Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel gyda Hefin David, mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant gan fod fy wyres agos i bump oed yn awtistig. Er bod diagnosis o awtistiaeth wedi'i wneud yn gynnar iawn, rwy'n credu mai ar hap a damwain y digwyddodd hynny yn hytrach na thrwy ymyrraeth asiantaethau lleol. Roedd gan athrawes yn y feithrinfa roedd hi'n ei mynychu blentyn awtistig ei hun ac felly tynnodd ein sylw at y ffaith ei bod yn dangos nodweddion awtistig. Gofynnodd ei rhieni am gyngor ar unwaith, a rhaid dweud bod y cymorth y maent yn ei gael ar ôl i'r cyflwr gael ei adnabod wedi bod yn ardderchog a bod y gefnogaeth gan y staff addysgu yn ei meithrinfa wedi bod yn rhagorol.
Fodd bynnag, mae'n dal yn ffaith nad yw llawer o blant awtistig yn cael diagnosis yn gynnar, ac felly nid yw ymyriadau mawr eu hangen yn digwydd. Mewn llawer o achosion, mae rhieni wedi wynebu brwydr hir ac anodd i gael diagnosis i'w plentyn, gan arwain at straen mawr a chyfnodau hir o aros am gymorth a chyngor. Efallai y gallai'r Gweinidog roi sylwadau ar y cynnydd a wnaed yn y maes hollbwysig hwn. Wrth gwrs, rhaid inni gydnabod sefydlu'r tîm datblygu cenedlaethol a'r cynnydd rhagorol y maent yn ei wneud, yn enwedig ym maes hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth sy'n cael ei gyflwyno ganddynt ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rydym hefyd yn derbyn bod y gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo, ond mae'r canlyniadau hyd yma yn galonogol iawn, ac rydym yn llongyfarch y tîm ar eu llwyddiannau ers ei sefydlu.
A allai'r Gweinidog ddweud beth y mae'n teimlo yw'r blaenoriaethau nesaf ar gyfer y tîm datblygu? Dylem hefyd gydnabod bod grwpiau awtistiaeth lleol yn gwneud gwaith rhagorol yn dod â rhieni plant awtistig at ei gilydd, a'u bod yn rhoi cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd mewn cysylltiad. Ni cheir ymyrraeth well i rieni plant awtistig nag ymyrraeth gan rieni plentyn awtistig. Fodd bynnag, os nad yw plentyn yn cael diagnosis ei fod yn awtistig, yn aml ni fydd rhieni plant o'r fath yn ymwybodol o grwpiau fel hyn ac felly maent yn colli cymorth mawr ei angen. A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gefnogaeth i grwpiau o'r fath?
Er y bu cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n ymddangos bod y gwasanaethau cymorth yn dameidiog o hyd, lle mae rhai ardaloedd yn rhoi cymorth rhagorol ar ôl cael diagnosis, tra bod eraill yn methu darparu'r cymorth sydd ei angen. Byddem yn gobeithio y bydd bwrdd datblygu'n lliniaru'r broblem hon yn y dyfodol drwy ddarparu sylfaen ar gyfer darpariaeth sy'n fwy cydgysylltiedig, gan hwyluso gwasanaeth mwy cyson ar draws yr holl awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd.
Yn olaf, Weinidog, a minnau'n dad-cu i blentyn awtistig, diolch i'r Llywodraeth am ei hymyriadau cadarnhaol hyd yma ond rydym yn eich annog i wneud yn siŵr fod cyllid digonol ar gael fel y gellir cynnal y gwasanaethau hyn mewn blynyddoedd i ddod. Ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo i'r cyllid hwn yn y dyfodol?