Part of the debate – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 5 Medi 2019.
Rwyf am ddechrau drwy ddweud ei bod yn hollol iawn inni fod wedi dod ynghyd i drafod Brexit heddiw. Mae'r digwyddiadau digynsail a welwyd yn San Steffan, y bygythiad go iawn o Brexit heb gytundeb gwrth-ddemocrataidd a dinistriol yn ei gwneud hi'n ofynnol i Gymru drafod y materion hyn yma yn ein Cynulliad Cenedlaethol ein hunain. O ystyried yr effaith enfawr y byddai Brexit heb gytundeb yn ei chael ar bobl Cymru ac ar y cyllidebau, y polisïau a'r rhaglenni a roddir mewn grym gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhyfeddol y gallai unrhyw un wrthwynebu'r syniad y dylid cynnal dadl ar hyn ar frys. Felly, wrth gwrs ei bod hi'n hollol iawn inni fod yn trafod hyn heddiw. Nid dilysrwydd y ddadl hon yw'r hyn y dylai meinciau'r Ceidwadwyr gnoi cil arno, ond dilysrwydd eu hawl i edrych arnynt eu hunain yn y drych bore yfory. Maent hwy'n gwybod, rwy'n gwybod, mae pawb yn gwybod bod llawer o'u plith heb fod yn credu'r brawddegau y maent yn teimlo bod yn rhaid iddynt eu lleisio er mwyn rhoi rhywfaint o hygrededd i gambl Boris Johnson gyda dyfodol y wlad hon. Rwy'n talu teyrnged i David Melding a'r ffordd y mae wedi darparu sylwebaeth ddeallusol onest a chraff drwy'r dyddiau cythryblus diwethaf hyn. Y tu hwnt i'r sylw hwnnw, nid wyf am enwi enwau, ond rydych chi'n gwybod pwy ydych chi ar y meinciau hynny, ac nid oes gennych yr esgus eich bod yn cael eich arwain gan Andrew R.T. Davies mwyach.
Mae gan Gymru hawl i ddisgwyl gwell. Gallwch sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn yr un ffordd ag y sicrhaodd 21 o'ch cyd-Aelodau fod eu lleisiau hwy'n cael eu clywed yn y Senedd—ASau'n cynnwys Tad y Tŷ, ŵyr Winston Churchill a Changhellor blaenorol y Trysorlys. Rwy'n gofyn hyn ichi heddiw, yn yr eiliad hon o argyfwng i Gymru a'r DU, os gall Philip Hammond sefyll a chael ei gyfrif, oni allwch chi wneud yr un fath? Oni allwch chi ddweud y gwir wrthym—eich bod wedi eich dychryn gan y syniad o Brexit heb gytundeb, wedi eich brawychu gan gastiau gwrth-ddemocrataidd y Prif Weinidog ac yn cywilyddio wrth weld aelodau da o'ch plaid, gan gynnwys cyn-aelod o'r Cynulliad hwn, yn cael eu diarddel gan y sect sydd wedi goresgyn eich plaid yn San Steffan? Fe ildiaf i Andrew R.T. Davies.