Part of the debate – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 5 Medi 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Dorfaen am ildio. A ydych yn dweud ei fod yn annemocrataidd pan fo'r Prif Weinidog wedi bod ar ei draed am y 24 awr ddiwethaf yn galw am etholiad cyffredinol er mwyn iddo allu cyflwyno'i ddadl i'r bobl, i'r bobl allu penderfynu a ydynt am gael y ddadl honno? Ac mae'r Prif Weinidog ei hun wedi pwysleisio'r pwynt ei fod am gael cytundeb. Felly, pam na wnewch chi gefnogi etholiad cyffredinol er mwyn i'r bobl gael lleisio barn?