Part of the debate – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 5 Medi 2019.
Nid wyf yn ymddiried yn y Prif Weinidog, sydd wedi osgoi ac ochrgamu, a throi a throelli, ac sydd heb unrhyw hygrededd ar y mater hwn, gydag etholiad ar Brexit. Rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir i wrthwynebu etholiad cyffredinol ddoe, i geisio ffrwyno'r Prif Weinidog hwn ar fater pwysicaf ein hoes.
Yr unig amddiffyniad y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig am ei ymddygiad yw ei fod yn ceisio anrhydeddu pleidlais Brexit 2016. Ond gadewch i ni edrych ar beth y mae pobl yn ei ddweud heddiw. Roedd arolwg barn yr wythnos hon yn gwbl ddinistriol ynglŷn â dull gweithredu'r Prif Weinidog. Yn ôl y pleidleiswyr, roedd 46 y cant o bobl yn credu bod y modd y mae Johnson wedi atal y Senedd yn annemocrataidd o gymharu â 32 y cant a gredai fel arall. Mae penderfyniad y Prif Weinidog i gael gwared ar 21 o'i ASau, gan gynnwys dau gyn-Ganghellor y Trysorlys, ac ŵyr Winston Churchill, o'i blaid hefyd yn cael ei weld yn annemocrataidd gan 45 y cant o bobl o'i gymharu â 32 y cant a gredai fel arall. Dim ond un rhan o bump o bleidleiswyr sy'n credu bod pobl wedi pleidleisio dros adael heb gytundeb yn 2016. Nid oes gan y Prif Weinidog fandad i adael heb gytundeb gan y Senedd, gan y bobl ac yn sicr nid gan y Cynulliad hwn, sydd wedi pleidleisio yn erbyn Brexit heb gytundeb dro ar ôl tro. Mae pleidleiswyr yn credu, o 2:1, fod Johnson yn poeni mwy am ei les personol na lles y wlad. Mae'r arolwg barn hefyd yn dangos bod pleidleiswyr yn credu, o 3:1, y byddai gadael heb gytundeb yn ddrwg i safonau byw eu teuluoedd, ac o 2:1 y bydd yn gwneud economi Prydain yn wannach ac yn gwaethygu'r GIG. Yn olaf, canfu'r arolwg barn nad yw pobl am gael etholiad cyffredinol ond maent am gael pleidlais arall i'r bobl.
Clywsom lawer yn y Cynulliad hwn am barchu safbwyntiau'r cyhoedd yng nghyd-destun Brexit, a gobeithio bod yr Aelodau'n hapus i roi'r hyn y maent ei eisiau i'r bobl a rhoi llais terfynol iddynt ar hyn, oherwydd mae cost ddynol barhaus i hyn oll. Yr wythnos hon gwelsom gyhoeddiad Tata Steel yng Nghasnewydd, ac rydym i gyd yn gwybod bod busnesau ar hyd a lled Cymru yn gwneud penderfyniadau gweithredol i beidio â buddsoddi, i beidio â chyflogi pobl, tra bo bygythiad gadael heb gytundeb yn llercian ar y gorwel.
Nawr, mae'n ddyletswydd arnom yn y Cynulliad hwn gan hynny i weithio gyda'n gilydd ar draws ffiniau pleidiau. Rydym yn hoff o ddweud ein bod yn wahanol i San Steffan ac yn gwrthod gwleidyddiaeth frygowthlyd Tŷ'r Cyffredin, ond yr wythnos hon rydym ar ei hôl hi o gymharu â'r ASau. Dangosasant yr hyn y gellir ei gyflawni wrth i Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, yr SNP ac, ie, rhai Torïaid, weithio gyda'i gilydd er lles y wlad i wrthwynebu gambl beryglus Boris Johnson. Mae angen inni wneud yr un peth yma.
Rwy'n credu mai'r ddelwedd a fydd yn parhau yn y cof o Lywodraeth Boris Johnson—a fydd yn un fyrhoedlog iawn yn fy marn i—fydd y darlun o Jacob Rees-Mogg yn gorweddian ar y fainc flaen yn y Senedd: delwedd berffaith o fraint ddi-hid, rhywun sy'n gallu fforddio peidio â malio. Os na wnawn ddim byd arall yn y Siambr hon heddiw, rwyf am inni ystyried beth fydd y darlun a fydd yn parhau yn y cof o'r lle hwn pan ysgrifennir hanes Brexit. Mae gennym gyfle o hyd i'w wneud yn ddarlun o oddefgarwch, cydweithrediad a her yn wyneb fandaliaeth economaidd. Erfyniaf ar Aelodau o bob rhan o'r Siambr—yn enwedig draw acw—i sefyll a chael eu cyfrif, i ychwanegu eu llais yn erbyn gadael heb gytundeb, i ychwanegu eu cefnogaeth i roi eu llais yn ôl i'r bobl. Rhowch y gair olaf i'r bobl.