ein hetholwyr yn dod i mewn, pan fyddant yn dod atom gydag unrhyw un sydd ag aelod awtistig o'u teulu, boed yn blentyn neu'n frawd neu'n chwaer, dylem allu sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Ac ni ddylent orfod brwydro amdano. Dyna'r frwydr sy'n rhaid i ni ei hymladd yma. Weithiau, mae hynny'n golygu ymwneud â chyrff cyhoeddus a sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn darparu'r gwasanaethau hynny. Daeth un rhiant i fy ngweld yr wythnos hon, a chafodd y plentyn ddiagnosis ei fod yn awtistig—felly mae'r diagnosis yno—ac mae ganddo ddatganiad, ond mae'r awdurdod lleol yn dal i fethu cyflawni anghenion y plentyn hwnnw, sy'n mynd i mewn i addysg amser llawn ym mis Medi, ac mewn gwirionedd mae angen cymorth un i un arnynt am mai dyna a ddywedai'r asesiad a'r ysgol y mae ynddi ar hyn o bryd. Dyna'r mecanwaith, dyna'r maes y mae angen i ni ganolbwyntio arno. Beth am ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y bobl hyn, gwneud yn siŵr eu bod yn eu cael. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn darparu'r meini prawf cywir—[Torri ar draws.]—ie, cyllid, rwy'n cytuno'n llwyr, ni allwch ddarparu rhai o'r gwasanaethau hyn heb gyllid, ond mae angen inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen arnynt i sicrhau bod eu teuluoedd ac unigolion awtistig yn gallu cael y bywyd y dylent ei gael.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel gyda Hefin David, mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant gan fod fy wyres agos i bump oed yn awtistig. Er bod diagnosis o awtistiaeth wedi'i wneud yn gynnar iawn, rwy'n credu mai ar hap a damwain y digwyddodd hynny yn hytrach na thrwy ymyrraeth asiantaethau lleol. Roedd gan athrawes yn y feithrinfa roedd hi'n ei mynychu blentyn awtistig ei hun ac felly tynnodd ein sylw at y ffaith ei bod yn dangos nodweddion awtistig. Gofynnodd ei rhieni am gyngor ar unwaith, a rhaid dweud bod y cymorth y maent yn ei gael ar ôl i'r cyflwr gael ei adnabod wedi bod yn ardderchog a bod y gefnogaeth gan y staff addysgu yn ei meithrinfa wedi bod yn rhagorol.
Fodd bynnag, mae'n dal yn ffaith nad yw llawer o blant awtistig yn cael diagnosis yn gynnar, ac felly nid yw ymyriadau mawr eu hangen yn digwydd. Mewn llawer o achosion, mae rhieni wedi wynebu brwydr hir ac anodd i gael diagnosis i'w plentyn, gan arwain at straen mawr a chyfnodau hir o aros am gymorth a chyngor. Efallai y gallai'r Gweinidog roi sylwadau ar y cynnydd a wnaed yn y maes hollbwysig hwn. Wrth gwrs, rhaid inni gydnabod sefydlu'r tîm datblygu cenedlaethol a'r cynnydd rhagorol y maent yn ei wneud, yn enwedig ym maes hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth sy'n cael ei gyflwyno ganddynt ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rydym hefyd yn derbyn bod y gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo, ond mae'r canlyniadau hyd yma yn galonogol iawn, ac rydym yn llongyfarch y tîm ar eu llwyddiannau ers ei sefydlu.
A allai'r Gweinidog ddweud beth y mae'n teimlo yw'r blaenoriaethau nesaf ar gyfer y tîm datblygu? Dylem hefyd gydnabod bod grwpiau awtistiaeth lleol yn gwneud gwaith rhagorol yn dod â rhieni plant awtistig at ei gilydd, a'u bod yn rhoi cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd mewn cysylltiad. Ni cheir ymyrraeth well i rieni plant awtistig nag ymyrraeth gan rieni plentyn awtistig. Fodd bynnag, os nad yw plentyn yn cael diagnosis ei fod yn awtistig, yn aml ni fydd rhieni plant o'r fath yn ymwybodol o grwpiau fel hyn ac felly maent yn colli cymorth mawr ei angen. A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gefnogaeth i grwpiau o'r fath?
Er y bu cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n ymddangos bod y gwasanaethau cymorth yn dameidiog o hyd, lle mae rhai ardaloedd yn rhoi cymorth rhagorol ar ôl cael diagnosis, tra bod eraill yn methu darparu'r cymorth sydd ei angen. Byddem yn gobeithio y bydd bwrdd datblygu'n lliniaru'r broblem hon yn y dyfodol drwy ddarparu sylfaen ar gyfer darpariaeth sy'n fwy cydgysylltiedig, gan hwyluso gwasanaeth mwy cyson ar draws yr holl awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd.
Yn olaf, Weinidog, a minnau'n dad-cu i blentyn awtistig, diolch i'r Llywodraeth am ei hymyriadau cadarnhaol hyd yma ond rydym yn eich annog i wneud yn siŵr fod cyllid digonol ar gael fel y gellir cynnal y gwasanaethau hyn mewn blynyddoedd i ddod. Ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo i'r cyllid hwn yn y dyfodol?
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith a wneir i wella'r cymorth gyda phobl awtistig ac ar eu cyfer. Rwy'n falch fod y cynnig yn cydnabod bod gwelliant gwirioneddol wedi bod, ond mae mwy i'w wneud, wrth gwrs. Ac rwyf am ddweud ar y dechrau fy mod yn cydnabod ymrwymiad gwirioneddol yr Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi siarad—ac yn yr un modd y rhai nad ydynt wedi siarad—i roi cymorth a chefnogaeth ymarferol ledled Cymru i wella bywydau pobl awtistig a'u teuluoedd. Yn fwyaf arbennig, rwy'n cydnabod yr effaith ar deuluoedd lle nad oes gwelliant yn cael ei wneud. Gwelaf hynny fel Gweinidog drwy fy ymwneud fy hun ond yn yr un modd yn fy rôl fy hun fel Aelod Cynulliad dros etholaeth.
Felly, mae'n bwysig nid yn unig i Aelodau ond hefyd i bobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr fod Llywodraeth Cymru yn dryloyw ynghylch maint ac ansawdd y ddarpariaeth bresennol. Dyna pam y cyhoeddais yr ail adroddiad blynyddol am strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth glir ar gyflawni ein hymrwymiadau yn y cynllun cyflawni ar awtistiaeth. Mae'r adroddiad hwnnw'n crynhoi'r cynnydd a wnawn yn erbyn pob un o'r amcanion yn y cynllun cyflawni, ac ochr yn ochr â hynny, mae'r tîm awtistiaeth cenedlaethol hefyd wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n dangos ystod eu llwyddiant yn cyflawni eu cynllun gwaith blynyddol, ac mae'r adroddiad yn dangos yn glir y gefnogaeth i gyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae partneriaethau cryf ar waith bellach, mae codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant ychwanegol yn digwydd, ac mae pwyslais gwirioneddol ar gynnwys pobl awtistig yn eu gwaith. Gwelwyd tystiolaeth o'r cyfranogiad hwnnw yn y gynhadledd awtistiaeth genedlaethol ddiweddar ar gyfer oedolion, a gydgynhyrchwyd gan bobl awtistig. Rwy'n falch iawn o ddweud bod yna adborth cadarnhaol i bobl awtistig a gymerodd ran, er y buaswn yn cydnabod bod hwn yn grŵp yn ein cymdeithas sydd wedi dweud wrthyf yn rheolaidd eu bod yn gallu teimlo'n anweledig a bod eu hanghenion yn gallu cael eu hanwybyddu.
Fodd bynnag, mae gwaith y tîm cenedlaethol yn dangos bod gwell yn bosibl mewn gwirionedd. I barhau â gwaith y tîm cenedlaethol, rwyf wedi cytuno ar gyllid o dros £145,000 i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu cynllun gwaith ar gyfer eleni, ac rwy'n cytuno â'r teimladau y tu ôl i'r cynnig fod yn rhaid i'r diwygiadau rydym yn eu gwneud ddiwallu anghenion pobl awtistig a gwella eu canlyniadau unigol.
Ers 2015, rydym wedi targedu gwaith drwy'r rhaglen plant a phobl ifanc. Erbyn hyn mae gan ei ffrwd waith niwroddatblygiadol dimau niwroddatblygiadol dynodedig ym mhob ardal ac rydym wedi sefydlu safonau gwasanaeth cenedlaethol a llwybrau atgyfeirio. Wrth i ni agosáu at ddiwedd y rhaglen hon, rydym yn gweithio i sefydlu trefniadau etifeddol priodol i sicrhau bod y cynnydd a wneir mewn gwasanaethau niwroddatblygiadol yn parhau yn y dyfodol ac er mwyn sicrhau tryloywder wrth i ni ddatblygu, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad dros yr haf sy'n adlewyrchu sefyllfa'r gwasanaeth yn erbyn pob un o'i safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt. Bydd yn gwneud argymhellion ar ble y dylai datblygiadau ganolbwyntio yn y dyfodol.
Rhaid i ni sicrhau hefyd fod gwasanaethau'n cael eu cefnogi i gyflawni'r safon amser aros o 26 wythnos ar gyfer asesu. Mae byrddau iechyd wedi dechrau adrodd data i Lywodraeth Cymru ac rydym yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod cofnodion ansawdd data yn cyrraedd y safon er mwyn ein galluogi i'w cyhoeddi fel rhan o set ddata genedlaethol. Ac felly rwy'n hapus i ail-wneud yr ymrwymiad i wneud hynny. Mae'r gwasanaethau niwroddatblygiadol hefyd yn gweithio i ddatblygu trefniadau monitro cyfoethocach sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Bydd y rheini'n adlewyrchu gwelliannau mewn canlyniadau unigol.
Ac ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig, mae pob un o'r saith rhanbarth bellach ar agor ac rydym yn gweithredu system monitro data sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac a gefnogir gan Data Cymru. Bydd y data hwn yn darparu gwybodaeth ar sut y mae pob gwasanaeth yn cyflawni'r safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt ac yn cynnwys ffurflenni adborth rhieni, gofalwyr ac oedolion awtistig.
Mae pob gwasanaeth hefyd yn defnyddio'r dull sêr canlyniadau i fesur y pellter a deithiwyd gan bob unigolyn a gefnogir drwy'r gwasanaeth. Fel hyn, bydd gennym ddarlun clir o sut y mae'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fudd i bobl sy'n ceisio cymorth. Mae'r casglwr data wedi cael ei dreialu i brofi ansawdd a chysondeb a byddwn yn sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd cyn gynted â phosibl.
Yn gynharach eleni, cyhoeddasom y gwerthusiad annibynnol o gyflawniad y gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae'n cydnabod ymrwymiad byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i lansio'r gwasanaeth ym mhob ardal o Gymru. Rwy'n cefnogi gwerthusiad pellach o'r gwasanaeth a'r strategaeth awtistiaeth eleni.
Ariennir y gwasanaeth awtistiaeth integredig hyd at 2021 ar y cynharaf. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwnnw gyda risg yn erbyn cyllidebau yn y dyfodol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwn yn parhau i gefnogi a monitro ei ddatblygiad. Byddaf mewn sefyllfa i ystyried cyllid yn y dyfodol pan gawn rywfaint o eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â’n setliad ar gyfer 2021 a thu hwnt.
Felly, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol, ond rwy'n gwybod o siarad â phobl awtistig a gwrando arnynt fod cryn bellter i’w deithio o hyd ac nid wyf erioed wedi ceisio honni fel arall. Byddwn yn parhau i ofyn am adborth ar ein diwygiadau ac i fynd i'r afael â rhwystrau gwirioneddol i wella. Felly, rydym yn gwrando ar bryderon rhanddeiliaid a gasglwyd trwy werthuso a thrwy graffu ar y Bil awtistiaeth a'r ymgynghoriad diweddar ar y cod awtistiaeth.
Yn ddiweddar, cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr o golegau brenhinol i drafod y pwysau parhaus ar wasanaethau iechyd. Ac mae'r heriau hynny i’r gweithlu yn real, ac nid ydynt yn hawdd eu datrys, ond mae gennym gynllun ac rydym yn gwneud mwy o gynnydd. Rwyf am weld cyflymder a maint y gwelliant hwnnw'n parhau i gynyddu, a thryloywder ynghylch y cynnydd a wnaethom a'r heriau sy'n dal i fodoli. Felly, rwyf wedi comisiynu adolygiad ychwanegol ar y rhwystrau parhaus i leihau amseroedd aros asesu ac alinio gwasanaethau awtistiaeth a niwroddatblygiadol ac unwaith eto, byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad hwnnw cyn gynted ag y bydd ar gael. Rwy'n disgwyl iddo fod ar gael dros yr haf.
Mae'n cadarnhau i mi, fodd bynnag, y pryderon a glywais yn uniongyrchol gan deuluoedd a grwpiau cymorth awtistiaeth ynghylch galw a chapasiti o fewn y gwasanaethau asesu plant ac oedolion. Mae'n amlwg fod angen clir i ddeall yn fanwl sut y mae'r pwysau'n effeithio ar wasanaethau cyfredol, ac wrth hynny, rwy'n golygu gwasanaethau awtistiaeth a gwasanaethau iechyd meddwl cysylltiedig a gwasanaethau plant. Felly, byddwn yn gwneud y gwaith hwn gyda'n partneriaid dros y flwyddyn nesaf. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion am ein cynlluniau ar ôl iddynt gael eu cwblhau.
Yn olaf, rydym yn datblygu ein rhaglen gwella awtistiaeth trwy gyflwyno cod ymarfer awtistiaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Yn gynharach eleni, cynhaliwyd ymgynghoriad ar ein cynigion. Cynhaliwyd saith digwyddiad ymgysylltu ledled Cymru gyda'r gymuned awtistig a chawsom 65 o ymatebion ysgrifenedig. Cyhoeddais grynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad yr wythnos diwethaf ac rwy'n falch fod cefnogaeth dda i'n dull gweithredu yn gyffredinol. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys pobl awtistig eu hunain wrth gwrs, i ddatblygu'r cod. Bydd hyn yn cynnwys archwilio'r holl argymhellion a wnaed drwy adroddiadau pwyllgorau, ein gwerthusiad, ymgynghoriadau diweddar, a mapio ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r cod ymarfer drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Mae'n hanfodol fod y cod awtistiaeth yr ydym yn ei gyflwyno yn gyflawnadwy, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau y disgwylir iddynt gyflawni'r dyletswyddau y mae'n eu cynnwys yn gallu gwneud y gwaith heb niweidio gwasanaethau eraill y bydd pobl eraill yn parhau i ddibynnu arnynt. Bydd y gwaith yr ydym yn ei gychwyn yn awr yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol ar gyllid mwy hirdymor ac ail-gyflunio gwasanaethau i bobl â chyflyrau niwroddatblygiadol a phobl awtistig. Rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig, fel y dywedais droeon yn y gorffennol, i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i wella ac i'r buddsoddiad hirdymor rwy’n cydnabod y bydd ei angen er mwyn gwneud i hynny ddigwydd.
Diolch. A gaf fi alw ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Weinidog, am eich ateb. Ond gadewch i ni fod yn glir yma heddiw, ni all neb amau nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig ac eraill yn y Siambr hon yn teimlo'n angerddol ynglŷn â sicrhau gwelliant o ran darpariaeth ddigonol i'r rhai sydd ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Rydym wedi cael ein hatgoffa o hyn heddiw ac nid oes angen i ni ond edrych yn ôl i fis Ionawr, pan wrthododd Llywodraeth Lafur Cymru y Bil gan Paul Davies AC, er cywilydd iddynt, Bil awtistiaeth (Cymru). Bil—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf, na.
Bil y pleidleisiwyd drosto pan gafodd ei gyflwyno yn 2015. Eto, ar ôl y cam hwnnw y daeth y gwleidyddoli i mewn—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Hefin, ond dyna'r ffaith.
Fel yr eglurodd fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon, mae'n hollbwysig i lwyddiant cyffredinol y gwasanaeth awtistiaeth integredig fod Llywodraeth Cymru yn ystyried yn llawn y materion a godwyd gan y gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac adroddiad terfynol y cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig, a'i bod yn gweithredu ei argymhellion. Yn wir, mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru hyd yn oed wedi dweud ei fod yn rhoi darlun clir o ble mae angen gwneud gwelliannau yn awr. Roedd Mark Isherwood yn llygad ei le'n tynnu sylw at y galwadau am weithredu gwell, gan gryfhau grymuso awtistiaeth a chynllun gweithredu ar gyfer addysg a chyflogaeth a'r gwerth y maent yn ei ychwanegu i'r gweithle.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru unman i guddio, felly mae angen iddi gytuno i'r newid y mae'r Aelodau sy'n eistedd ar y meinciau hyn a rhai draw acw yn ei geisio. Yn wir, nid yw'n dderbyniol dweud yn syml y caiff hyn ei ystyried gan dîm polisi awtistiaeth Llywodraeth Cymru fel rhan o'r broses o ddatblygu cod ymarfer awtistiaeth a datblygu polisi yn 2019-20.
Rwy'n poeni am y ffaith bod adroddiad blynyddol y cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig ar gyfer 2018-19 yn amwys yn ei gynigion, ac mae llawer o fy etholwyr a'u teuluoedd yn poeni am hynny hefyd. Mae angen cymorth ariannol i gefnogi datblygiad y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i derfyn amser 2021. Yn sicr ddigon, dylech roi tawelwch meddwl i ddefnyddwyr gwasanaethau yn awr drwy gytuno i egluro'r trefniadau ariannu ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn y dyfodol. Mae galwadau wedi'u gwneud am ddatblygu system fonitro glir a chyson i ddarparu digon o gymorth a gwasanaethau i'r rhai sydd ag awtistiaeth a'u teuluoedd sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt, gan osod y gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach o gefnogi pobl awtistig a chyflawni blaenoriaethau gweithredu gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg.
Helen Mary, roeddech yn llygad eich lle'n cefnogi'r angen i wrando ar y teuluoedd yn hyn i gyd a'r rheini sy'n dioddef yn sgil awtistiaeth—sut y gallant chwarae rhan mewn gwirionedd yn darparu'r union wasanaethau sydd eu hangen arnynt, a sut, yn anffodus, o heddiw ymlaen, y mae pobl sydd ag awtistiaeth—[Torri ar draws.] Yr hyn sy'n warthus yw eich bod wedi gwrthod y Bil, felly dyna ddigon gennych chi.
Erfyniaf ar y Siambr i dderbyn ein cynnig.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
O'r gorau. Rydym wedi cael llond bol ar y meinciau hyn o 'dileu popeth a rhoi yn ei le'. Mae'n hen bryd i chi gael parch at eich gwrthbleidiau, mae'n hen bryd i chi gael parch at bob Aelod yn y Cynulliad hwn, a phan fydd Aelod yn cael cyfle i gyflwyno Bil, mae'n bryd i chi ddangos rhywfaint o ddewrder—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—a chaniatáu i Filiau o'r fath fynd yn eu blaenau. A dweud y gwir, fi sydd â chywilydd ohonoch chi a'ch meinciau.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.